Arfer Effeithiol |

Ymweliadau â’r gymuned leol yn darparu cyfleoedd i gyfoethogi profiadau dysgu plant

Share this page

Nifer y disgyblion
12
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Meithrin Ynys y Plant Felinfach wedi’i gofrestru i ofalu am 12 o blant rhwng dwy a phedair oed.  Maent yn cwrdd mewn caban hunangynhaliol ar safle Ysgol Gynradd Felinfach, yn awdurdod lleol Ceredigion.  Mae’r lleoliad yn darparu addysg am bum bore a phum prynhawn yn ystod tymhorau’r ysgol.  Yn ystod yr arolygiad, roedd 14 o’r plant tair blwydd oed yn cael eu hariannu ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar.

Mae’r lleoliad yn gylch cyfrwng Cymraeg a daw llawer o’r plant o gartrefi uniaith Gymraeg.  Caiff y lleoliad ei redeg gan ddau aelod o staff.  Mae’r arweinydd yn ei swydd ers tair blynedd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ymarferwyr yn darparu ystod eang a chyffrous o brofiadau dysgu diddorol sy’n ennyn diddordeb y plant yn llwyddiannus.  Mae gan yr arweinydd weledigaeth rymus i blant ddysgu hyd eithaf eu gallu mewn amgylchedd symbylus, ysgogol a pherthnasol i’w cymuned.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cryf ar draws yr holl feysydd dysgu.  Mae’r ymarferwyr yn cynllunio’n grefftus i ddefnyddio’r gymuned ac ymwelwyr i gyfoethogi profiadau i ddatblygu medrau llafar estynedig a thraddodiadau aml ddiwylliannol ynghyd â Chymreictod a threftadaeth.  Mae hyn yn cael effaith fyrlymus ar ddysgu’r plant sy’n sicrhau safonau uchel wrth ddod i adnabod eu milltir sgwâr. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae Cylch Meithrin Ynys y Plant, Felinfach yn rhan annatod o’r gymuned leol ac yn manteisio ar bob cyfle i gyfoethogi profiadau dysgu a datblygu medrau newydd i’r plant.  Mae’r plant yn cael cyfleoedd rheolaidd i ymweld â’r siop, garej a’r cyflenwyr amaethyddol lleol lle maent yn defnyddio arian i brynu nwyddau ar gyfer gweithgareddau.  Er enghraifft, maent yn ymweld â’r siop i brynu cynhwysion i goginio cacennau neu i greu bwyd i’r adar.  Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddeall swyddogaeth arian yn ogystal â datblygu eu medrau rhifedd wrth rifo.  Mae’r cyfleoedd buddiol hyn hefyd yn hybu eu medrau llythrennedd yn llwyddiannus trwy  siarad yn hyderus a chwrtais gydag oedolion eraill.  Mae’r ymarferwyr yn cynllunio ymweliadau rheolaidd gan bobl yn y gymuned, er enghraifft daeth ffermwr â mochyn bach i’r lleoliad i ddathlu'r flwyddyn Tsieineaidd ac i hyrwyddo eu dealltwriaeth o iaith fathemategol wrth i’r plant ei fesur.  O ganlyniad, mae’r plant yn cael cyfleoedd ardderchog i ddysgu am gylch bywyd a byd natur.  Mae’r profiadau yma hefyd wedi cael dylanwad cadarnhaol iawn ar ddatblygu iaith gyfoethog ac ymestynnol y plant.

Mae’r ymarferwyr yn sicrhau profiadau effeithiol iawn i blant ddatblygu eu medrau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol trwy  fanteisio ar yr ardal leol. Gwnânt hyn wrth drefnu cyfres o ymweliadau i’r eglwys leol er mwyn i’r plant ymgyfarwyddo gyda’r adeilad ac i ddysgu sut mae ymddwyn mewn lle sanctaidd.  Datblygir hyn ymhellach wrth dderbyn ymweliadau cyson oddi wrth ficer y plwyf i ymgyfarwyddo â thraddodiadau fel diolchgarwch, y Nadolig a’r Pasg. Mae’r cyfleoedd hyn yn cael eu hymestyn i rieni er mwyn iddynt hwythau ymgyfarwyddo â’u cymuned ehangach.

Mae gan y lleoliad bartneriaeth gref iawn gyda rhieni, sy’n cael effaith gadarnhaol ar safonau plant. Mae rhieni yn cydweithio’n llwyddiannus gyda’r ymarferwyr i gyfrannu at themâu yn gyson.  Enghraifft dda o’r bartneriaeth gref hon yw rhieni yn cyfrannu gwrthrychau at y thema Owain Glyndŵr neu at thema cwpan rygbi’r byd.  Mae hyn wedi ymestyn gallu’r plant i drafod eu gwaith a’u profiadau yn eu cartrefi.  Mae hyn wedi ychwanegu at aeddfedrwydd llafar y plant yn ogystal â datblygu rhieni i fod yn rhan weithredol o fywyd y lleoliad.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ymarferwyr yn darparu ystod o brofiadau dysgu cyfoethog yn y gymuned sy’n ennyn cyffro a brwdfrydedd y plant yn llwyddiannus.  Wrth ymweld â lleoliadau diddorol ynghyd â gwahodd ymwelwyr i rannu profiadau, mae’r plant yn cael eu hysgogi i ymateb yn estynedig ar lafar yn effeithiol iawn.  Cânt gyfleoedd buddiol iawn i ymestyn ar eu medrau rhifedd wrth brynu cynhwysion ar gyfer coginio a defnyddio arian mewn sefyllfa go iawn.

Mae ymweliadau rheolaidd i erddi lleol yn codi ymwybyddiaeth y plant o gylch bywyd planhigion a byd natur yn llwyddiannus.  Mae hyn yn cyfoethogi eu dealltwriaeth o’u cynefin a’r byd o’u hamgylch yn eithriadol o dda wrth iddynt sylwi ar y blodau yn ystod pob ymweliad.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda mewn hyfforddiant i ymarferwyr nas cynhelir ac ysgolion yr awdurdod.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol