Arfer Effeithiol |

Gwella medrau ysgrifennu

Share this page

Nifer y disgyblion
334
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol y Garnedd yn ysgol gymunedol benodedig Gymraeg sy’n gwasanaethu dinas Bangor a phentrefi cyfagos.  Mae 334 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr yn cynnwys 32 yn y meithrin.  Maent wedi eu trefnu’n 12 dosbarth oed cymysg.  Ar gyfartaledd tros y tair blynedd ddiwethaf, mae 7.5% o'r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 18%.  Ar hyn o bryd mae ychydig dros 12% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol, sy’n is na’r canran cenedlaethol o 21% ac mae gan ychydig iawn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol uchelgais strategol i wella a chodi safonau yn barhaus.  Roedd gwella ysgrifennu estynedig wedi bod yn flaenoriaeth ysgol gyfan yn 2016 - 2017.  I gychwyn, adolygwyd y ddarpariaeth a’r cyfleoedd i ysgrifennu yn estynedig  drwy:

  • edrych ar y ddarpariaeth bresennol o safbwynt cynlluniau gwaith tymor hir a chanolig
  • adnabod ac adolygu’r cyfleoedd i ddisgyblion ysgrifennu yn estynedig ar draws y cwricwlwm
  • gynnal cyfarfodydd staff cyfan a staff adrannol i addasu cynlluniau a phrofiadau i ddisgyblion
  • edrych ar gywirdeb llafar y disgyblion fel modd o ddatblygu ysgrifennu cywir
  • adolygu’r broses o ysgrifennu mewn camau bach fel modd o arfogi’r disgyblion i allu cyflawni yn llwyddiannus

Drwy hunanwerthuso trylwyr, penderfynwyd y byddai angen sicrhau cywirdeb llafar a phatrymau iaith er mwyn datblygu gwaith ysgrifenedig ymhellach.  Yn ogystal, penderfynwyd ei bod yn hanfodol fod disgyblion yn cael eu harfogi gyda’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni tasgau ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Fel canlyniad i ganfyddiadau o fonitro’r ddarpariaeth, penderfynodd yr ysgol y byddai cyfres o wersi sgiliau iaith yn cael eu cynllunio er mwyn arfogi a pharatoi’r disgyblion ar gyfer ysgrifennu yn estynedig.  Yn ychwanegol, bu i’r ysgol sicrhau bod y disgyblion yn cael eu hysbrydoli a’i symbylu ar gyfer cyflawni’r tasgau ysgrifenedig drwy gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol cyn cyflawni’r tasgau ysgrifenedig.  Penderfynodd yr ysgol bod arfogi disgyblion gyda sgiliau perthnasol, eu hysbrydoli drwy ymweliadau a’r broses o arfarnu modelau ysgrifenedig yn werthfawr er mwyn eu datblygu a’u paratoi ar gyfer cwblhau gwaith ysgrifennu estynedig llwyddiannus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mesurodd yr ysgol effaith y gweithredu drwy graffu ar waith a llyfrau’r disgyblion.  Gwelwyd bod bron pob un o’r disgyblion wedi gwella eu gallu i greu darnau ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm.  Pan edrychwyd ar samplau ysgrifennu yn draws ysgol, gwelwyd fod nifer o dasgau ysgrifennu o safon dda iawn yn cael eu cyflawni.  Erbyn hyn mae’r ysgol wedi addasu cynlluniau a’r ddarpariaeth er mwyn symbylu, arfogi a modelu gwaith cyn i ddisgyblion gychwyn eu gwaith ysgrifenedig.  Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais amlwg ar yr angen i ddisgyblion ymarfer a dysgu patrymau iaith lafar.  Mae hyn wedi cael dylanwad pendant ar ansawdd eu gwaith ysgrifenedig.  O ganlyniad,  mae rhan fwyaf y disgyblion yn llwyddo i greu gwaith ysgrifennu ar draws y cwricwlwm o safon uchel yn y ddwy iaith.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

 

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda gyda staff yr awdurdod lleol ac ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.  Yn ogystal mae’r ysgol wedi cymryd rhan mewn sesiynau craffu ar y cyd gydag ysgolion eraill o fewn ei dalgylch.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol