Aran Hall School - Estyn
Ysgolion annibynnol - Cyngor Gwynedd

Aran Hall School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Rhaglen Achieve!

Mae rhaglen Achieve! yr ysgol yn cryfhau ei diwylliant o ofal a chysondeb yn effeithiol. Mae’r fframwaith cynhwysol hwn yn dathlu cynnydd academaidd, cymdeithasol a phersonol disgyblion ac yn darparu llwybr clir sy’n cydnabod ymdrech, cyfrifoldeb a chyflawniad. Mae staff yn ei roi ar waith yn gyson i hyrwyddo agweddau ac ymddygiad cadarnhaol, gan annog disgyblion i osod nodau, myfyrio ar eu cynnydd ac ymfalchïo yn eu llwyddiannau. Mae hyblygrwydd y fframwaith yn galluogi pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion cymhleth, i gyflawni mewn ffordd ystyrlon. Mae rhieni’n gwerthfawrogi’r rhaglen ac yn nodi ei bod yn helpu eu plant i ddeall disgwyliadau, datblygu hunanddisgyblaeth a rhannu eu cyflawniadau gartref. Trwy gydnabod dyfalbarhad, gwaith tîm, empathi ac arweinyddiaeth, mae’r rhaglen yn datblygu annibyniaeth ac ymwybyddiaeth gymdeithasol disgyblion. Mae’n cryfhau eu medrau cyfathrebu, cydweithio a datrys problemau, gan gefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae disgyblion yn magu hyder wrth ymdopi â heriau, mentro a dathlu llwyddiannau pobl eraill. At ei gilydd, mae rhaglen Achieve! yn gwneud cyfraniad sylweddol at gymhelliant a hunan-barch disgyblion a’u parodrwydd ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol.

Manylion

Cyfeiriad

Rhydymain
Dolgellau
Gwynedd
Gwynedd
LL40 2AR