Arfer Effeithiol |

Dysgu trwy chwarae i gefnogi dysgu annibynnol

Share this page

Nifer y disgyblion
200
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Drenewydd Gelli-farch ym mhentref Drenewydd Gelli-farch, bedair milltir y tu allan i dref Cas-gwent ar y ffin yn Sir Fynwy.  Mae 200 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 yn mynychu’r ysgol, mewn saith dosbarth un oedran.

Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 1%, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Nodir bod gan ryw 15% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Daeth y pennaeth yn Bennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Drenewydd Gelli-farch a dwy ysgol arall yng Nghas-gwent am gyfnod o dair blynedd yn 2015.  Er mis Medi 2018, daeth y pennaeth gweithredol yn gydlynydd clwstwr ar gyfer clwstwr o ysgolion Cas-gwent, a dychwelodd i Drenewydd Gelli-farch i rannu’r brifathrawiaeth â’r Pennaeth Cysylltiol.  Penodwyd cyd-bennaeth parhaol gan y corff llywodraethol i rannu prifathrawiaeth yr ysgol yn 2017.

Bu’r ysgol yn ysgol arloesi ar gyfer y celfyddydau mynegiannol, ac mae bellach yn parhau fel ysgol ddysgu broffesiynol yng nghonsortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae 'Cwricwlwm i Gymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen' (Llywodraeth Cymru, 2015) yn pwysleisio pwysigrwydd plant yn dysgu trwy brofiadau uniongyrchol, gyda ‘chwarae’ wrth wraidd yr holl ddysgu.  Mae’n cydnabod “drwy eu chwarae, bydd plant yn ymarfer a chadarnhau eu dysgu, yn chwarae gyda syniadau, arbrofi, cymryd risgiau, datrys problemau, ac yn gwneud penderfyniadau’n unigol ac mewn grwpiau bach a mawr”.

Gan gofio hyn, datblygodd yr ysgol eu harferion 'Amser i Chi Gael Tro' (OTYT) i sicrhau bob dydd:

  • bod dysgwyr yn cael y cydbwysedd cywir rhwng tasgau strwythuredig dan gyfarwyddyd oedolyn, a phrofiadau dysgu wedi’u hysgogi gan y plentyn
  • y gallai dysgwyr ddewis eu profiadau dysgu eu hunain ac elwa ar eu diddordebau eu hunain
  • y gallai dysgwyr weithio ar eu cyflymdra unigryw eu hunain a datblygu eu dyfalbarhad, eu gallu i ganolbwyntio a’u sylw i fanylder
  • bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer medrau newydd mewn gwahanol sefyllfaoedd yn seiliedig ar chwarae
  • bod dysgwyr yn cael mynediad llif rhydd rhwng amgylcheddau dan do ac awyr agored
  • bod dysgwyr yn cael profiadau dysgu a oedd yn hwyl, yn ddifyr ac yn ysgogol, ac yn hyrwyddo chwilfrydedd a darganfyddiad naturiol
  • bod dysgwyr yn cael eu hannog i fod yn greadigol, yn ddychmygus ac yn annibynnol yn eu dysgu
  • bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i herio eu hunain i weithio ar lefelau uwch, trwy system heriau â sêr
  • bod dysgwyr yn cael eu cynorthwyo a’u hannog gan oedolion; a oedd yn symud eu dysgu ymlaen trwy ryngweithio, gan gynnwys holi agored, meddwl ar y cyd a chynaledig  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn ystod diwrnod ysgol, ceir cydbwysedd priodol rhwng addysgu medrau allweddol dan gyfarwyddyd oedolyn a dysgu annibynnol wedi’i ysgogi gan blentyn yn y ddarpariaeth estynedig dan do ac yn yr awyr agored.  Mae hyn yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn ymarfer ac atgyfnerthu eu medrau trwy chwarae tra byddant yn datblygu cariad at ddysgu.  Caiff hyn ei adnabod fel 'Amser i Chi Gael Tro' (OTYT), lle mae’r plentyn yn ganolog i’r cwricwlwm cynlluniedig hwn.

Mae’r disgyblion yn penderfynu ar ddechrau’r flwyddyn pa destunau yr hoffent eu hastudio, gyda phob testun yn dechrau â diwrnod ‘Ymchwilio a Darganfod’ lle caiff yr ystafelloedd dosbarth eu gweddnewid dros nos i adlewyrchu’r thema newydd.  Mae staff yn gwisgo i fyny, ac fe gaiff y disgyblion eu trwytho mewn diwrnod o weithgareddau a phrofiadau cyffrous yn gysylltiedig â’r testun.  Er enghraifft, yn eu testun ‘Anhrefn y Canol Oesoedd’ ('Medieval Mayhem'), bu marchog o’r castell lleol yn cynnal gweithdai yn yr ysgol, a gwahoddodd y marchog nhw i ymweld ag ef yn ei gastell y diwrnod canlynol.  Ar gyfer eu testun ‘O mor braf yw bod ar lan y môr’ ('Oh I do like to be beside the seaside'), fe wnaethant dreulio’r diwrnod ar draeth – yn chwilio mewn pyllau glan môr, yn cymryd rhan mewn helfa sborion, ac yn creu cerfluniau a chestyll tywod.  Yn dilyn y trochi yn y testun newydd, mae’r athrawon yn cynllunio medrau’r cam nesaf, gan eu haralleirio mewn iaith plant er mwyn i ddisgyblion allu penderfynu pa weithgareddau y byddant yn eu cwblhau i ymdrin â’r medrau hyn.  Caiff eu holl syniadau eu harddangos ar fwrdd cynllunio testun.  Mae’r athrawon yn ymgorffori’r gweithgareddau hyn yn eu cynllunio ffocysedig, y ddarpariaeth estynedig a’r gweithgareddau dysgu gartref.

