Article details

Jon Wright
By Jon Wright, AEM
Postiadau blog |

Dathlu amrywiaeth a hybu cynhwysiant – ‘edau aur’ arfer effeithiol

Share this page

Y llynedd, rhannom arfer effeithiol wrth gefnogi dysgwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT) mewn ysgolion a cholegau.
Seiliwyd ein hadroddiad ar ymweliadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru a oedd wedi gwneud cynnydd arbennig wrth ddatblygu’u darpariaeth ar gyfer dysgwyr LHDT a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn gysylltiedig â bywyd pobl LHDT. Roedd ymdrechion ymarferwyr i greu ethos yn eu sefydliad lle’r oedd amrywiaeth yn cael ei gydnabod a’i ddathlu wedi creu argraff dda ar ein harolygwyr yn gyson.
Yn y darparwyr hyn, mae ‘edau aur’ yn rhedeg drwy eu harfer. Fel sawl agwedd ar addysg, mae rôl arweinwyr yn allweddol.

Mae arweinwyr yn arddangos pwrpas moesol cryf 

Yn yr holl ysgolion a cholegau yr ymwelom ni â nhw, mae arweinwyr yn dangos pwrpas moesol cryf o ran hybu cynhwysiant a dathlu amrywiaeth. Maent yn cydnabod ei bwysigrwydd ac yn gweld ei berthnasedd i bobl ifanc. 

Er enghraifft, yn yr ysgolion cynradd yr ymwelom ni â nhw, mae arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion yn dysgu am faterion LHDT mewn ffordd briodol yn ddatblygiadol sy’n eu helpu i ddeall beth maent yn ei weld yn eu teulu, eu cymuned ac yn y cyfryngau.

Mae arweinwyr yn ddelfrydau ymddwyn cadarnhaol o ran eu defnydd o iaith ac maent yn herio staff i ystyried sut gallai eu hiaith atgyfnerthu rhagfarn, fel stereoteipio’n gysylltiedig â rhyw, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Mae llais y disgybl yn chwarae rôl allweddol 

Yn y darparwyr effeithiol yr ymwelom ni â nhw, mae rôl allweddol i ddysgwyr o ran sefydlu a hybu dull yr ysgol neu’r coleg o gefnogi cynhwysiant ac archwilio amrywiaeth. 

Er enghraifft, mae gan yr holl ysgolion uwchradd yr ymwelom ni â nhw ryw fath o grŵp cymorth LHDT sy’n cael ei redeg gan ddisgyblion, gyda chymorth gan y staff. Mae’r grwpiau hyn yn helpu i gefnogi disgyblion LHDT a’r disgyblion hynny sy’n cwestiynu’u rhywioldeb neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Yn aml, maent yn gweithio gyda staff i lywio’r ddarpariaeth, er enghraifft i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â’r defnydd o iaith homoffobig, biffobig neu drawsffobig, a rhoi hyfforddiant i staff i helpu gweithredu hyn. 

Yn y darparwyr gorau oll, gwelom sut roedd dysgwyr yn ymgysylltu â disgyblion i fesur effaith gwaith y darparwr ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant. 

Mae ysgolion yn gweithio i ddatblygu hyder staff

Mewn llawer o ysgolion ar draws Cymru, nid yw staff yn siŵr beth allant a beth na allant ei addysgu yn gysylltiedig â materion LHDT. Mae hyn o leiaf yn rhannol o ganlyniad i waddol Adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 a waharddodd ‘addysgu derbynioldeb cyfunrhywiaeth mewn unrhyw ysgol a gynhelir fel perthynas deuluol honedig’. 


Mae darparwyr effeithiol yn cydnabod bod angen sicrhau eglurder ynghylch hyn a rhoi hyder i staff siarad â dysgwyr am faterion LHDT, a rhoi cymorth pan fo’i angen. 
Lle y mae’r ddarpariaeth ar ei chryfaf, mae ysgolion a cholegau yn trefnu dysgu proffesiynol ysgol gyfan i sicrhau bod dull cyson gan yr holl staff.

