Yn Ysgol Cae’r Gwenyn, mae ymgysylltu a rhyngweithio cadarnhaol â disgyblion iau yn allweddol i gefnogi eu datblygiad iaith. Mae staff yn chwarae â’r disgyblion, ac ochr yn ochr â nhw, gan gynnig sylwebaeth ar eu chwarae, ailadrodd seiniau a geiriau, a modelu iaith. Maent yn dilyn arweiniad y disgybl, gan sicrhau bod y rhyngweithio’n llawn hwyl. Mae ymarferwyr yn adnabod y disgyblion yn dda ac yn fedrus wrth eu hannog a’u herio. Mae pob un o’r ymarferwyr yn sensitif i anghenion y disgyblion ac yn addasu eu rhyngweithio, yn dibynnu ar yr anghenion unigol.
Yn dilyn arsylwadau ac asesiadau agos, mae ymarferwyr yn nodi disgyblion a fyddai, yn eu barn nhw, yn elwa ar ymyrraeth a chymorth dwys ac wedi’u cynllunio’n ofalus. Rhoddir cyfleoedd i’r disgyblion hyn ymgysylltu â sesiynau un i un gydag ymarferwr hyfforddedig mewn man tawel lle nad oes llawer o bethau yn tynnu eu sylw.
Mae defnyddio adnoddau wedi’u dewis yn ofalus, a gweithgareddau hwyliog a heriol, yn helpu cefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar.
Yn dilyn arsylwadau ac asesiadau agos, mae ymarferwyr yn nodi disgyblion a fyddai, yn eu barn nhw, yn elwa ar ymyrraeth a chymorth dwys ac wedi’u cynllunio’n ofalus. Rhoddir cyfleoedd i’r disgyblion hyn ymgysylltu â sesiynau un i un gydag ymarferwr hyfforddedig mewn man tawel lle nad oes llawer o bethau yn tynnu eu sylw. Mae defnyddio adnoddau wedi’u dewis yn ofalus, a gweithgareddau hwyliog a heriol, yn helpu cefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar.
Mae staff yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth Lleferydd ac Iaith i gefnogi medrau iaith disgyblion. Mae Therapyddion Lleferydd yn sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi mewn amrywiaeth o ymyriadau sy’n gweithio ar hanfodion cynnar iaith. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni i fodelu iaith.
Trwy gydol y sesiwn, mae ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gweledol i gynorthwyo cyfathrebu a chefnogi dealltwriaeth. Mae adnoddau’n cynnwys Byrddau Nawr a Nesaf, ffotograffau o ardaloedd ystafell ddosbarth ar ffobiau allwedd ac amserlenni gweledol. Mae pob un o’r staff yn defnyddio arwyddion Makaton fel ffordd weledol o gynorthwyo cyfathrebu.
Mae amser byrbryd yn rhan bwysig iawn o bob sesiwn. Mae bwyd yn gymhelliant gwych wrth annog defnydd o fyrddau dewis, defnyddio arwyddion Makaton, ac ati. Defnyddir caneuon a rhigymau trwy gydol y sesiwn. Cânt effaith gadarnhaol iawn ar iaith disgyblion yn ogystal â darparu ymdeimlad o hwyl a chyffro. Mae gan yr ysgol amrywiaeth o adnoddau sy’n lliwgar, yn ysgogol ac yn apelgar i blant, ac sy’n cefnogi medrau gwrando a datblygiad iaith. Mae’r rhain yn cynnwys pypedau, dyfeisiau recordio lliwgar, llyfrau naid, goleuadau tylwyth teg ac offerynnau cerddorol anarferol.
Mae ymarferwyr yn cadw eu hiaith yn fyr a syml ac yn defnyddio lleisiau diddorol a mynegiannau wyneb priodol i gefnogi cyfathrebu. Mae ailadrodd yn helpu datblygiad iaith ac yn cynyddu hyder. Mae staff yn dilyn yr un fformat dyddiol, yn canu’r un caneuon, yn ailadrodd yr un cyfarwyddiadau, cyfeiriadau, ac ati, ar adegau allweddol o’r dydd. Ar lawer o adegau, mae’n ymddangos nad yw disgyblion yn gwrando nac yn talu unrhyw sylw i’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, ond mae’n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau ynglŷn â ph’un a yw plentyn yn gwrando ac yn ymddiddori yn yr iaith. Pan fydd yr amser yn iawn, mae llawer o ddisgyblion yn dangos eu bod yn talu sylw ond wedi dewis rhannu eu lleisiau pan fyddant yn barod.