Arfer Effeithiol |

Defnyddio gweithgareddau i hyrwyddo medrau annibyniaeth

Share this page

Nifer y disgyblion
142
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymraeg y Gwernant ym mhentref Llangollen yn awdurdod lleol Sir Ddinbych.  Mae 142 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 16 oed meithrin rhan-amser.

Tros dreigl tair blynedd, mae ychydig o dan 10% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Tua 4% o’r disgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref ac ychydig iawn sydd o gefndir lleiafrifol ethnig.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 21% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.  Cymraeg yw prif gyfrwng yr addysgu a’r dysgu ac anelir at sicrhau fod pob disgybl yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd cyfnod allweddol 2.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Dros dreigl amser, gwelwyd fod nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael trafferth gyda sgiliau annibyniaeth, eu gallu i gymryd cyfrifoldeb, yn ogystal â’r gallu i ddyfalbarhau.  Roedd yr ysgol yn cyrchu cefnogaeth gynyddol trwy gymorth gwasanaethau ymddygiad, seicoleg addysg ac mewn achosion dwys, y tîm iechyd meddwl.  Roedd nifer cynyddol o ddisgyblion a oedd angen cefnogaeth ar gyfer pryder, ymddygiad a datblygiad cyfathrebu yn peri pryder, roedd effaith ar eu gallu i ddatblygu’n academaidd yn sylweddol mewn rhai achosion.  Roedd yr ysgol hefyd wedi sylwi, gan fod bywyd teulu yn brysur iawn, fod rhieni’n gwneud mwy dros eu plant yn lle gadael iddynt gael yr amser i fod yn annibynnol.  Adlewyrchir hyn yn y disgwyliadau sylfaenol o ddydd i ddydd, er enghraifft, o ran cofio dillad ymarfer corff, darllen yn annibynnol gartref neu gwblhau a dychwelyd gwaith cartref.  Mae’n amlwg fod y disgyblion yn treulio mwy o amser ar dechnoleg ddigidol yn eu hamser hamdden, sy’n cael effaith sylweddol ar eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, ond yn bwysicach fyth, ar eu hiechyd a'u ffitrwydd.  Penderfynwyd fod angen strategaeth newydd i gefnogi’r disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ers tair blynedd mae’r ysgol yn gweithredu’r fenter o ‘Amser Antur’.   Cynhelir ‘Amser Antur’ bob prynhawn dydd Gwener i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2. 

Prif amcan y fenter yw:

  • Annog annibyniaeth a dyfalbarhad
  • Hyrwyddo cyfathrebu a gweithio mewn tîm
  • Cynyddu nifer o weithgareddau corfforol a heriol i'n disgyblion
  • Gwella eu ffitrwydd, eu lles a'u hymwybyddiaeth ofalgar.

Mae ffocws ar wobrwyo'r disgyblion am gwblhau tasgau annibynnol ac am weithio'n dda gydag eraill.  Mae gan bob disgybl ei ddyddiadur ei hun i gofnodi pwyntiau trwy gydol yr wythnos.  Unwaith y bydd disgybl yn cyrraedd y nifer disgwyliedig o bwyntiau ar gyfer cwblhau sgiliau annibynnol a gweithio'n dda gyda'i gilydd, gallant ymuno yn yr amser antur.  Yn ystod y tymor, roedd y gweithgareddau'n cynnwys, canŵio, ioga, rafftio dŵr gwyn, coginio, nofio, dringo, cyfeiriannu

gwyllt grefft, a gweithgareddau celf a chwaraeon.

Mae’r ysgol wedi gwneud ceisiadau am grantiau gwahanol i gefnogi cyllido rhai o’r gweithgareddau, yn ogystal â defnyddio rhan o’r grant amddifadedd.  Mae’r ysgol wedi datblygu perthynas dda iawn gyda chwmnïau awyr agored lleol sy’n cynnig pris gostyngol, yn ogystal â defnyddio sgiliau a chefnogaeth rhieni.  Yn dilyn gweld effaith y strategaeth, mae rhieni hefyd yn fodlon iawn i  gyfrannu tuag at y gweithgareddau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r strategaeth yn hynod lwyddiannus, gydag annibyniaeth disgyblion yn gwella’n sylweddol.  Yn ogystal, mae nifer o agweddau ymddygiad eraill wedi gwella nad oedd yr ysgol wedi rhagweld.  Mae athrawon a staff yn adrodd fod pob disgybl yn cymryd rhan yn frwd yn y gweithgareddau antur, mae llawer yn herio'u hunain, yn cydweithio'n dda ac yn gwella sgiliau ystwythder.  Gwelir eu bod yn gwthio a herio eu hunain drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd.  Mae’r disgyblion yn mwynhau'r gweithgareddau yn eithriadol.  Mae adborth rhieni wedi bod yn hynod gadarnhaol, ble maent yn adrodd fod disgyblion yn awyddus i gwblhau gwaith cartref a darllen gartref.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn cydweithio yn agos gydag ysgolion y clwstwr.   Mae athrawon yr ysgol yn gweithio yn agos oddi fewn triawdau yn y clwstwr hwn i rannu arfer dda.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol