Darparu amgylchedd hynod effeithiol ar gyfer disgyblion iau
Mae dull yr ysgol o ddatblygu’r amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion iau yn gryfder sylweddol. Mae athrawon wedi cynllunio amgylchedd dan do ac awyr agored yn ofalus, sydd ag adnoddau da ac sy’n hyrwyddo medrau dysgu annibynnol disgyblion yn effeithiol. Mae staff yn gwneud defnydd rhagorol o dir yr ysgol gyfan i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio byd natur, datblygu eu medrau corfforol, mathemategol a chyfathrebu ac ennyn eu chwilfrydedd. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefelau uchel o ymgysylltiad wrth chwarae ochr yn ochr ag eraill neu wrth ddilyn eu diddordebau a’r pethau sy’n eu cyfareddu yn annibynnol. Mae staff yn adeiladu ar y dull hwn yn llwyddiannus wrth i ddisgyblion symud drwy’r ysgol. Mae athrawon a staff cymorth yn parhau i gefnogi disgyblion yn dda i ddangos eu creadigrwydd a’u gallu i feddwl yn feirniadol yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm.