Arfer Effeithiol |

Defnyddio barn disgyblion yn yr ystafell ddosbarth

Share this page

Nifer y disgyblion
274
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Bryn Tabor wedi ei leoli ym mhentref Coedpoeth, Sir Wrecsam.  Cymraeg yw prif gyfrwng yr ysgol, ac fe gyflwynir Saesneg yng nghyfnod allweddol 2.  Mae 274 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 36 disgybl oed meithrin rhan amser.  Fe’i rhennir yn 11 dosbarth.

Mae cyfran gyfartalog y disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd diwethaf oddeutu 12%.  Mae hyn yn is na’r ganran genedlaethol o 18%.  Mae tua 5% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 21% o’i ddisgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sy’n debyg i’r ganran genedlaethol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Bryn Tabor wedi annog disgyblion i fynegi barn am fywyd yr ysgol ers amser maith.  Mae cynghorau amrywiol y disgyblion, gan gynnwys y cyngor ysgol, eco gyngor, dreigiau doeth (sef cyngor y siarter iaith) a dewiniaid digidol yn weithgar ac yn cael dylanwad cadarnhaol ar fywyd a gwaith yr ysgol.  Maent yn cwrdd yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i ddisgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr am eu gweithgareddau a chanfyddiadau.  Enghraifft dda o waith y dewiniaid digidol yw’r gwaith a wnant i drefnu hyfforddiant i ddisgyblion, rhieni ac athrawon am sut i ddefnyddio robotiaid.  Yn ychwanegol, mae disgyblion wedi cael mewnbwn i’r hyn sydd am gael ei ddysgu ar gychwyn thema neu uned o waith ers peth amser.  Fodd bynnag, daeth yr ysgol i’r casgliad, er mwyn datblygu dysgwyr mentrus, creadigol ac uchelgeisiol, sydd yn ganolog i’r cwricwlwm newydd, mae angen datblygu ‘llais y disgybl’ fel rhan ganolog o weledigaeth yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gweithdrefnau cynhwysfawr ar gyfer datblygu ‘llais y disgybl’ o fewn yr ysgol.  Mae hyn yn treiddio i bob rhan o waith yr ysgol.  Gyda dyfodiad y cwricwlwm newydd ar y gorwel, gwelwyd fod cyfle euraidd i arbrofi mwy a chymryd risg, i fod yn greadigol ac i arloesi. 

Mae egwyddorion cynllunio’r ysgol yn effeithiol.  Mae’r athrawon o fewn gwahanol unedau’r ysgol yn cydweithio ac yn cyd-gynllunio’n llwyddiannus iawn.  Mae’r cynlluniau yn seiliedig ar syniadau’r disgyblion ac yn cynnwys cyfeiriad manwl at y fframwaith llythrennedd a rhifedd, y medrau i’w datblygu a thasgau cyfoethog.  Ar ddechrau pob uned o waith, mae disgyblion yn cael cyfle i ddewis thema’r dosbarth.  Yn y cyfnod sylfaen mae disgyblion yn dod a tri gwrthrych i mewn i gynrychioli'r hyn maent eisiau darganfod mwy amdano.  Erbyn cyfnod allweddol 2, mae tasgau gwaith cartref yn cael eu defnyddio i godi eu diddordeb.  Mae’r disgyblion yn pleidleisio i weld pa thema yw’r mwyaf poblogaidd, gyda’r athrawon yn cynllunio yn ofalus gan nodi beth mae’r disgyblion eisiau ei ddysgu yn ystod y thema. 

Syniadau’r disgyblion sydd yn llywio’r cynllunio.  Mae’r athrawon yn cynorthwyo’r disgyblion i ddewis, dyfeisio a datblygu heriau ar gyfer ardaloedd y dosbarthiadau.  Wrth i’r broses ddatblygu, mae syniadau’r disgyblion wedi esblygu’n fwy amrywiol a chreadigol.  Mae’r disgyblion hefyd yn dewis lefel yr her yn eu tasgau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r athrawon yn mynd ati’n frwd wrth fynd i’r afael â datblygiadau diweddar ym maes addysg ac yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol.  Maent yn cydweithio’n effeithiol gydag athrawon o ysgolion eraill a mynychu hyfforddiant perthnasol.  Mae hyn yn arwain at ddatblygiad weithgareddau newydd i dreialu a datblygu o fewn y dosbarth.  Mae ymroddiad y staff i wrando ar lais y disgybl a chyflwyno strategaethau sy’n hyrwyddo dysgu annibynnol yn cyfrannu’n eithriadol at  lefelau uchel o gymhelliant a diddordeb yn eu gwaith.

Mae datblygiad y dulliau yma o weithio wedi cael effaith buddiol ar ddatblygiad proffesiynol y staff.  Maent yn dangos ymrwymiad cryf i welliannau parhaus a chynaliadwy trwy gydweithio a chynllunio ar y cyd.  Mae hyn wedi bod yn gymorth i leihau baich gwaith.

Mae effaith y ddarpariaeth ar fedrau’r dysgwyr yn gadarnhaol iawn. Mae’r effaith ar les ac agweddau at ddysgu yn rhagorol:

  • Mae’r disgyblion yn ymfalchïo bod ganddynt lais cryf yn yr hyn maent yn ei ddysgu.
  • Mae brwdfrydedd ac ymroddiad y disgyblion gyda’u gwaith wedi gwella.
  • Mae gan ran fwyaf o’r disgyblion agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu.
  • Mae bron pob un o’r disgyblion yn gweithio’n hynod gydwybodol ar dasgau, yn canolbwyntio am gyfnodau estynedig ac yn dyfalbarhau yn ardderchog i gwblhau eu tasgau.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae staff yr ysgol yn parhau i gydweithio, i gyd-gynllunio ac i rannu arfer dda o fewn yr ysgol.  Mae’r ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol-i-ysgol ac mae staff yn rhannu arfer dda ar lefel consortiwm.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol