Arfer Effeithiol |

Mae defnyddio arbenigedd ac angerdd staff yn creu dysgwyr llawn symbyliad, uchel eu cyflawniad

Share this page

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Ngogledd Caerdydd.  Mae 695 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 21 o ddosbarthiadau yn yr ysgol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae anghenion dysgu ychwanegol gan 15% ohonynt.  Daw rhyw 11% o ddisgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, ac mae 6% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae disgyblion yn cyflawni ymhell uwchlaw disgwyliadau lleol a chenedlaethol yn gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gall pob disgybl lwyddo.  Mae angerdd ymarferwyr yr ysgol yn deillio o’r gred sylfaenol y bydd disgyblion, os bydd ysgolion yn eu trochi mewn cwricwlwm eang, creadigol, yn datblygu’r medrau, y wybodaeth a’r brwdfrydedd i ddod yn gwir ddysgwyr gydol oes. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dros gyfnod, mae aelodau staff wedi datblygu dull ysgol gyfan cynaliadwy a phersonol o gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu bob hanner tymor. 

Mae’r ysgol yn ennyn diddordeb ei disgyblion mewn cwricwlwm cyfoethog ac amrywiol o’u diwrnod cyntaf yn y feithrinfa i’w diwrnod olaf ym mlwyddyn chwech.  Mae staff yn cyflwyno disgyblion i hanfodion arfer greadigol yr ysgol yn gynnar.  O ganlyniad, mae’n dod yn ffordd naturiol o ddysgu.

Yn ystod eu taith drwy’r ysgol, mae disgyblion yn cael profiad mewn chwech o destunau y flwyddyn sy’n darparu rhediad ac amrywiaeth i’w dysgu.  Mae aelodau staff wedi creu’r dull hwn yn benodol i ennyn diddordebau gwahanol a chwalu rhwystrau dysgu rhwng y rhywiau, anghenion unigol a phynciau.

Mae’r cwricwlwm personoledig hwn a chynlluniau gwaith yn adlewyrchu arbenigedd, brwdfrydedd a thalentau staff.  Mae’r ysgol wedi bod yn gyson o ran caniatáu i staff weithio ar y cyd i drafod, ymchwilio a dyfeisio adnoddau perthnasol sy’n hwyluso darparu cwricwlwm eang a chytbwys.  Mae cydlynwyr yn defnyddio’u diddordebau a’u medrau eu hunain ac yn ymestyn eu datblygiad proffesiynol y tu hwnt i ffiniau'r ysgol.  Er enghraifft, wrth greu’r testun ‘Tŷ Glöwr / Coal House’, ymwelodd cydlynwyr â chymuned lofaol yng Nghymru, buont yn edrych ar gofnodion plwyf, yn cyfweld â thrigolion ac yn ymweld â mynwentydd ac amgueddfa leol er mwyn cynhyrchu testun am y gorffennol sy’n parhau i fod yn destun gwir a pherthnasol.

Wrth gynllunio’r ddarpariaeth, mae aelodau staff yn ystyried mentrau newydd, newidiadau yn y cwricwlwm a datblygiadau mewn technoleg, a’u perthnasedd penodol i’r ysgol.  Ar yr un pryd, mae hoffter o ddysgu a diddordeb dysgwyr yn parhau’n ganolog i’r cwricwlwm creadigol.  O ganlyniad, mae aelodau staff yn datblygu testunau drwy wrando ar ddysgwyr sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiddordebau naturiol y disgyblion.  Er enghraifft, mae Ymchwiliad y Titanic yn gyson boblogaidd ymhlith dysgwyr ac mae’n gyfrwng rhagorol ar gyfer datblygu eu llythrennedd, rhifedd, eu medrau meddwl a’u medrau datrys problemau.  Rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol hefyd yw’r angen i feithrin hunaniaeth a balchder Cymreig yn y dysgwyr, o archwilio hynt a helynt Owain Glyndŵr i ymchwilio i’r cwestiwn mawr ‘Pam mae ein nant leol wedi’i henwi yn Rhydwaedlyd?’

Mae ymdeimlad o berchenogaeth ar y cyd yn ystod y broses gynllunio yn sicrhau bod aelodau staff yn cyflwyno ac yn coleddu testunau gydag angerdd a brwdfrydedd.  Mae staff a disgyblion yn ‘byw’ y testun trwy ddrama a chwarae rôl cynaledig.  Er enghraifft, pan fyddant yn dysgu am fywyd fel plentyn yn oes Fictoria, mae aelodau staff yn rhoi i’r disgyblion enw a phersona plentyn amddifad go iawn o ddogfennau wyrcws mewn dinas i ddisgyblion.  Yn ystod yr hanner tymor, bydd stori pob plentyn yn datblygu.  Bydd disgyblion yn datblygu’u medrau rhifedd trwy ddefnyddio cofnodion y wyrcws i fesur dognau bwyd dyranedig.  Mae staff yn defnyddio pob cyfle i fanteisio ar gysylltiadau trawsgwricwlaidd o fewn pob testun, gan greu dull cyfannol o ddysgu.  Mae ymdrwytho ym mhob pwnc yn arwain at lefelau uchel o ymgysylltiad a safonau uchel.

Nid yw’r dysgu yn dod i ben yn yr ystafell ddosbarth.  Mae disgyblion yn ddigon brwdfrydig i ehangu eu hoffter o ddysgu gartref.  Maent yn gwneud defnydd helaeth o ddysgu yn yr awyr agored a’r gymuned fel adnodd dysgu.  Mae disgyblion yn actio fel Celtiaid anrheithiol yn y goedwig leol neu’n llafarganu defodau claddu mewn safle Neolithig.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r staff yn teilwra cwricwlwm eang a chreadigol i fodloni’u hanghenion, mae disgyblion yn ddysgwyr cydnerth, dyfeisgar, annibynnol a chydweithredol sy’n anturus a chreadigol.  Mae eu hymgysylltiad gweithredol mewn testun yn eu galluogi i ddefnyddio’u medrau dysgu cydweithredol hyderus yn hawdd a chymhwyso a gwneud cysylltiadau rhwng eu dysgu a phrofiadau bywyd go iawn.  Mae arddulliau addysgu cyffrous ac ysgogol yr ysgol yn creu dysgwyr gydol oes, llawn cymhelliant nad oes ofn arnynt wneud penderfyniadau a gosod eu targedau eu hunain.  Mae rhediad y dysgu a’r profiadau cyfoethog yn sicrhau bod dysgwyr yn llythrennog a rhifog iawn a bod ganddynt safonau cymhwysedd digidol rhagorol.  Maent yn anelu’n uchel ac yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau ac yn eu mwynhau.  Mae canlyniadau’r ysgol yn dilysu hyn.

Sut mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon?

Mae staff wedi rhannu’r arfer hon o fewn y clwstwr lleol. 

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Effeithiau Drama ar yr Iaith Lafar ac Ysgrifenedig

Adroddiad thematig |

Arfer dda yn y dyniaethau

pdf, 1.44 MB Added 06/10/2017

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth yn y dyniaethau yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4 mewn ysgolion lle nodwyd arfer dda. ...Read more