Ysgol Deiniol C.P. - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdestref Sirol Wrecsam

Ysgol Deiniol C.P.

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Dull ysgol gyfan o ddatblygu disgyblion yn ysgrifenwyr effeithiol

Mae’r ysgol wedi mabwysiadu dull pwrpasol a chynyddol o addysgu ysgrifennu yn llwyddiannus er mwyn rhoi’r medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion a’u paratoi i ysgrifennu’n estynedig. Mae athrawon yn cydweithio i addasu cynlluniau a’r ddarpariaeth er mwyn ysgogi a pharatoi disgyblion a modelu gwaith cyn iddynt ddechrau ar eu gwaith ysgrifenedig. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r broses ysgrifennu fesul cam er mwyn galluogi disgyblion i lwyddo. Mae athrawon yn darparu cyfleoedd cyffrous a pherthnasol i ysgrifennu ac yn rhoi adborth effeithiol i ddisgyblion. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymgysylltu’n gadarnhaol â gweithgareddau ysgrifennu ac, erbyn Blwyddyn 6, mae llawer ohonynt yn llwyddo i greu gwaith ysgrifenedig o safon uchel ar draws y cwricwlwm.

Manylion

Cyfeiriad

The Ridgeway
Marchwiel
LL13 0SB