Daeth yn amlwg bod angen cymorth fwy hir dymor ar y disgyblion mwyaf bregus. O ganlyniad, sefydlwyd cymorth ar 3 haen.
1. Cefnogaeth tymor hir:
- ‘Y Nyth’ - ymyrraeth gynnar i faethu a datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion mwyaf bregus. Canolbwyntir ar gyflwyno cwricwlwm sy’n briodol i’w datblygiad unigol, meithrin profiadau cadarnhaol, cynyddu hunan-barch a llwyddiant academaidd.
- ‘Yr Enfys’ – ystafell i ddisgyblion sydd â phroblemau synhwyraidd. Gall unrhyw ddisgybl gael mynediad i’r ystafell hon yn ystod y dydd i hunan-reoleiddio.
2. Grwpiau ymyrraeth tymor byr - sesiynau cymdeithasol ac emosiynol a gynhelir ar sail 1:1 neu mewn grwpiau bach. Mae’n helpu gwella medrau canolbwyntio disgyblion, yn meithrin gwytnwch, ac yn eu hannog i ymgysylltu â’r dysgu. Mae’r staff yn annog disgyblion i ymarfer y medrau trosglwyddadwy hyn yn y dosbarth, yr ysgol ac adref.
3. Ardaloedd lles ym mhob dosbarth - ardaloedd tawel, lle gall disgyblion fynd yn annibynnol er mwyn rheoleiddio. Mae staff yn weithredol wrth gefnogi disgyblion i gydnabod ei hemosiynau, rhannu strategaethau rheoleiddio a myfyrio ar sut i ymateb i sefyllfaoedd mewn ffordd cadarnhaol.
Gosodwyd rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i’r staff, gan gynnwys trawma plentyndod, er mwyn eu cefnogi i ddelio ag ymddygiadau heriol trwy arfer adferol a chynnal perthnasoedd cadarnhaol. Treialwyd ymyraethau unigryw i ddiwallu lles y disgyblion, er enghraifft, defnyddiwyd diddordeb carfan o fechgyn hŷn mewn sesiynau ymarfer corff er mwyn mynd i’r afael â phroblemau ymddygiad heriol. Gwahoddwyd arbenigwr o’r gymuned i ddatblygu medrau gwytnwch a dyfalbarhad trwy waith tîm.
Mae arweinwyr wedi creu cysylltiadau cadarn a chefnogol gyda rhieni trwy rannu gwybodaeth ddefnyddiol, er enghraifft trwy gylchlythyr wythnosol a’u gwahodd i sesiynau bore coffi cyson er mwyn trafod unrhyw bryder. Cefnogwyd y prosiect hwn trwy gyllid penodedig gan y gymdeithas rieni.