Crëwyd gwerthoedd newydd i’r ysgol ar y cyd rhwng y disgyblion, y llywodraethwyr a’r staff a oedd yn gosod pwyslais gynyddol ar y pedwar diben a hanes y dywysoges Gwenllian. Gosodwyd pwyslais cryf hefyd ar ddathlu Cymreictod a meithrin dealltwriaeth disgyblion o gynefin cyfoethog Cydweli, er enghraifft y gath ddu, yr afonydd Gwendraeth, Hen Fenyw Fach Cydweli ac wrth gwrs y castell. Yn ogystal, rhoddwyd blaenoriaeth ar wneud defnydd o’r ardal leol ar gyfer gweithgareddau dysgu, er enghraifft wrth gynnal sioeau yn y castell yn hytrach na’r ysgol.
Oherwydd y pwyslais ar yr ardal, llwyddodd y disgyblion ail-ysgrifennu stori'r dywysoges Gwenllian trwy blethu’r hanes gyda gwerthoedd yr ysgol a rhannu hyn trwy ffilm ar gyfer y gymuned. Yn ogystal, crëwyd podlediadau am yr ardal gyda phobl leol a chyn ddisgyblion enwog. Crëwyd byrddau hanes ar gyfer ystod o oedrannau oedd yn cynnwys gemau i blant iau, megis lleoli’r gath ddu, a heriau rhifedd megis cardiau cyfrifo, ar gyfer plant hŷn. Llwyddodd y podlediadau, fideo a’r byrddau hanes greu cysylltiadau naturiol rhwng profiadau'r disgyblion a’u dysgu. Yn ogystal, crëodd hyn gyfleoedd i’r disgyblion i wreiddio eu dealltwriaeth ymhellach a datblygu eu medrau ysgrifennu creadigol a dylunio trwy greu cerddi am rannau o’r ardal ar glymau Celtaidd i arddangos yn yr ardal wrth weithio gyda phrif fardd. Roedd hyn yn cyd-fynd gyda map o’r ardal a ddyluniwyd gan y disgyblion ar gyfer ymwelwyr i’r ysgol a’r ardal. Yn ei dro, llwyddodd hyn i ddyfnhau gwybodaeth y disgyblion o’r ardal leol.
Yn ogystal, sicrhaodd arweinwyr yr ysgol bod gan y gymuned, rhieni a busnesau lleol lais yn nyluniad cwricwlwm yr ysgol trwy rannu holiaduron oedd yn ffocysu ar gyfeiriad dysgu'r disgyblion a’u medrau ar gyfer dyfodol. Bu llais y gymuned, gwerthoedd yr ysgol, a’r ethos Cymreig yn rhan allweddol o baratoi’r staff at gynllunio y Cwricwlwm i Gymru. Hefyd, er mwyn dyfnhau dealltwriaeth disgyblion o weithgareddau Cymreig ymhellach, cynlluniwyd gweithgareddau hyrwyddo Cymreictod gan gynnwys eisteddfodau, gweithgareddau bit-bocsio Cymraeg, cyngherddau, a chysylltiadau gyda sefydliadau cenedlaethol megis Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Trwy hyn, llwyddwyd i sicrhau sylfaen gadarn i ddwysau dealltrwriaeth disgyblion am hanes yr ardal a phwysigrwydd Cymreictod, er enghraifft wrth ddatblygu eu deallwtwriaeth o faterion rhyngwladol trwy sefydlu cysylltiadau cryf gydag ysgol yn Qhobosheaneng, Lesotho, ac ysgol yn Saint-Jacut-de-la-Mer, Ffrainc.