O’u blynyddoedd cynnar ymlaen, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefel uchel o annibyniaeth, gan fanteisio ar y gwahanol ddarpariaethau â hyder. Maent yn dewis ardaloedd yr hoffent ymgysylltu â nhw, yn chwarae’n dda gyda’i gilydd, yn rhannu, ac yn cymryd eu tro. O ganlyniad, mae disgyblion yn cyflawni safonau dysgu uchel wrth iddynt symud trwy’r ysgol.
Mae gwaith grŵp, a gyflwynir yn nosbarthiadau blynyddoedd cynnar yr ysgol, yn helpu atgyfnerthu cysyniad disgyblion ohonyn nhw eu hunain fel dysgwyr llwyddiannus. Maent yn gweld adegau lle mae’n ymddangos eu bod yn gwneud pethau’n anghywir fel cyfle i ailfeddwl, ac yn cydnabod bod hyn yn rhan hanfodol o ddysgu.
Mae athrawon yn modelu strategaethau datrys problemau ac yn darparu cyfleoedd mentora ar gyfer disgyblion hŷn. Maent yn annog disgyblion i ddefnyddio’u prosesau meddwl eu hunain i gael atebion, yn dod yn gynyddol hyderus yn mynegi eu dewisiadau, gan gyfiawnhau eu canlyniadau, a myfyrio ar eu dysgu. Maent yn datblygu gallu i ddewis tasgau sy’n ymestyn eu medrau unigol.
Yn unol â datganiad cenhadaeth yr ysgol, mae staff yn annog disgyblion i feddwl yn greadigol trwy ddrama, mathemateg ymarferol, ysgrifennu creadigol, athroniaeth ac elfennau o faes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae pob un ohonynt yn ymestyn medrau, yn dyfnhau’r meddwl ac yn ymestyn hunaniaeth y disgyblion fel dysgwyr annibynnol. Mae disgwyliadau uchel pob un o’r staff yn gyrru meddylfryd y disgyblion o’r dosbarth Meithrin trwodd i Flwyddyn 6.
Mae athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion weithio’n annibynnol, yn ogystal ag ar y cyd, gan ddatblygu hyder ac ymestyn dysgu ar bob lefel. Maent yn dewis testunau sy’n ennyn diddordeb disgyblion ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o fedrau ar draws y cwricwlwm, gan ddarparu cyd-destunau dilys ac ystyr go iawn, sy’n hyrwyddo’r hyder sy’n ofynnol gan ddysgwyr annibynnol bob amser.
O’u diwrnod cyntaf un yn Ysgol Santes Gwladys, cydnabyddir mai hunan-barch yw’r brif elfen wrth ddatblygu dysgwyr hyderus, llwyddiannus ac annibynnol. Caiff llwyddiant yr ymagwedd hon ei gadarnhau gan y safonau uchel iawn a gyflawnir erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol, er gwaethaf lefel yr anfantais yn y gymuned.