Cyn dod yn ffederasiwn, roedd disgwyliadau ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd y Parc yn isel, diwylliant a oedd wedi’i achosi gan lefelau’r difreintedd yn y gymuned. Roedd ansawdd yr addysgu yn anghyson ac nid oedd mwyafrif y disgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig. Roedd bach iawn o dystiolaeth bod disgyblion yn cymryd rhan yn eu dysgu. Ni wnaeth ymweliad monitro gan Estyn ddarganfod tystiolaeth o gynllunio cydweithredol yn yr ysgol ac roedd “dim digon o ffocws ar gysondeb a dilyniant”.
Yn sgil dod yn ffederasiwn, gyda chadarnhad gan arolygiad Estyn yn 2023:
- Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn Ysgol Gynradd y Parc nawr yn gwneud “cynnydd cryf o waelodlinau isel iawn”. Mae’r cydweithredu cryf ar y Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod “bron bob un o’r plant yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol”.
- Diolch i ddatblygiad effeithiol addysgeg a chysondeb disgwyliadau, mae athrawon yn Ysgol Gynradd y Parc yn symbylu disgyblion yn llwyddiannus i ddyfalbarhau a llwyddo yn eu dysgu.
- Mae gweithio llwyddiannus iawn mewn partneriaeth ar les, gan gynnwys ymagwedd flaengar at ymyriadau, wedi sicrhau bod safonau lles yn uchel yn yr ysgol. Mae Estyn yn disgrifio bod hyn yn “gryfder nodedig ac yn ffocws gwerthfawr o waith yr ysgol.”
- Erbyn hyn, mae disgyblion yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella’r ysgol, gyda llawer ohonynt yn ymgymryd â rolau arwain defnyddiol ac effeithiol trwy amrywiaeth o grwpiau disgyblion cynhwysol.
Mae Ysgol Gynradd Gilfach Fargod, hefyd, wedi elwa’n enfawr o’r bartneriaeth, gyda chyfleoedd gwell am rolau arwain, a gweithio ehangach mewn tîm, sy’n arwain at ddeilliannau gwell i ddysgwyr. Yn 2023, darganfu Estyn:
- Mae defnydd effeithiol o arweinyddiaeth wasgaredig ar draws y ffederasiwn, sy’n gweithio er budd y ddwy ysgol, gyda’r ddwy ohonynt yn gryfach o ganlyniad.
- Mae’r ffocws ar addysgu effeithiol a datblygu arweinwyr wedi tanio angerdd tuag at ddysgu ymhlith staff yr ysgol.
Mae cynllunio a hyfforddiant cydweithredol, ynghyd â chyfleoedd ymchwil cyffredin, wedi datblygu arbenigedd, sicrhau diwylliant o ymholi ac arloesi, ac wedi arwain at weithlu myfyriol, mwy gwybodus, sy’n dangos lefelau uchel o arfer broffesiynol barhaus yn gyson.