Cyngor Gwynedd/Gwynedd County Borough Council - Estyn
Darpariaeth trochi yn y Gymraeg - Cyngor Gwynedd

Cyngor Gwynedd/Gwynedd County Borough Council

Estyn logo on a blue background

Arolygiadau

Arolygiad/ymweliad nesaf Dim manylion ar gael
Dyddiad cyhoeddi'r adroddiad nesaf Dim manylion ar gael

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Cynllunio bwriadus i sicrhau dilyniant a pharhad wrth gefnogi disgyblion i gaffael medrau Cymraeg mewn cyd-destun cyfoes

Cynllunio bwriadus i sicrhau dilyniant a pharhad wrth gefnogi disgyblion i gaffael medrau Cymraeg mewn cyd-destun cyfoesMae cydweithio’r athrawon ar y cynllun ‘Aberwla’ wrth gyfoesi’r ddarpariaeth flaenorol, yn eu cefnogi i adeiladu’n systematig ar yr egwyddorion allweddol wrth i ddisgyblion gaffael y Gymraeg. Mae athrawon yn gweithredu’r cynllun i ddarparu ystod o weithgareddau cyson a difyr sy’n galluogi’r disgyblion i gaffael geirfa a phatrymau brawddeg yn fwriadus a chydlynus. Trwy gyfrwng adnoddau arloesol sy’n cefnogi’r dysgu yn werthfawr, darperir profiadau dysgu sy’n caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio adnoddau rhithwir wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg mewn cyd-destun pwrpasol a chynhwysol, er enghraifft wrth ymweld ag ystod o adeiladau ym mhentref ‘Aberwla’. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fagu hyder y disgyblion a’u mwynhad wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn eu cymuned.

Manylion

Cyfeiriad

Gwynedd County Council
Council Offices
Caernarfon
LL55 1SH