Mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wedi eu rhannu yn 4 grŵp, neu yn gynghorau’r 4 Diben. Mae cyngor ar gyfer pob diben. Bob hanner tymor mae’r 4 cyngor yn cyd-weithio ar un cywaith gyda phob grŵp yn arwain ar weithgareddau, ynghlwm a'u diben, er mwyn ymateb i’r cyd-destun. Er enghraifft, o dan bennawd ‘Yr Wcráin’ penderfynodd un grŵp bod angen casglu arian ar gyfer elusen drwy drefnu taith gerdded. Trefnodd y disgyblion y bws, ar ôl cysylltu â sawl cwmni er mwyn cael y pris gorau. Cysylltodd y grŵp drwy e-byst gydag ysgolion Eglwys eraill er mwyn eu gwahodd ar y daith. Trefnodd y disgyblion lwybr y daith gan ystyried pellter, amser, asesiad risg o ran diogelwch a chyfleusterau. Coginiodd grŵp fisgedi gyda banner yr Wcráin mewn eisin glas a melyn ar gyfer seibiant hanner ffordd. Trefnodd y grŵp olaf bob gohebiaeth, gan gynnwys manylion sut i noddi a rhoi at yr elusen, ar gyfer y rhieni a’r gymuned. Yn ystod gwaith cynghorau’r 4 Diben, nid ein rôl ni fel athrawon yw arwain, ond yn hytrach i gefnogi'r disgyblion i wireddu eu syniadau, ac i holi ‘Sut mae hyn am weithio?’
I gyd fynd â gwaith cynghorau’r 4 Diben mae disgyblion 7 - 11 oed yn cael dau ‘Brynhawn Prysur,’ yr wythnos. Mae’r athrawon yn cyd-weithio i greu grid o 6 thasg ar gyfer y ddau oedran, sef Blwyddyn 3/4 a Blwyddyn 5/6. Ym Mlwyddyn 5/6 mae’r tasgau wedi eu gosod ar lwyfan digidol yr ysgol ynghyd â dolenni at wefannau a thestunau ymchwil y bydd angen ar y disgyblion i gwblhau'r tasgau. Ym Mlwyddyn 3/4 mae llai o ganllawiau ar y llwyfan digidol gan fod mwy o egluro, ar lafar, yn digwydd cyn i’r disgyblion gychwyn ar eu gwaith. Yn ystod y prynhawniau, mae’r disgyblion yn cael dewis pa dasgau i’w cwblhau o’r grid. Mae’r tasgau bob tro yn cynnwys gweithgareddau technoleg, gwyddoniaeth, iechyd corfforol, dylunio ac amrywiaeth o agweddau o’r celfyddydau mynegiannol. Os oes angen dysgu sgil newydd er mwyn gallu ymateb i un o’r tasgau, rhywbeth sydd angen mwy o eglurhad nac y gellir rhannu ar y llwyfan digidol, yna mae’r athrawon yn cynnal gwers ffurfiol ar yr agwedd benodol ar ddechrau’r hanner tymor. Mae’r disgyblion yn cael dewis i gyd-weithio efo ffrind neu weithio’n annibynnol er mwyn cwblhau’r tasgau. Wrth i’r disgyblion weithio ar eu tasgau, heb unrhyw bwysau i orffen mewn un wers neu brynhawn, gall yr athrawon gamu’n ôl gan adael i’r disgyblion arbrofi. Nid yw’r athrawon yn ymyrryd os nad yw pethau’n gweithio. Maent yn gadael i’r disgyblion weithredu eu syniadau ac maent yno i’w cefnogi os ddaw camgymeriadau i’r amlwg. Eto, cwestiynu yw gwaith yr athrawon, gan hwyluso gwaith meddwl y disgyblion. Holi cwestiynau fel, ‘Pam na weithiodd hynny?’, ‘fedri di feddwl am ffordd wahanol i wneud hyn?’, ‘oes ‘na rhywun arall yn y dosbarth sydd â phroblem debyg?’ Os yw’r disgybl yn hapus gyda’r darn gorffenedig yna maent yn gallu symud at dasg arall neu i weithio ar heriau sy’n meithrin eu lles emosiynol. Ond os nad yw’r darn wedi cyflawni’r disgwyliadau, yna mae’n bwysig bod y disgybl yn cael amser i ail-feddwl a rhoi cynnig arall arni. Mae ethos y dosbarthiadau yn annog y disgyblion i roi cynnig ar eu syniadau, gan ddysgu drwy eu llwyddiannau neu, yn bwysicach, drwy eu camgymeriadau.
Yn ystod yr hanner tymor gall tasgau ymestynol gael eu hychwanegu fel bo’r angen, er mwyn herio’r disgyblion ynmhellach. Er enghraifft, roedd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wedi dylunio a chreu Tegan symudol gan ddefnyddio pŵer batri. Nawr bod y disgyblion yn deall cylched trydan, maent wedi gweithio ar greu cerdyn Nadolig sydd yn goleuo bwlb ‘LCD’ wrth agor a chau’r cerdyn, a chysylltu â thorri’r gylched.
Ar ddiwedd pob tasg, mae gofyn i’r disgyblion uwch-lwytho eu gwaith neu ffotograff o’u gwaith a’i werthuso ar apiau pwrpasol i’w hoedran. Wedi gwerthuso eu gwaith eu hunain, ar adegau maent wedyn yn gwerthuso gwaith eu cyfoedion fesul par neu ar y cyd fel dosbarth.