Datblygu’r Cwricwlwm ‘Cynefin’
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u hardal leol a’r byd ehangach yn hynod effeithiol. Mae cwricwlwm yr ysgol yn meithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn ymhlith disgyblion trwy brofiadau pwrpasol, fel ymgysylltu ag ymwelwyr lleol a chymryd rhan yng nghyngherddau a gwobrau Treftadaeth Cymru. Mae staff yn darparu gweithgareddau ystyrlon sy’n cysylltu digwyddiadau hanesyddol yng Nghymru â chyd-destunau bywyd go iawn, gan ddiwallu anghenion a diddordebau disgyblion yn effeithiol. Mae’r dull penodol hwn o weithredu Cwricwlwm Cynefin yn sicrhau dyfnder dealltwriaeth ac yn cefnogi deilliannau cadarnhaol i ddysgwyr.