Adroddiad thematig |

TGCh yng nghyfnod allweddol 3: Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd - Gorffennaf 2014

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar effaith technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) ar ddysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd. Roedd yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2013, yn canolbwyntio ar effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd.Mae’r adroddiad yn arfarnu safonau ym mhwnc technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn ystyried effaith TGCh fel medr allweddol ar ddysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn ystyried effaith TGCh ar ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion hefyd.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • wella’r ffordd y caiff TGCh ei chyflwyno a’i monitro ar draws y cwricwlwm i sicrhau parhad a dilyniant ym medrau TGCh disgyblion;
  • sicrhau bod pob elfen o’r rhaglen astudio TGCh yn cael ei hastudio’n dda ar draws y cyfnod allweddol;
  • gwella ansawdd yr addysgu fel bod disgyblion yn datblygu eu gallu i weithio’n annibynnol ac yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu eu medrau TGCh yn ystod gwersi TGCh ac mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm;
  • darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol perthnasol a digonol ar gyfer pob un o’r athrawon;
  • gwella cywirdeb asesiadau athrawon;
  • cysylltu’n effeithiol â’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i sicrhau parhad wrth gynllunio’r ffordd y caiff TGCh ei chyflwyno ar draws cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 fel nad yw disgyblion yn ailedrych ar fedrau yn ddiangen a cholli diddordeb mewn gwersi; a
  • gwella’r cysylltu rhwng yr adran TGCh ac adrannau pwnc eraill fel bod gan ddisgyblion fwy o gyd-destunau i gymhwyso a datblygu eu medrau.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • sicrhau bod cymorth cwricwlwm TGCh ar gael i bob ysgol uwchradd;
  • monitro safonau a darpariaeth TGCh fel pwnc ac effeithiolrwydd y defnydd a wneir ohoni ar draws y cwricwlwm; a
  • chynorthwyo ysgolion i wella cywirdeb a dibynadwyedd asesiadau athrawon.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • rhoi fframwaith statudol perthnasol ar gyfer TGCh o’r Cyfnod Sylfaen i’r sector ôl-16 ar waith ac adolygu gorchmynion pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol i adlewyrchu datblygiadau presennol mewn technoleg; a
  • chynorthwyo awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i fynd i’r afael â’r materion technegol sy’n cyfyngu mynediad at adnoddau TGCh mewn ysgolion uwchradd.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol