Arfer Effeithiol |

Fferm ysgol sy’n helpu gwella medrau rhifedd a llythrennedd disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
247
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol San Siôr yn ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno, Gogledd Cymru.  Mae 245 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Ceir disgyblion sy’n cynrychioli 15 o genhedloedd yn yr ysgol, a disgrifir bod 17% o’i phoblogaeth o darddiad Prydeinig heb fod yn wyn a bod 23% yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig o ddisgyblion yr ysgol yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Mae Ysgol San Siôr yn darparu cwricwlwm ysgogol a heriol sy’n grymuso disgyblion i feddwl drostynt eu hunain ac i ragori ar eu disgwyliadau.  Mae dealltwriaeth o gyfyngiadau’r ystafell ddosbarth fel amgylchedd dysgu a’r cyfleoedd a geir yn yr amgylchedd ehangach yn egwyddor graidd sy’n cyfeirio darpariaeth yr ysgol yn dda.

Mae’r amgylchoedd yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol sy’n ategu gwaith yr ystafell ddosbarth.  Mae pysgodyn aur yr ysgol wedi’i ddisodli â chameleonod, ieir, crwbanod, madfallod monitor, gecoaid o bob math, a brogaod egsotig, maint soseri.  Nod y staff yw rhoi’r holl fedrau a’r wybodaeth i ddisgyblion i’w galluogi i ddod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithgar wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg.

Nod yr ysgol yw darparu gymaint o brofiadau uniongyrchol ag y bo modd i ddisgyblion, ac mae o’r farn bod defnyddio byd natur fel adnodd yn ffactor allweddol i gynnal safonau academaidd craidd lle mae disgyblion yn ymfalchïo yn y byd o’u cwmpas ac yn datblygu hoffter o ddysgu.  Enillodd yr ysgol Wobr Menter Ysgol Gynradd Orau Llywodraeth Cymru am y fenter arloesol ‘Wyau San Siôr’.  Ochr yn ochr â datblygu cwricwlwm creadigol sy’n meithrin dysgu mwy annibynnol, mae Ysgol San Siôr hefyd yn cydnabod yr angen i ddarparu dulliau dysgu mwy uniongyrchol i gefnogi dysgwyr y nodwyd bod angen cymorth ychwanegol arnynt.  Er enghraifft, mae’r ysgol yn defnyddio ymyriadau darllen a rhifedd yn seiliedig ar dystiolaeth. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Erbyn hyn, mae llawer o ysgolion yn cadw ieir ac anifeiliaid mewn ymdrech i gyfoethogi’r cwricwlwm.  Dechreuodd Ysgol San Siôn yn debyg iawn i ysgolion eraill, gan gadw chwe iâr a chasglu eu hwyau.  Yna, gwelodd y staff gyfle addysgol a masnachol na fanteisiwyd arno’n flaenorol.  Fe wnaethant hefyd gydnabod yr angen i ehangu amgylchedd dysgu’r ysgol mewn ffordd a oedd yn galluogi disgyblion i ehangu a gwella eu medrau llythrennedd a rhifedd trwy dasgau mwy perthnasol, mewn cyd-destun.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn cynhyrchu dros 20,000 o wyau’n flynyddol erbyn hyn, a dywed mai hi yw’r unig ysgol yng Nghymru sy’n gallu gwerthu wyau i sefydliadau manwerthu.  Mae’r ysgol wedi cofrestru fel gorsaf bacio ac mae’n stampio bob wy gyda chod unigryw sy’n galluogi gwerthu i siopau manwerthu, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Gwasanaethau Rheoliadol a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol.

Mae’r elfennau 'fferm ysgol' yn herio medrau entrepreneuraidd y plant yn effeithiol drwy’r cysylltiadau a sefydlwyd gyda chanolfan leol bwydydd o Gymru fel man i werthu wyau’r ysgol yn ogystal â mannau eraill.  Mae’r ysgol wedi datblygu cysylltiadau busnes eraill gyda chwmni gwaith saer sy’n cyflenwi deunydd gwely yn gyfnewid am wyau.  Yn sgil y prosiect arloesol iawn hwn, nid yn unig y mae’r ysgol wedi’i chydnabod fel ysgol sy’n gallu gwerthu wyau drwy siopau manwerthu, ond mae hefyd wedi ennill gwobr Menter Ysgol Gynradd Orau gan Gynllun Criw Mentrus Llywodraeth Cymru.  Arweiniodd hyn at gydnabyddiaeth genedlaethol, gyda’r ysgol yn ymddangos ar BBC Countryfile, S4C, ITV Wales a rhaglenni cenedlaethol eraill. 

Mae wythnosau â thema yn galluogi pob grŵp blwyddyn i gyfranogi’n llawn, nid yn unig yn casglu wyau ac yn cynnal a chadw’r cutiau, ond mae wedi codi safonau hefyd.  Mae staff yn cynllunio gweithgareddau ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm a dynnir o weithgareddau ysbrydoli fel o lyfr Roald Dahl ‘Danny Champion of the World’.  Maent yn cynnwys ysgrifennu creadigol ar sut i ddal iâr; mewnbynnu data ar ‘daenlenni incwm / gwariant’ a chyfrifo elw; pennu cryfder sŵn y ‘ceiliog niwsans’ gan ddefnyddio cofnodwyr data i fesur desibelau a pha mor debygol y mae o effeithio ar y gymuned leol; a hefyd ysgrifennu ar draws ystod o genres.  Mae ymgorffori gweithgareddau o’r fath mewn wythnosau â thema wedi ychwanegu gwerth mawr at y gwaith sy’n gysylltiedig â chadw ieir, ac mae wedi cyfrannu at gynnal safonau uchel ym medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion. 

Mae’r ysgol wedi buddsoddi elw mewn prosiectau tebyg, fel sefydlu gwenynfa ar safle’r ysgol.  Yn ei thro, mae wedi defnyddio refeniw o’i chynhaeaf mêl a’i gwerthiannau wyau i dalu am gwtshys darllen ac offer chwarae awyr agored, yn ogystal ag ehangu’r wenynfa.  Mae gan y cyngor ysgol lais wrth benderfynu sut dylai’r ysgol ddefnyddio’i helw.  Rhaid cofio, er mwyn sefydlu’r fferm, fod yr ysgol wedi gorfod edrych ar ffyrdd eraill o gynhyrchu incwm.  Gwnaeth hyn drwy waredu dau fin 1,100 litr a chael biniau ailgylchu yn eu lle.  Fe wnaeth y symudiad hwn tuag at wella ailgylchu greu digon o gyllid i alluogi’r ysgol i ddatblygu’r elfen fferm yn y lle cyntaf.

Mae’r wyau o’r haid o 50 o ffesantod aur addurnol yn cael eu marchnata hefyd a’u gwerthu ar eBay, ac mae’r ysgol yn deor canran o’r wyau bob blwyddyn er mwyn cynnal yr haid fridio.

Mae perllan a sefydlwyd ar gae’r ysgol, a lleiniau llysiau yn galluogi’r ysgol i gynaeafu ffrwythau a llysiau i wneud siytni.  Mae system fanwl Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol wedi galluogi’r ysgol i wneud a gwerthu siytni’r ysgol; ac mae Grŵp Anogaeth yr ysgol yn defnyddio’r ffrwythau a’r llysiau a dyfir yn nhwnnel polythen ac ar leiniau llysiau’r ysgol mewn ffyrdd cyffrous sy’n cynyddu eu hunan-barch a’u hyder. 

Bob wythnos, mae’r ysgol yn amserlennu dosbarthiadau gwahanol i oruchwylio’r dyletswyddau sy’n gysylltiedig â chynnal elfen ‘fferm’ yr ysgol.  Maent yn cysylltu gweithgareddau â’r cwricwlwm i godi safonau disgyblion mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mae’r agweddau entrepreneuraidd ar San Siôr yn ddatblygiad cymharol newydd, y profwyd eu bod yn boblogaidd, ac mae plant yn cynnig gweithdai i ysgolion eraill, yn seiliedig ar addasu, ecoleg a chadwraeth.  Cymharwyd ansawdd y gweithdai hyn â gweithdai masnachol tebyg i sicrhau gwerth am arian.  Mae’r ysgol yn mynnu bod disgyblion yn ymchwilio ac yn cyflwyno’u canfyddiadau  mewn ffyrdd bywiog i ddal diddordeb y gynulleidfa, o ddal cameleon wrth iddo saethu ei dafod elastig allan, i ddisgrifio creadur cyffredin sydd â mwy o ddannedd na morgi mawr gwyn, ond dim ond un droed!  Mae medrau ymchwilio disgyblion ar y rhyngrwyd wedi gwella yn unol â’u hawch am wybodaeth. 

Mae ail-fuddsoddi cyllid mewn prosiectau tebyg wedi bod yn athroniaeth ganolog i’r prosiectau y mae’r ysgol yn ymgymryd â nhw.  Er mai megis cychwyn y mae’r ysgol o ran cadw gwenyn, mae staff wedi cynyddu’r cychod gwenyn o un cwch ddwy flynedd yn ôl i saith cwch heddiw.  Mae camera yn un o’r cychod sy’n trosglwyddo lluniau o weithgarwch y cwch gwenyn i sgrin yng nghyntedd yr ysgol.  Mae gwerth addysgol cadw gwenyn yn aruthrol a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach, tra bod y gwerth masnachol eisoes wedi’i wireddu’n llawn, gyda’r holl fêl yn cael ei werthu o fewn dyddiau i bob cynhaeaf mêl, yn Ffair Fêl hynaf Cymru yng Nghonwy.  Bydd yr ysgol yn ymchwilio ymhellach i’r modd y gellir defnyddio gwenyn i godi safonau ar draws y cwricwlwm yn y dyfodol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith hwn wedi galluogi athrawon i gynllunio cwricwlwm perthnasol a diddorol sy’n diwallu anghenion pob dysgwr.  Mae athrawon wedi sicrhau bod amgylchedd dysgu cyfoethog yr ysgol yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i ddarparu cyd-destunau heriol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.  Erbyn hyn, mae disgyblion yn cymhwyso ystod o fedrau rhifedd a llythrennedd yn hyderus i safon dda iawn ar draws y cwricwlwm.  Mae medrau llefaredd disgyblion, ac yn benodol, eu hyder wrth gyflwyno i ystod eang o gynulleidfaoedd, wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.  Hefyd, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth dda iawn o waith entrepreneuraidd, gan gynnwys agweddau allweddol fel elw a cholled, a chyfrifyddu syml.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn drwy ymddangos ar y teledu’n genedlaethol ac yn lleol, BBC Countryfile, ITV News, CBeebies, S4C Ffermio, BBC Radio a radio lleol.  Yn dilyn ymlaen o’r cyhoeddusrwydd hwn, mae ysgolion ledled y Deyrnas Unedig wedi cysylltu â chi i gael cyngor ac i drefnu ymweliadau i weld y gwaith.  Erbyn hyn, mae Prifysgol John Moores yn trefnu ymweliadau blynyddol gyda 40 o fyfyrwyr i gael gweld yn uniongyrchol sut mae’r amgylchedd dysgu yn gallu effeithio ar safonau, ac maent wedi cynnwys yr ysgol fel astudiaeth achos ar gyfer eu cyhoeddiad nesaf, “Understanding Sustainability in the Early Years across the UK”.