Caedraw Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Caedraw Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Y Gymraeg a diwylliant Cymru

Mae datblygu’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn gryfder sylweddol. Mae ffocws ysgol gyfan ar ddatblygu medrau llafaredd Cymraeg disgyblion, ac mae staff yn gweithredu fel modelau iaith cryf. Mae staff yn hyrwyddo’r Gymraeg yn llwyddiannus trwy ei defnyddio’n ddyddiol a darparu cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion gymhwyso eu medrau mewn cyd-destunau dilys, fel gwasanaethau a grwpiau llais y disgybl. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu defnyddio patrymau brawddegau uchelgeisiol sy’n eu helpu i ddatblygu eu medrau llafaredd yn hyderus. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg ac yn ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig.

Manylion

Cyfeiriad

Caedraw Road
Merthyr Tydfil
CF47 8HA