Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar ddwy flaenoriaeth allweddol: parhau i feithrin diwylliant ysgol cynhwysol, anogol, a sicrhau cyfleoedd dysgu difyr, gan gynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau yng Nghyfnod Allweddol 4. Yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn fwy tebygol o fod eisiau mynd i’r ysgol gyda’r diwylliant cywir a chwricwlwm diddorol a deniadol.
Mae strategaethau penodol yn cynnwys:
Meithrin a chynnal perthnasoedd: Mae’r ysgol yn amgylchedd diogel ac anogol, lle mae perthnasoedd cadarnhaol yn cael eu blaenoriaethu. Fe wnaeth gweithgor ymddygiad ailysgrifennu Polisi’r ysgol ar Ymddygiad Cadarnhaol, gyda ffocws clir ar sicrhau diwylliant rhagweithiol sy’n meithrin yr ymddygiadau cadarnhaol hyn a dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar ymddygiad disgyblion. Mae arfer seiliedig ar dystiolaeth, fel technegau hyfforddi emosiwn ac ymwybyddiaeth ymwybodol o drawma, yn sylfaen i’r polisi ar ymddygiad cadarnhaol. Mae rheolau syml, ond effeithiol, ‘Parod, Parchus a Diogel’ wedi’u gwreiddio ar draws cymuned yr ysgol. Mae hyfforddiant rheolaidd i staff yn cynnwys esbonio pwysigrwydd sut mae staff yn rhyngweithio â disgyblion gan ddefnyddio dull y 5C, pan ddisgwylir i staff fod yn ddigyffro, yn gyson, yn glir, yn hyderus ac yn dosturiol (calm, consistent, clear, confident and compassionate) wrth siarad â disgyblion. Ochr yn ochr â hyn, mae pwysigrwydd datblygu gwerthoedd personol fel caredigrwydd ac empathi’n cael eu haddysgu’n benodol i ddisgyblion, trwy raglen Cymeriad a Diwylliant.
Hyrwyddo presenoldeb: Trwy wasanaethau a sesiynau tiwtor dosbarth, mae’r ysgol yn pwysleisio pwysigrwydd presenoldeb dyddiol fel conglfaen llwyddiant academaidd a thwf personol.
Monitro ac ymyriadau cadarn: Mae gan yr ysgol system fonitro gynhwysfawr i adnabod patrymau ymddygiad yn gynnar. Mae ymyriadau teilwredig, gan gynnwys cymorth un i un ac ymgysylltu â’r teulu, yn allweddol ar gyfer mynd i’r afael â heriau presenoldeb penodol, yn enwedig i ddisgyblion agored i niwed. Mae staff allweddol yn gweithio fel tîm i greu cynlluniau cymorth unigol i’r disgybl. Caiff y rhain eu monitro’n rheolaidd trwy gyfarfodydd â ffocws gyda staff allweddol. Mae Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yr ysgol yn gweithio’n agos gyda’r Swyddog Lles Addysg i gefnogi teuluoedd mewn modd sensitif a gofalgar, gan ddarparu allgymorth yn y gymuned yn aml. Gan fod y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd/Swyddog Lles Addysg yn gweithio gydag ysgolion cynradd partner, mae arferion yn gyson ar draws y clwstwr.
Arloesi’r Cwricwlwm: Gan gydnabod anghenion a diddordebau eang y disgyblion, fe wnaeth yr ysgol ehangu ei chwricwlwm ym Mlynyddoedd 10 ac 11 i gynnwys cyfuniad o bynciau TGAU a galwedigaethol. Bwriedir i gynnig y cwricwlwm ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu a bod yn gyson â’u diddordebau a’u dyheadau gyrfaol. Mae’r ysgol o’r farn bod hyn wedi cael effaith ddofn ar bresenoldeb ar gyfer y ddau grŵp blwyddyn.