Article details

Liz Counsell, AEM
By Liz Counsell, AEM
Postiadau blog |

‘Syr, beth oedd glo?’ A yw ysgolion yn addysgu’n ddigon da am hanes a diwylliant Cymru?

Share this page

Pa mor dda y mae ysgolion yn addysgu disgyblion am hanes a diwylliant eu hardal leol a Chymru’n gyffredinol? Ceir cyfleoedd gwych ar gyfer newid, gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd i Gymru.

Pam mae addysgu hanes Cymru’n bwysig?

Pan oeddwn i’n ddirprwy bennaeth mewn ysgol yng Nghaerdydd, es i â grŵp o ddisgyblion i Barc Treftadaeth y Rhondda fel rhan o daith ‘gwobrwyo’ a drefnwyd gan elusen leol. Ar ôl taith ddiddorol o amgylch y pwll glo, trodd un o’r plant ataf a gofyn a oeddem yn arfer bwyta glo! Roedd hyn yn ysgytwad – pa mor dda ydyn ni’n addysgu plant yn ein hysgolion am hanes Cymru, yn enwedig hanes yr ardal leol? Yn gryno, heb lo, ni fyddai’r mwyafrif o Gaerdydd wedi’i ddatblygu o gwbl, ac eto roedd y plant hyn yn yr 21ain ganrif yn gwybod dim am y pwnc.

miners

Beth sy’n digwydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd?                             

Yn ystod ein gwaith arolygu, anaml iawn y byddwn yn dod ar draws ysgolion sy’n addysgu disgyblion yn dda am hanes eu hardal leol. Nid yw’r rhan fwyaf o blant iau yn gwybod pam y sefydlwyd eu tref neu ddinas benodol, neu am hanes ardal fwy gwledig.

Mae’r un peth yn wir am ddiwylliant ardal, a diwylliant Cymru’n gyffredinol. Gofynnwch iddyn nhw enwi pobl enwog o Gymru, ac mae’r mwyafrif o blant yn aml yn gwybod dim y tu hwnt i Gareth Bale, rhai chwaraewyr rygbi rhyngwladol a Syr Tom Jones (nid o reidrwydd oherwydd ei yrfa nodedig fel canwr, ond oherwydd ei ymddangosiadau diweddar ar y teledu).

Mae ffigyrau blaenllaw yng Nghymru, gan gynnwys Siân Gwenllian a Suzy Davies sy’n Aelodau’r Cynulliad, a’r hanesydd Cymreig Dr Elin Jones, yn dadlau’r achos dros gyflwyno cwricwlwm hanes mwy cadarn ar gyfer disgyblion yng Nghymru.

Yn 2015, dywedodd Dr Elin Jones, a ysgrifennodd adroddiad ar y pwnc ar gyfer Llywodraeth Cymru, fod disgyblion yn cael eu ‘hamddifadu’ trwy beidio â chael eu haddysgu am hanes o safbwynt Cymru. Mae Siân Gwenllian AC yn dadlau na fu ffocws gwirioneddol erioed ar hanes Cymru yn y cwricwlwm yng Nghymru a bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yng Nghymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr na’u gwlad a’u hardal eu hunain.

Yn ystod dadl ddiweddar yng Nghynulliad Cymru, cefnogodd Aelodau’r Cynulliad yr alwad i bob disgybl ysgol yng Nghymru, ‘yn ddieithriad’, ddysgu am hanes y wlad.

A ydyn nhw’n gywir?

Mae canfyddiadau arolygu yn dangos bod ganddi bwynt da mewn llawer o achosion. Mae plant yn gallu adnabod lluniau o wragedd Harri VIII ac yn gwybod am Dân Mawr Llundain, ond ychydig iawn a wyddant am Derfysgoedd Rebecca neu’r ymgais olaf i oresgyn Prydain a ddigwyddodd yn Abergwaun. Yn aml, mae disgyblion hŷn yn gwybod mwy am hanes gwledydd eraill, megis yr Almaen Natsïaidd neu Unol Daleithiau America, nac y gwyddant am eu gwlad eu hunain.

Mae gwledydd eraill fel Canada a Seland Newydd yn rhoi pwyslais cryf ar addysgu am hanes eu gwlad eu hunain mewn ysgolion.

welsh ladies

Cyfleoedd cyffrous i addysgu mwy am hanes Cymru

Yn sgil cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, ceir cyfle gwych i ysgolion ailwerthuso eu cwricwla hanes ac ystyried cynnwys hanes lleol a chenedlaethol fel rhan annatod o’u gwaith.

Mae canllawiau drafft y cwricwlwm yn cydnabod y dylai dysgwyr gael cyfle i ddatblygu eu hunaniaeth drwy archwilio cwestiynau yn ymwneud â diwylliant, iaith a pherthyn yn eu hardal ac yng Nghymru. Byddai hyn yn rhoi dealltwriaeth iddynt o’r amrywiaeth o hanesion, diwylliannau, gwerthoedd a threftadaeth sy’n bodoli yng Nghymru fodern.                              

Yn ogystal, mae’r canllawiau drafft yn datgan y dylai ysgolion addysgu hanes Cymru o fewn ei chyfraniad ‘i’r Deyrnas Unedig a’r byd ehangach’.

Ond a fydd pethau’n newid?

Mae rhai arbenigwyr yn parhau i fod yn amheus ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael. Mae’r Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe yn teimlo y gallai’r ongl Gymreig genedlaethol gael ei cholli wrth fynd ar drywydd hanes lleol neu enghreifftiau Prydeinig neu fyd-eang adnabyddus, ac o ganlyniad, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd diwygio’r cwricwlwm yn arwain at addysgu mwy am hanes Cymru nag a geir ar hyn o bryd.

Felly, ysgolion unigol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod athrawon yn rhoi lle amlwg i hanes Cymru pan fyddant yn dechrau cynllunio ar gyfer newid. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o blant sy’n byw yng Nghymru wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o hanes a diwylliant cyfoethog ein cenedl.

Camau nesaf                                   

Yn haf 2020, byddwn yn cyhoeddi adroddiad thematig sy’n gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn addysgu disgyblion ar hyn o bryd am hanes a diwylliant Cymru. Bydd hyn yn cynnwys asesiad cywir o arferion presennol mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru. Bydd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arferion rhagorol, a fydd yn helpu ysgolion eraill i gynllunio’r agwedd hon ar Faes Dysgu a Phrofiad newydd y dyniaethau.

Os ydych eisiau derbyn yr adroddiad hwn y flwyddyn nesaf, ac adroddiadau thematig eraill, cofrestrwch yn www.estyn.llyw.cymru/cofrestru neu gallwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn, dyma rai adnoddau ychwanegol:

  •  

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.