Mae parthau dysgu’r ddarpariaeth estynedig yn cwmpasu pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad.  Er enghraifft, mae’r ‘Gorsafoedd Ymchwilio’ yn darparu cyfleoedd i archwilio gweithgareddau gwyddoniaeth a’r dyniaethau.  Ym mhob un o’r parthau dysgu, ceir heriau â sêr sy’n galluogi’r dysgwyr i herio eu hunain i weithio’n annibynnol tra’n ymarfer eu medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh, creadigrwydd a’u medrau meddwl.  Yn ystod OTYT, rhoddir man cychwyn i’r plant sicrhau eu bod yn profi cydbwysedd o weithgareddau yn ystod yr wythnos, ond wedyn maent yn rhydd i ddewis eu llwybr dysgu eu hunain.

Nid oes gan yr ysgol ‘amser chwarae’ penodol, oherwydd yn ystod OTYT, mae’r plant yn penderfynu drostynt eu hunain pan fydd arnynt eisiau mynd allan i chwarae, gyda llif rhydd parhaus rhwng yr ardaloedd dan do a’r ardaloedd awyr agored yn ystod y cyfnod hwn.  Nid oes ‘amseroedd byrbryd’ penodol.  Yn hytrach, mae 'caffi', sy’n agored yn ystod OTYT i’r disgyblion ei ddefnyddio pryd bynnag y bydd arnynt eisiau bwyd.  Mae hyn yn brofiad cymdeithasol iawn gyda cherddoriaeth gefndir yn chwarae, a’r gwahanol grwpiau blwyddyn yn cymysgu a chymdeithasu â’i gilydd.  Tra byddant yn y  'caffi', mae’r plant yn gwneud salad ffrwythau iddyn nhw eu hunain, ac yn arllwys diod o laeth iddyn nhw eu hunain.  Mae oedolyn yn eu goruchwylio, ac mae system ar waith i sicrhau bod pob un o’r plant wedi ymweld â’r caffi cyn iddo gau.

Yn ystod OTYT, mae staff yn chwarae ochr yn ochr â’r disgyblion, gan hwyluso ac ymestyn eu dysgu trwy ymyriadau amserol sy’n gwella eu datblygiad deallusol a’u rhyngweithio cymdeithasol.  Mae’r staff yn cynorthwyo disgyblion i feddwl a dysgu’n hyderus, yn fedrus ac yn annibynnol ac maent yn annog agweddau cadarnhaol.  Anogir y staff i arsylwi’r disgyblion yn chwarae hefyd, i greu darlun cyfannol o’r dysgwr, a nodi’r camau nesaf ar gyfer eu dysgu.  Mae holl staff y cyfnod sylfaen yn cyfarfod â’i gilydd bob wythnos i drafod cynnydd a chyflawniadau’r dysgwyr, a chynllunio’r cam nesaf yn y profiadau dysgu ar gyfer yr wythnos ganlynol.

Caiff dysgu annibynnol a phwysigrwydd llais y disgybl yn y cyfnod sylfaen eu hyrwyddo trwy gyfres o sesiynau ‘cyfoethogi a phrofiad bywyd’ bob tymor hefyd.  Mae’r disgyblion yn dewis pa weithgareddau cyfoethogi y mae arnynt eisiau cymryd rhan ynddynt am yr hanner tymor.  Mae’r ystod eang o gyfleoedd yn cynnwys ‘Prif Gogydd’ ('Master Chef'), ‘Meddygon Bach’ ('Mini Medics'), ‘Siarad Sbaeneg’ ('Speaking Spanish'), ‘Gemwyr Grwfi’ ('Groovy Gamers'), ‘Magu Anifeiliaid’ ('Animal Husbandry'), ‘Gwau’ ('Knit-wits') a ‘Cerddwyr Natur’ ('Nature Ramblers').

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae 'Amser i Chi Gael Tro' yn effeithiol iawn o ran galluogi’r holl ddisgyblion i wneud penderfyniadau pwysig am eu dysgu a gweithio’n fedrus fel dysgwyr annibynnol.  O ganlyniad, mae medrau personol a chymdeithasol disgyblion yn gryf iawn ar draws y cyfnod sylfaen.  Mae’r heriau ymarferol, creadigol a meithrin tîm yn datblygu disgyblion brwdfrydig sydd ag agweddau cadarnhaol iawn tuag at eu gwaith.  Maent yn herio eu hunain i fod yn ddysgwyr hyderus ac uchelgeisiol.

Trwy greu amgylchedd ar gyfer dysgu wedi’i ysgogi gan y plentyn ac arfogi pob un o’r disgyblion â medrau arwain a gwneud penderfyniadau, mae lles disgyblion wedi gwella.

Mae’r heriau â sêr ym mhob un o ardaloedd y ddarpariaeth estynedig dan do ac awyr agored yn hyrwyddo datblygiad medrau rhifedd a llythrennedd yn greadigol mewn cyd-destunau go iawn, gan arwain at safonau uwch a chariad at ddysgu.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer ag ysgolion eraill yn ystod sesiynau hyfforddi’r cyfnod sylfaen a diwrnodau agored ‘arferion sy’n werth eu rhannu’.  Mae llawer o ysgolion wedi ymweld i arsylwi’r ddarpariaeth, a’r strategaethau addysgu a dysgu yn uniongyrchol. 

Tagiau adnoddau

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Cydweithredu ar draws ysgolion clwstwr

Mae tair ysgol yng Nghynghrair Cynradd Cas-gwent wedi cydweithio i greu arweinyddiaeth effeithiol ym mhob ysgol. Cefnogir arweinyddiaeth ar bob lefel gyda hyfforddiant pwrpasol. ...Read more