Arfer Effeithiol |

Sicrhau addysgu o ansawdd uchel yn y Cyfnod Sylfaen

Share this page

Nifer y disgyblion
50
Ystod oedran
3-4
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Feithrin Cogan ym Mhenarth ym Mro Morgannwg. Adeg yr arolygiad, roedd 50 o blant 3 i 4 mlwydd oed ar y gofrestr. Mae plant yn mynychu’n rhan-amser naill ai yn y bore neu’r prynhawn.

Adeg ysgrifennu’r darn hwn, nodwyd bod gan 16% o blant anghenion addysgol arbennig, ac mae tua 38% o blant yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol neu’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae cwricwlwm y cyfnod sylfaen wedi cael ei roi ar waith yn llawn yn Ysgol Feithrin Cogan. Mae ymarferwyr yn adolygu eu harferion yn gyson i sicrhau eu bod yn darparu’r gweithgareddau dysgu gorau posibl ar gyfer yr holl ddysgwyr. Caiff y gweithgareddau eu datblygu’n bennaf o ganlyniad i ddiddordebau’r plant. Trwy ddarparu’r cyfleoedd hyn, yn ogystal â rhywfaint o addysgu ar wahân, mae staff yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ystod gynhwysfawr o fedrau a gwybodaeth wrth iddyn nhw chwarae.

Mae pob un o’r ymarferwyr yn dyfeisio, yn cynllunio ac yn gwerthuso gweithgareddau gyda’i gilydd. Mae trafodaethau’n cynnwys ystyried diddordebau presennol plant. Mae dealltwriaeth ymarferwyr o ddarpariaeth effeithiol yn y cyfnod sylfaen a datblygiad plant yn eu galluogi i gynorthwyo’r plant i arwain eu dysgu eu hunain wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau. Mae gan yr ysgol ffocws cryf ar blant yn symud o gwmpas y ddarpariaeth dan do a’r ddarpariaeth yn yr awyr agored yn annibynnol, gydag ymarferwyr yn gweithredu i fonitro’r plant a’u cynorthwyo, yn ôl yr angen.

Mae’r pennaeth a’r llywodraethwyr yn Ysgol Feithrin Cogan yn credu mai ein hadnodd pwysicaf yw ein staff. O’r herwydd, gwnaed buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod ansawdd yr addysgu yn ein hysgol feithrin yn dda, ac yn cyd-fynd yn llawn ag ethos y cyfnod sylfaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae disgwyliadau uchel o’r holl ymarferwyr, sy’n cael eu cefnogi i weithio fel tîm hynod effeithiol. Mae pob un ohonynt yn weithwyr proffesiynol hynod fedrus sy’n meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o arfer yn y cyfnod sylfaen.

Caiff pob ymarferwr ei werthfawrogi, a chydnabyddir cryfderau pob unigolyn. Rhennir y cryfderau hyn ag ymarferwyr eraill i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u harfer, yn ogystal ag arwain mentrau. Mae enghreifftiau’n cynnwys ymarferwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn defnyddio iaith arwyddion yn rhannu’r wybodaeth hon â phobl eraill, fel bod arwyddo yn cael ei ddefnyddio gan bawb i gynorthwyo plant ag anawsterau cyfathrebu; ac mae aelod o staff sy’n hyfforddwr gymnasteg cymwys yn cynorthwyo aelodau eraill o staff i gyflwyno sesiynau gweithgarwch corfforol.

Mae gweithdrefnau cadarn ar waith i reoli perfformiad yr holl ymarferwyr, ac mae arweinwyr yn sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol effeithiol. Mae hyfforddiant staff a datblygiad proffesiynol parhaus, yn ogystal â grymuso staff i gymryd cyfrifoldeb am eu harferion eu hunain, wedi cyfrannu at ansawdd cyson uchel yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgol feithrin. Mae cysondeb ym mhopeth a wna ymarferwyr; er enghraifft, y defnydd ystyriol ac effeithiol a wneir o ystod o wahanol fathau o gwestiynau wrth herio plant i wella eu medrau, a datblygu eu dealltwriaeth.

Yn yr ysgol feithrin, caiff y plant eu hannog i symud yn annibynnol o gwmpas yr ardaloedd niferus y tu mewn a’r tu allan. Y staff sy’n cael eu hamserlennu i fod mewn ardal benodol. Mae pob un o’r staff yn gweithio gyda’i gilydd i ddyfeisio a chynllunio’r profiadau dysgu gyda’i gilydd. Hefyd, mae hyn yn helpu sicrhau’r cysondeb mewn addysgu a dysgu sy’n amlwg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r arfer hon wedi cael effaith sylweddol ar yr holl ddarpariaeth yn yr ysgol feithrin. Mae pob un o’r ymarferwyr yn weithwyr proffesiynol hynod fedrus sy’n meddu ar wybodaeth drylwyr am arfer yn y cyfnod sylfaen. Maent yn adnabod pob plentyn yn eithriadol o dda ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i herio plant i gyflawni ar lefel uchel.

Mae pob un o’r staff yn dyfeisio ac yn cynllunio profiadau dysgu, ac yn eu gwerthuso gyda’i gilydd. Yn ystod gweithgareddau ac wrth gefnogi plant yn eu chwarae, mae ymarferwyr yn nodi anghenion a diddordebau’r plant yn fedrus ar unrhyw adeg, ac yn addasu eu cwestiynau a’u haddysgu yn unol â hynny.

Mae ymarferwyr yn sicrhau hefyd fod cydbwysedd o her a chymorth ar gyfer y plant, ac maent yn annog plant yn gyson i roi cynnig ar dasgau cyn ymyrryd. Mae hyn yn golygu, ar ôl cyfnod byr yn unig yn yr ysgol feithrin, bod y plant yn arwain eu dysgu eu hunain.

Caiff yr arfer hon effaith eithriadol o gadarnhaol ar y cynnydd a wna’r plant a’r safonau y maent yn eu cyflawni. Mae’r rhan fwyaf o blant yn ymuno â’r ysgol feithrin gyda medrau llythrennedd, rhifedd a medrau personol islaw’r rhai sy’n ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran. Mae bron pob un o’r plant yn gwneud cynnydd da mewn datblygu eu medrau yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol feithrin, ac mewn llawer o achosion, maent yn gwneud cynnydd da iawn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol feithrin wedi croesawu staff o lawer o ysgolion yn eu consortiwm i rannu eu harfer.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Mae diddordebau plant yn arwain gweithgareddau dysgu

Ar ôl ymchwilio, fe wnaeth staff yn Ysgol Feithrin Cogan ddyfeisio gweithgareddau sy’n adeiladu ar ddiddordebau plant. ...Read more