Beth rydym yn ei arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith - 2024 - Estyn

Beth rydym yn ei arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith – 2024



Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pedwar maes arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith.

Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n amlinellu ein hymagwedd at arolygu. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.