Arfer Effeithiol |

Defnyddio gweithgareddau lles i feithrin disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
425
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymraeg Sant Curig yng nghanol tref y Barri ym Mro Morgannwg.  Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.  Mae 425 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 55 oed meithrin.  Mae 16 dosbarth un oed yn yr ysgol gan gynnwys dau ddosbarth ar gyfer plant meithrin.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae tua 11% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae tua chwarter y disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Ychydig iawn sydd o gefndir lleiafrifol ethnig. Mae’r ysgol wedi adnabod tua 14% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Sant Curig yn gymuned hynod ofalgar lle mae rhan fwyaf y disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn ac yn cyflawni’n dda.  Mae safonau lles, ymddygiad ac agweddau bron pob disgybl tuag at ddysgu yn ardderchog.  Maent yn dangos lefelau uchel o gymhelliant, diddordeb a balchder yn eu gwaith. 

Mae’r ysgol wedi creu perthynas weithio rhagorol rhwng disgyblion a staff sydd yn cyfrannu tuag at awyrgylch ddysgu effeithiol.  Mae’r ysgol wedi datblygu nifer o strategaethau sy’n cefnogi a datblygu hyder, annibyniaeth a gwydnwch disgyblion i oresgyn heriau yn eu dysgu a meithrin 

diwylliant gadarnhaol at ddysgu, er enghraifft wrth sefydlu Clwb Dechrau Da, Clwb Cwtsh, sesiynau ELSA ar gyfer datblygu lles emosiynol disgyblion a ‘Cwl wedi Cinio’.

Credai’r ysgol yn gryf bod angen i bob disgybl brofi lles meddwl, gwydnwch a hunan-hyder cadarn er mwyn cyrraedd eu llawn potensial a thyfu i fod yn ddinasyddion egwyddorol ac yn unigolion iach, hyderus.  Felly, caiff yr holl ystod o weithgareddau lles flaenoriaeth wrth gynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol a lle amlwg i lais y disgyblion yng ngwaith yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae staff yr ysgol yn amlygu unigolion a fydd yn elwa o gefnogaeth bwrpasol.  Mae clybiau ‘Dechrau Da’ a ‘Cwtsh’ yn cefnogi a maethu disgyblion ac yn cynnig dechrau cadarnhaol a sefydlog iddynt.  Mae’r staff yn sicrhau cyfleoedd iddynt drafod gofidion, a sicrhau eu bod wedi paratoi yn llawn ar gyfer y diwrnod sydd o’u blaenau.  Gweithredir hwn ar sail ‘drop in’ cyn dechrau’r dydd yn y dosbarth.  Mae’r ‘Clwb Cwtsh’ yn cynnig sesiynau maethu lle caiff y disgyblion gyfle i ddatblygu sgiliau bywyd fel coginio, gwnio a chydfwyta o amgylch bwrdd.   Yn ogystal, cynigir cyfleoedd i wella eu hunan-hyder, datblygu goddefgarwch a sgiliau cymdeithasu.  Gwahoddir rhieni i ambell sesiwn gyda’u plant. 

Mae’r cynllun ar gyfer datblygu lles emosiynol disgyblion (ELSA) yn cynnig cefnogaeth penodol sy’n cefnogi plentyn trwy gyfnodau anodd yn eu bywyd ac yn datblygu eu sgiliau llythrennedd emosiynol.  Cynigir sesiynau ‘Cwl wedi Cinio’ i hybu meddwlgarwch i bob disgybl o oed meithrin i Flwyddyn 3.  Bwriad yr ymyrraeth yw rhoi cyfnod tawel i ddisgyblion yn dilyn amser cinio prysur i baratoi ar gyfer sesiwn ddysgu y prynhawn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn ardderchog.  Mae’r disgyblion yn dangos lefelau uchel o gymhelliant, diddordeb a balchder yn eu gwaith.  Mae bron pob un yn gweithgareddau yn frwdfrydig, yn canolbwyntio’n dda.  O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn gwneud eu gorau ac yn cyflawni’n dda.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr arfer uchod ymysg ysgolion Cymraeg Consortiwm y De Ddwyrain (CSC) fel rhan o raglen hyfforddi Cadwyn Cynradd.

 

Tagiau adnoddau

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Crynodeb o alwadau ac ymweliadau ymgysylltu ag ysgolion ac UCDau – hydref 2021

Yn ystod y pandemig, cyflwyno ...Read more