Datblygwyd y strategaeth yn seiliedig ar waith ymchwil ac yna trwy gyd-gynllunio a chyd-greu rhwng y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), yr uwch athro Dysgu ac Addysgu a phennaeth yr adrannau Gymraeg a Saesneg. .
Mae’r cynllun darllen yn seiliedig ar egwyddorion ‘Darllen ar y cyd’. Y bwriad yw:
- hybu perthnasoedd cadarn rhwng athro a disgybl ac o ddisgybl i ddisgybl.
- hybu dysgu ar y cyd gan bod disgyblion yn dysgu oddi wrth ei gilydd
- adeiladu hyder disgyblion trwy ymweld â thestun mwy nag unwaith.
- modelu darllen o ansawdd trwy fodelu gan yr athro.
- datblygu sgiliau darllen a deall amrywiol.
Er mwyn gallu rhedeg y sesiynau, ail-drefnwyd grwpiau cofrestru a chynlluniwyd yn fanwl i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gallu rhedeg i bob disgybl ym mlynyddoedd 7 i 9 ar yr un pryd. Mewn ysgol ddwyieithog sydd â chyfradd uchel o ddisgyblion ag ADY, bu rhaid addasu amserlenni a chynllunio yn fanwl.
Rhoddwyd hyfforddiant gan arweinwyr y cynllun i’r holl staff dysgu a chefnogi dysgu. Bu’r elfen o hyfforddi pawb ar y cyd yn nodwedd bwysig o ddatblygu'r cynllun fel strategaeth ysgol gyfan. Esboniwyd i staff sut i arwain y gweithgareddau a sut i fodelu’r darllen yn effeithiol. Gan bod hyn yn flaenoriaeth a luniwyd yn seiliedig ar farn staff, ymrwymodd y rhan fwyaf o’r staff i’r cynllun yn dda iawn.
Mae 2 sesiwn pob wythnos. Yn ystod y sesiwn gyntaf, mae trafodaeth gychwynnol o’r testun – ‘beth ydym yn gallu gweld am y darn yn syth?’ Yna, mae cyfnod o ddarllen tawel, annibynnol. Wedi hyn, mae’r athro yn modelu darllen gan roi sylw llawn i fynegiant a thonyddiaeth gan ddefnyddio ‘pwyntiwr’ i gysylltu’r geiriau gyda’u llais. I gloi'r sesiwn, mae cyfle i ddisgyblion ymarfer darllen y darn ar goedd i’r dosbarth.
Yn ystod yr ail sesiwn, mae’r athro yn modelu darllen effeithiol eto - gan ddefnyddio’r un darn. Mae disgwyl i ddisgyblion ddarllen ar goedd hefyd. Mae cyfle i wirio dealltwriaeth disgyblion o ystyr geiriau a’r darn yn ei gyfanrwydd. Yna, mae disgyblion yn cymhwyso’r wybodaeth, sydd erbyn hyn yn gyfarwydd iddynt, drwy ateb cwestiynau ar ffurf - ‘Darllen Caredig’ (Crynhoi, Awgrymu, Rhagfynegi, Esbonio, Dilyniant, I gof, Geirfa).
Tra bod y mwyafrif o ddisgyblion yn cwblhau’r gweithgareddau yn eu dosbarthiadau cofrestru, mae disgyblion sydd â medrau darllen llai datblygedig yn cael eu cefnogi gan staff yr adran ADY. Mae’r strwythur i’r cynllun yr union yr un fath ond mae disgyblion yn cael cefnogaeth mewn grwpiau pwrpasol. Mae’r CADY’n dewis a/neu greu testunau darllen bachog a diddorol, sydd wedi cael eu gwahaniaethu’n sylweddol - hyd at 5 gwahanol lefel er mwyn sicrhau'r her briodol i bawb