Rhaglen Gymraeg arloesol i herio disgyblion mwy abl

Argraffu’r dudalen hon

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn cynnal ffocws cadarn ar sicrhau bod disgyblion mwy abl a thalentog yn cael eu cefnogi a’u herio trwy amrywiaeth o strategaethau a darpariaeth effeithiol ac, yn benodol, datblygiad eu medrau Cymraeg. Trwy gydweithio ag arweinwyr cynradd a rhieni, mae’r ysgol yn gosod disgyblion mewn rhaglen garlam ar gyfer y Gymraeg ac mae hefyd yn eu gwahodd i gyfranogi trwy fforwm cryf ar gyfer llais y disgybl.


Nifer y disgyblion: 1,680
Ystod oedran: 11-18

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gymysg, gymunedol 11 i 18 oed yn Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Gyfun Treorci.  Mae’n ysgol cyfrwng Saesneg sydd â chryn dipyn o ddarpariaeth Gymraeg.  Mae’r ysgol yn galluogi disgyblion o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i barhau i astudio tua hanner eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yng nghyfnod allweddol 3.  Mae tua 1,680 o ddisgyblion ar y gofrestr. 

Mae tua 21% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae gan ryw 20% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae naw deg chwech y cant o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae tua 10% o ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg, a gall ryw 40% ohonynt siarad Cymraeg, ond ddim yn rhugl.  Mae saith y cant o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol

Yn 2007, Ysgol Gyfun Treorci oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill gwobr her y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg (NACE).  Ers ei phenodi yn 2011, mae’r pennaeth wedi canolbwyntio gwaith yr ysgol ar gydnabod pob disgybl fel unigolyn ac ar sicrhau bod safonau uchel wrth wraidd athroniaeth yr ysgol.  Mae pob un o’r arweinwyr yn cynnal ffocws cadarn ar sicrhau eu bod yn cynorthwyo a herio’r disgyblion hynny sy’n fwy abl a thalentog trwy ystod o strategaethau a darpariaeth effeithiol. 

Disgrifiad o’r gweithgarwch/strategaeth

Mae arweinwyr wedi datblygu darpariaeth hynod greadigol i sicrhau bod disgyblion mwy abl yn datblygu medrau Cymraeg helaeth.  Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, a chymuned yr ysgol.  Er enghraifft, mae dadansoddiad arweinwyr yn dangos bod o leiaf 80% o ddisgyblion sy’n mynychu prifysgol yn aros yng Nghymru, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn parhau i weithio a byw yng Nghymru.  O ganlyniad, mae’r ysgol yn targedu datblygiad medrau Cymraeg ar gyfer disgyblion mwy abl yn fuddiol. 

Mae staff o’r ysgol uwchradd yn addysgu Cymraeg yn yr ysgolion cynradd sy’n ei bwydo bob wythnos, gan ddechrau gyda disgyblion ym Mlwyddyn 5.  Ar ôl dwy flynedd o weithio gyda’r disgyblion hyn, gallant nodi’r rheiny sy’n fwy abl yn effeithiol.  Trwy gysylltu ag arweinwyr cynradd a rhieni, mae’r ysgol yn rhoi’r disgyblion hyn ar raglen Gymraeg garlam, sef Cwrs Carlam.  Mae’r un athrawon yn gweithio gyda’r disgyblion mwy abl hyn trwy eu blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol uwchradd ac mae disgyblion yn symud yn gyflym trwy’r cwricwlwm Cymraeg.  I gefnogi’r gwaith hwn, mae athrawon mewn pynciau sylfaen eraill yn defnyddio mwy o Gymraeg fel iaith y cyfarwyddyd mewn gwersi, ac maent yn disgwyl i ddisgyblion ddefnyddio’u medrau Cymraeg wrth ysgrifennu.  O ganlyniad, mae’r disgyblion mwy abl hyn yn datblygu eu medrau Cymraeg yn dda iawn ac yn sefyll eu harholiadau TGAU ar ddiwedd Blwyddyn 9.  Mae canlyniadau’n dangos bod bron pob un o’r disgyblion yn cyflawni gradd uchel yn gyson. 

Fel rhan o ymdrech yr ysgol i wella darpariaeth a deilliannau ar gyfer disgyblion mwy abl, mae arweinwyr yn gwrando ar safbwyntiau’r disgyblion hyn yn gydwybodol, ac yn gweithredu yn unol â nhw.  Mae gan yr ysgol fforwm cryf llais y disgybl o’r enw’r cyngor ysgol ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog.  Mae’r cyngor hwn o ddau ddisgybl o bob grŵp blwyddyn yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhoi safbwynt buddiol i arweinwyr ar ddarpariaeth yr ysgol o safbwynt myfyriwr.  Gall disgyblion dynnu sylw arweinwyr yr ysgol at faterion y maent yn eu hystyried yn arwyddocaol, ac mae’r ysgol yn gofyn am eu barn ar faterion pwysig a allai effeithio ar ddisgyblion mwy abl a thalentog.  Er enghraifft, mae arweinwyr yn gofyn i ddisgyblion am adborth ar lefel yr her a gânt mewn gwahanol wersi a sut gallai’r ysgol wella, yn eu barn nhw.  O ganlyniad, mae arweinwyr wedi gwneud newidiadau mewn dosbarthiadau ac wedi cyfoethogi darpariaeth yn unol â syniadau’r grŵp, pan fo’n briodol.  Er enghraifft, erbyn hyn, gall disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau manylach y tu allan i’r ysgol, fel ymweld â phrifysgol lle mae disgyblion mwy abl yn dysgu am athroniaeth a diwrnod iaith ar gyfer disgyblion mwy abl mewn ysgol uwchradd arall.  

Effaith ar ddarpariaeth a safonau

Mae deilliannau mewn Cymraeg ar gyfer disgyblion mwy abl sy’n dilyn rhaglen y Cwrs Carlam yn gyson uchel.  Yn 2016, cyflawnodd bron i ddau o bob tri o’r disgyblion hyn radd A* neu A, tra sicrhaodd 95% raddau A* i B.  Yn 2017, cyflawnodd 85% o ddisgyblion raddau A* neu A, a chyflawnodd 100% o ddisgyblion raddau A* i B (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae cyfran y disgyblion sy’n cyflawni pum gradd A*-A mewn TGAU (neu gyfwerth) yn gyson uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer y teulu o ysgolion (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Barnodd Estyn fod yr ysgol yn darparu profiadau dysgu rhagorol sy’n bodloni anghenion yr holl ddisgyblion.  Mae darpariaeth Cwrs Carlam yr ysgol yn galluogi disgyblion mwy abl a thalentog i wneud cynnydd cyflym o ran datblygu eu medrau Cymraeg.

Mae gan ddisgyblion mwy abl a thalentog agweddau cadarnhaol iawn at addysgu, ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain, gan nodi prifysgolion mawreddog yr hoffent eu mynychu, a gyrfaoedd heriol y maent yn anelu atynt.

Cysylltiadau:  http://www.treorchycomp.org.uk/