Arfer Effeithiol |

Sicrhau cysondeb yn ystod newid

Share this page

Nifer y disgyblion
122
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Agorwyd Ysgol Dyffryn Cledlyn ym Medi 2017 wrth uno tair ysgol leol gyda’i gilydd yn ardal Drefach. Bu gwaith unioni, cyd-weithio, cyd- dynnu wrth anelu tuag at yr un lleoliad newydd am sawl blwyddyn. Apwyntiwyd Pennaeth yr ysgol newydd yn Ebrill 2014, a bu’n gweithredu’n y cyfamser dros y dair Ysgol, tra’n integreiddio prosesau dysgu, addysgu ac arweinyddiaeth gan sicrhau lles disgyblion a staff mewn cyfnod o newid. Mae’r darpariaeth erbyn hyn yn cynnig addysg i blant 3 – 11 ar yr un safle a phump dosbarth yn yr ysgol.

Lleolir yr ysgol mewn ardal wledig ac mae ym mand grŵp 1 o ran prydiau Ysgol am ddim gyda 6% o’r disgyblion yn eu derbyn.

Mae’r 27%  ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rydym yn ffodus iawn o nifer o ddisgyblion sy’n cyfathrebu adref yn y Gymraeg ac adlewyrchwyd hyn yn brwdfrydedd a safon iaith y rhan fwyaf o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda 70% yn siarad Cymraeg adref.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Penodwyd Pennaeth niwtral i’r ysgolion yn 2014, ar gyfer yr Ysgol Newydd. Roedd y weledigaeth o gyrraedd safle mewn undod a’r un amcanion yn allweddol. Roedd ansicrwydd yn nifer o agweddau. Buodd y Pennaeth yn rhannu amserlen gyda’r dair Ysgol fel fod pawb yn ymwybodol o’i lleoliad gan fod yn gyson o faint o amser a dreuliwyd ymhob Ysgol. Roedd gwaith cychwynnol wedi digwydd rhwng y dair Ysgol – wrth fynychu “Cynllun Tair Ysgol” lle roedd disgyblion CA2 yn mynychu y dair Ysgol,  ar gyfer pynciau arbenigol gydag athrawon bob pythefnos. Wrth wrando ar y disgyblion, teimlant bod angen i ddisgyblion Cyfnod Sylfaen hefyd fynychu “Cynllun Tair Ysgol” gan taw nhw byddai dyfodol yr Ysgol Newydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Roedd cysondeb ymhob agwedd ar draws y dair ysgol yn holl amhrisiadwy. Cynhaliwyd cyfarfodydd staff wythnosol ar y cyd – gan newid lleoliad i greu ethos o un tîm unedig. Galluogwyd hyn i ni gysoni dulliau marcio, cyd-gynllunio, monitro llyfrau a safonau gan adolygu y ffordd ymlaen gan sicrhau cysondeb yn y profiadau dysgu. Defnyddiwyd yr un themâu ar draws yr ysgol a mynychwyd teithiau addysgiadol yr un pryd. Crëwyd Cynllun Datblygu Ysgol ar y cyd rhwng y dair Ysgol a hyn yn rhoi blaenoriaeth clir  a chyfeiriad i’r holl rhan ddeiliad.

Roedd Pedwar Corff Llywodraethol – y dair Ysgol a’r Ysgol Newydd. Llwyddwyd i uno dwy Ysgol ar yr un noson gan gychwyn gyda Chorff un Ysgol yn gyntaf, yr hyn oedd yn gyffredinol i’r ddau corff yn y canol, a gorffen gyda’r Ysgol arall ar y diwedd. Roedd cysondeb yn y lleoliadau – a hefyd yng nghynnwys pob adroddiad.

Wrth adeiladu’r Ysgol mewn lleoliad newydd, buodd y disgyblion a staff yn ymweld â’r safle yn dymhorol i weld datblygiadau adeiladol. Cafwyd cyfnod hefyd i brofi cyfnodau yn yr Ysgol newydd wedi i’r adeilad cwblhau. Roedd hyn yn galluogi’r disgyblion  i greu rheolau eu hunain  – gan holi am yr hyn roedd y disgyblion am eu gweld yn yr Ysgol. Roedd hefyd prosiect Ysgol Creadigol arweiniol yn weithredol, a alluogodd hyn y disgyblion i greu cerdd  ar y cyd  - “Cau ac Agor.” Mae hyn i weld yn yr Ysgol fel murlun trawiadol gyda’r geiriau gerdd arni  - pob gair ar ddarn o bren unigol a rheini yn wreiddiol o’r dair Ysgol. O ganlyniad roedd y thema o “berthyn” yn sail i’r holl waith yn ystod ein tymor cyntaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad roedd sefydlu hunaniaeth yn yr Ysgol yn effeithiol. Roedd camau cyson wedi digwydd yn flaenorol i galluogi disgyblion i ymgartrefu yn gyflym ac yn ddi-ffwdan  gan wrando ar lais y disgyblion, ac adlewyrchwyd hyn yn eu safonau.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Nid ydym fel Ysgol wedi rhannu’r arferion da gydag ysgolion eraill.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol