Meithrin datblygiad proffesiynol staff
"Mae cynllun gwella strategol tair blynedd Ysgol Greenfield yn adlewyrchu gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer gwelliant parhaus ac yn adeiladu’n llwyddiannus ar feysydd gwella a nodwyd. Mae mentrau fel grwpiau ymholi i effaith a hunanwerthuso cydweithredol yn meithrin diwylliant myfyriol a chynhwysol. Mae ymholi strategol a chydweithio rhyngwladol wedi cryfhau diwylliant myfyriol yr ysgol ymhellach. Mae gweithgareddau dysgu proffesiynol, fel arsylwi gwersi rhwng cymheiriaid a phartneriaethau rhwng ysgolion, wedi cefnogi gwelliannau mewn arferion. Mae cymryd rhan mewn rhaglen arweinyddiaeth ryngwladol wedi gwella dealltwriaeth arweinwyr o sut i ddefnyddio data a thystiolaeth arall i werthuso effeithiolrwydd darpariaeth yr ysgol ac wedi atgyfnerthu gwerth cydweithio. Mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i welliant parhaus, addysg gynhwysol a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Mae dysgu proffesiynol yn elfen sydd wedi’i gwreiddio’n dda yng ngwaith Ysgol Greenfield ac sy’n ymateb i anghenion. Mae’n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau strategol ac wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion cymhleth disgyblion. Mae staff yn elwa ar gyfuniad o hyfforddiant ffurfiol, cyfleoedd dysgu anffurfiol a phartneriaethau rhyngwladol, ac mae ymdeimlad cynyddol o berchnogaeth dros eu datblygiad eu hunain. Mae arweinyddiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod targedau dysgu proffesiynol yn cyfrannu’n ystyrlon at welliant ysgol gyfan."