Cyfathrebu clir â rhanddeiliaid 

Fel rhan o’r broses o lywio a datblygu’u darpariaeth, mae’r arweinwyr mwyaf effeithiol yn ymgysylltu’n weithgar â rhieni a’r gymuned i amlinellu a thrafod sut maent yn mynd ati i addysgu am amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys sut byddant yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â bywydau pobl LHDT. 

Er enghraifft, gallai ysgol gyfarfod â grwpiau ffydd lleol neu fudiadau cymunedol i esbonio’i pholisi a cheisio’u barn. Mae arweinwyr yn gwrando’n ofalus ar farn pob rhanddeiliad, ond yn y pen draw, mae ganddynt yr argyhoeddiad i weithredu er lles pennaf dysgwyr. 

Yn y darparwyr yr ymwelom ni â nhw lle mae’r ddarpariaeth gyfraf, mae dull yr ysgol neu’r coleg yn weladwy iawn o gwmpas yr adeilad, trwy arddangosfeydd o waith dysgwyr, posteri a gwaith celf sy’n dathlu amrywiaeth. 

Mae’r ysgol neu’r coleg yn sicrhau profiadau dysgu cynhwysol 

Roedd llawer o’r athrawon y siaradom ni â nhw wedi sôn am bwysigrwydd adeiladu cwricwlwm a oedd yn gwreiddio addysgu amrywiaeth ar draws pynciau a phrofiadau dysgu. 

I fod yn effeithiol, maent yn cydnabod ei bod hi’n hanfodol nad yw materion LHDT yn rhywbeth y mae dysgwyr yn ymwneud â nhw fel rhan o raglen ABCh yn unig; dylent ddod ar draws delfrydau ymddwyn LHDT cadarnhaol yn rheolaidd fel rhan o’u dysgu. Er enghraifft, adolygodd rhai ysgolion eu cwricwlwm i sicrhau portread cadarnhaol o bobl LHDT trwy ddefnyddio llyfrau stori ac astudio pobl LHDT mewn hanes, fel Alan Turing.

Mae arweinwyr yn sefydlu gweithdrefnau effeithiol i gefnogi cynhwysiant 

Yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion a cholegau, disgrifiodd arweinwyr bwysigrwydd sefydlu systemau cadarn i gefnogi ethos o gynhwysiant. 

Er enghraifft, maent yn sicrhau bod eu polisïau gwrthfwlio yn cynnwys prosesau sy’n adrodd yn unol â’r nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys nodi enghreifftiau o fwlio homoffobig, biffobig a thrawsffobig, a dadansoddi tueddiadau dros gyfnod. 

Yn yr un modd, sicrhânt fod cymorth ar waith i adeiladu ar hyder staff a’i gryfhau gydag amser. Er enghraifft, mae hyfforddiant ar gydraddoldeb yn llunio rhan o brosesau sefydlu a hyfforddiant parhaus i staff a llywodraethwyr.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i gynnwys mewn hunanwerthuso

Yn olaf, yn y darparwyr effeithiol hyn, mae adolygiad o’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu am amrywiaeth wedi’i gynnwys mewn prosesau hunanwerthuso. 

Mae arweinwyr yn ystyried lles dysgwyr a’u hiechyd meddwl, yn nodi unrhyw dueddiadau ac yn nodi ffynhonnell unrhyw faterion. 

Mae ysgolion a cholegau’n ystyried y ffordd orau o wneud hyn yn ofalus, er enghraifft trwy ddadansoddi data ar fwlio, ymgynghori â grwpiau llais y disgybl neu drwy ymgynghori ag archwiliadau o amrywiaeth yn y cwricwlwm. I fod yn effeithiol, maent yn llunio cysylltiad clir rhwng canfyddiadau a chamau gweithredu gwella’r ysgol, er enghraifft trwy gyflwyno dysgu proffesiynol penodol i fynd i’r afael â bylchau yn hyder y staff.

Beth gall eich ysgol neu’ch coleg ei wneud? 

Mae’n cymryd amser ac ymrwymiad, ond mae’r ysgolion a’r colegau yr ymwelom ni â nhw yn llwyddo i greu ethos cynhwysol lle y mae staff a disgyblion yn dathlu amrywiaeth. Darllenwch ein hadroddiad i gael mwy o syniadau ac ysbrydoliaeth.

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol