Arfer Effeithiol |

Gwella’r Ysgol – Sut mae cylch cynhwysol o brosesau gwella ysgol yn gwella’r ddarpariaeth a deilliannau disgyblion yn barhaus.

Share this page

Nifer y disgyblion
866
Ystod oedran
11-16
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Agorodd Ysgol Gyfun Pontarddulais ym 1982, ac ychwanegwyd Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn yn 2007 ar gyfer hyd at 10 o ddisgyblion ag anableddau dysgu dwys a lluosog. Mewn cymuned sydd â chefndiroedd economaidd gymdeithasol amrywiol, daw disgyblion o ddalgylch gwasgaredig iawn, gan gynnwys ardaloedd trefol, pentrefi bach a ffermydd mynydd. Ar hyn o bryd, mae 866 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda thuag 16% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan oddeutu 20% ohonynt angen dysgu ychwanegol. Mae gweledigaeth yr ysgol, sef ‘Trwy gynhwysiant, parch a gwydnwch y down yn bobl well ac yn ddysgwyr gydol oes llwyddiannus,’ yn ategu arwyddair yr ysgol, sef ‘Byw i ddysgu...dysgu byw’.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer effeithiol neu arloesol

Nodwedd nodedig o gylch gwella’r ysgol yw’r sesiwn flynyddol, ‘Lansio Gwella’r Ysgol’, sef sesiwn gydweithredol sy’n cynnwys staff, llywodraethwyr a chynrychiolwyr disgyblion. Mae’r broses gynhwysol hon yn sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael eu hystyried, gan feithrin perchnogaeth ar y cyd dros flaenoriaethau strategol. Mae’r sesiwn hon yn llywio Cynllun Datblygu’r Ysgol (CDY), sef adnodd dynamig sy’n arwain cymuned gyfan yr ysgol at nodau cyffredin.

Mae’r CDY yn ysgogi cam cynllunio cylch gwella’r ysgol, sy’n cynnwys Cynlluniau Datblygu Maes (CDM) sy’n debyg mewn arddull a chynnwys i’r CDY, er eu bod wedi’u llunio hefyd i wasanaethu eu cyd-destun ar lefel maes/pwnc. Yn eu tro, mae amcanion rheoli perfformiad yn ddeilliannau naturiol i’r CDY a’r CDM. Mae cysoni’r prosesau hyn yn sicrhau synergedd a chyfrifoldeb colegol am wella’r ysgol. Mae’r Tîm Prifathrawiaeth Estynedig yn sgorio’r CDY yn ôl Coch/Melyn/Gwyrdd ac mae’r llywodraethwyr yn craffu arno’n rheolaidd, gan sicrhau dealltwriaeth glir o gynnydd a meysydd sydd angen sylw ychwanegol. Mae aelodau’r Tîm Prifathrawiaeth Estynedig yn arwain strategaethau unigol, gan gynnig dolen adborth barhaus o fewn cyfarfodydd cyswllt bob pythefnos.

powerpoint pontarddulais cy

Mae arweinyddiaeth wasgaredig yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant yr ysgol. Mae holl ddeiliaid cyfrifoldebau addysgu a dysgu yn cydweithredu i ysgrifennu adrannau o’r CDY. Mae cymryd rhan yn weithgar fel hyn yn cynnwys arweinwyr canol yn y broses ac yn rhoi’r grym iddynt lywio gwelliant yr ysgol. Mae cynnwys arweinwyr canol yn sicrhau dealltwriaeth fwy cynnil a chyd-destunol o flaenoriaethau gwella ar lefel maes ac adran.

