Arfer Effeithiol |

Mae gan y bartneriaeth Cymraeg i Oedolion rôl allweddol mewn hyrwyddo dwyieithrwydd

Share this page

Nifer y disgyblion
1500
Ystod oedran
16+
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/bartneriaeth

Sefydlwyd Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n bartneriaeth rhwng Coleg Cambria a chwmni Popeth Cymraeg, yn ystod adrefnu’r sector Cymraeg i Oedolion yn 2016 i ddysgu Cymraeg i Oedolion yn ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’n darparu ystod o gyrsiau gwahanol ar lefelau Mynediad i Hyfedredd, gan gynnwys cyrsiau prif ffrwd Cymraeg i Oedolion, Cymraeg yn y Gweithle a Cymraeg Gwaith. Mae hefyd yn darparu rhaglen o gyfleoedd dysgu anffurfiol i ddysgwyr ymarfer ac ymestyn eu medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn ran bwysig a gwerthfawr o Goleg Cambria ac yn cyfrannu’n gryf at y nod yng nghynllun strategol y coleg o ehangu cyfleoedd dwyieithog i gymunedau gogledd ddwyrain Cymru. Mae’n llwyddo’n effeithiol i gefnogi Coleg Cambria yn strategol ac yn weithredol i weithio tuag at nodau Llywodraeth Cymru yn ei pholisi Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae arweinwyr ar draws y coleg yn ymwybodol bod lleoliad daearyddol y coleg yn agos at y ffin â Lloegr yn amlygu’r angen i ymdrin â datblygu’r Gymraeg mewn ffordd wahanol i rannau eraill o Gymru. Mae'r penderfyniad strategol i integreiddio Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn llawn i seilwaith y coleg wedi arwain at allu’r ddarpariaeth i chwarae rhan werthfawr yn natblygiad Cymraeg a dwyieithrwydd ar draws y sefydliad.

Mae'r coleg yn rhoi’r Gymraeg wrth wraidd pob strategaeth. Mae'r rheolwr sy'n gyfrifol am y Gymraeg yn bennaeth ar y ddarpariaeth, yn rhan o'r uwch dîm rheoli ac yn adrodd y uniongyrchol i'r prif weithredwr. Golyga hyn fod y ddarpariaeth yn cael ei thrin yr un fath ag unrhyw adran arall yn y coleg trwy'r broses cynllunio busnes a hunanasesu. Mae'r ddwy broses hyn hefyd yn sicrhau bod y buddsoddiad angenrheidiol mewn lle i ddatblygu’r ddarpariaeth ac i sicrhau cydraddoldeb iddi.

Oherwydd cyfrifoldebau ehangach pennaeth y ddarpariaeth o fewn y coleg, mae’r darparwr yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i hyrwyddo pob agwedd o’r gwasanaeth. O ganlyniad, mae’n sicrhau bod Cymraeg i Oedolion yn cyflawni swyddogaeth allweddol a chreiddiol yng nghynlluniau strategol y coleg i hyrwyddo’r Gymraeg yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn gwneud cyfraniad allweddol tuag at gyflawni nodau Cymraeg 2050 fel a ganlyn:

  • Mae lleoliad y ddarpariaeth o fewn strwythur rheoli'r coleg yn rhoi statws iddo ac yn ei ddyrchafu i'r un lefel ag adrannau academaidd eraill y coleg. Mae hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth wneud unrhyw benderfyniadau polisi ar draws y coleg.

  • Mae blaenoriaethau gwella'r darparwr yn rhan annatod o gynlluniau datblygu'r coleg gan sicrhau bod y maes yn cyflawni rôl allweddol wrth geisio datblygu'r Gymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru.

  • Mae rôl Llywodraethwr Cyswllt Cymraeg yn y coleg yn golygu bod gan y corff llywodraethu wybodaeth gyfoes a gwerthfawr am y datblygiadau diweddaraf yng ngwaith y darparwr. Mae'r darparwr yn elwa o hyn gan ei fod yn defnyddio adnoddau a chysylltiadau'r coleg yn fuddiol i esblygu'r ddarpariaeth, yn ogystal â chefnogi'r coleg i gyflawni ei nodau i gynyddu'r niferoedd sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg.

  • Mae'r ddarpariaeth yn cyflogi dros 50 aelod o staff sy'n siarad Cymraeg sy'n gallu cael effaith sylweddol ar ethos Cymraeg yn y coleg.


Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae gan y darparwr fynediad at adnoddau ehangach y sefydliad cartref gyda chefnogaeth gan adrannau fel adnoddau dynol a gwasanaethau ariannol. Mae tiwtoriaid ar draws y ddarpariaeth hefyd yn cael mynediad at raglenni hyfforddiant addysgu a dysgu’r coleg sy'n sicrhau eu bod yn gallu datblygu eu sgiliau gan arwain at wella ansawdd. Yn ogystal, mae staff sydd ddim yn rhan o’r ddarpariaeth ar draws Coleg Cambria yn mwynhau mynediad rhwydd at y gwersi Gymraeg i Oedolion ac yn elwa ar gefnogaeth ac arbenigedd y tiwtoriaid. Mae hyn yn arwain at godi proffil yr iaith Gymraeg yn y coleg ac yng nghymunedau gogledd ddwyrain Cymru.

 

 

 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol