Adroddiad thematig |

Dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant - Arfer dda o ran cefnogi dysgwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT) mewn ysgolion a cholegau

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gymorth effeithiol ar gyfer dysgwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT), yn ogystal â’r rhai sy’n cwestiynu eu cyfeiriadedd rhywiol neu’u hunaniaeth o ran rhywedd. Mae’n amlygu arfer dda wrth greu diwylliannau mewn ysgolion neu golegau sy’n dathlu amrywiaeth, yn blaenoriaethu cynhwysiant ac yn mynd i’r afael â materion LGBT mewn modd sy’n briodol i ddatblygiad.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Adolygu cynnwys eu cwricwlwm a’u cyrsiau unigol i ystyried pa mor dda y caiff addysgu amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys materion LGBT, ei integreiddio mewn profiadau dysgu
  • A2 Sicrhau bod achosion o fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig yn cael eu cofnodi, a bod tueddiadau’n cael eu nodi, ac y gweithredir yn unol â nhw
  • A3 Sicrhau bod pob un o’r staff yn ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth, gan gynnwys materion yn ymwneud â phobl LGBT

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:

  • A4 Weithio gyda phartneriaid allanol i gyflwyno cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ar gyfer staff mewn ysgolion ar draws sectorau cynradd ac uwchradd
  • A5 Gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i sicrhau dilyniant mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb rhwng sectorau