Mae arweinwyr canol yn defnyddio adnodd gwerthusol ‘Pwnc ar Dudalen’ bob tymor, gan gynnig trosolwg cryno a chyfredol o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar lefel pwnc. Yn yr un modd, mae rhaglen Adolygiad Safonau’r Hydref yn galluogi arweinwyr pwnc i gyflwyno deilliannau disgyblion i’r Tîm Prifathrawiaeth i’w trafod. Mae’r sesiynau gwerthusol hyn yn cynnwys sut mae dadansoddiad lefel eitem yn cael ei defnyddio i lywio addysgu a dysgu. Mae cynlluniau datblygu at y dyfodol yn cyd-fynd yn agos â deilliannau’r prosesau hyn, gydag amrywiaeth o brosesau hunanwerthuso wedi’u hamserlennu ac wedi’u gwreiddio’n dda yn eu hategu.

Caiff safbwyntiau allanol eu cofleidio trwy waith cydweithredol â thair ysgol uwchradd leol, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr a meithrin rhannu arferion gorau. Mae’r ymgysylltu hwn yn cynnig safbwynt allanol gwerthfawr ac yn hwyluso rhannu arfer gorau. Yn ogystal, mae’r adolygiad ysgol gyfan blynyddol, dan arweiniad arweinwyr canol sy’n dilyn Rhaglen Darpar Uwch Arweinwyr yr Ysgol, yn nodi cryfderau ac argymhellion am agweddau penodol i lywio’r CDY canlynol.

Yr effaith ar ddarpariaeth a safonau disgyblion

  • Anelu at welliant parhaus: Mae arweinwyr yr ysgol yn defnyddio gweithgareddau hunanwerthuso cadarn a rheolaidd yn bwrpasol i annog gwelliant parhaus. Mae prosesau hunanwerthuso cylchol a thrylwyr wedi dod yn gryfder nodedig, gan annog ymglymiad gweithgar gan yr holl staff a llywodraethwyr.
  • Cyfrifoldeb cyfunol: Mae ymglymiad gweithgar staff a llywodraethwyr wrth lywio blaenoriaethau a strategaethau gwella wedi meithrin ymdeimlad cadarn o gyfrifoldeb cyfunol. Mae’r cydlyniad hwn yn ganolog i effaith gadarnhaol gyson arweinyddiaeth.
  • Defnydd effeithiol o ddata: Mae arweinwyr yn hyderus yn eu dadansoddiad o amrywiaeth eang o ddata, gan ei ddefnyddio’n ddoeth i nodi agweddau y mae angen eu gwella. Mae triongli canfyddiadau o ffynonellau tystiolaeth amrywiol a defnyddio safbwyntiau disgyblion a rhieni yn cyfrannu at wneud penderfyniadau yn wybodus.
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol: Mae gwaith cydweithredol ag ysgolion uwchradd lleol ac adolygiadau ysgol gyfan mewnol yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr i staff, yn enwedig ar lefel arweinwyr canol. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod medrau arwain yn cael eu datblygu a’u mireinio’n barhaus.
  • Safonau a deilliannau disgyblion: Mae safonau disgyblion yn gadarn, fel y mae cyfraddau presenoldeb.

Mae ymagwedd strategol a chynhwysol Ysgol Gyfun Pontarddulais at wella’r ysgol nid yn unig yn cyfrannu at welliannau mesuradwy, ond mae hefyd yn gwella’r gallu i arwain. Yn ei dro, mae hyn yn datblygu strategaeth olyniaeth gynaliadwy a model hunanbarhaol o wella’r ysgol yn barhaus.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. ...Read more
Adroddiad thematig |

Ymagweddau effeithiol wrth asesu sy'n gwella addysgu a dysgu

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2021-2022. ...Read more
Adroddiad thematig |

Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion

pdf, 2.01 MB Added 12/06/2019

Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cefnogi iechyd a llesiant disgyblion. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Ymddiried mewn staff i arwain ar wella addysgeg ac arfer

Yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, mae cyfuno’r diwylliant sy’n cael ei greu a’i feithrin gan y pennaeth a’r tîm arwain a’u hymddiriedaeth mewn darpar arweinwyr i arwain a rheoli datblygiadau ysgol gyfa ...Read more
Adroddiad thematig |

Gwella addysgu

pdf, 1.66 MB Added 28/06/2018