Yn dilyn cwblhau arolwg, nodwyd mai ‘cydweithio fel tîm’ oedd un o’r meysydd oedd angen datblygu. Er mwyn gwella hyn defnyddiwyd 4 strategaeth i hwyluso’r cydweithio:
-
Amser: sicrhau amser pwrpasol i staff fod gyda’i gilydd, cyfle i graffu ar waith a chynnal sgyrsiau proffesiynol.
-
Technoleg: defnyddio’r dechnoleg sydd ar Hwb i rannu ffolderi a thempledi craffu i sicrhau mynediad i bawb a thryloywder yn y broses.
-
Ymddiriedaeth: sefydlu ethos di-fygythiol heb ragfarn a chanolbwyntio ar agweddau cadarnhaol.
-
Meddwl gyda’n gilydd: sicrhau cyfleoedd yn ystod cyfarfodydd i’r holl staff gyfarfod gyda’i gilydd, rhannu syniadau a chydweithio ar welliannau.
Trwy hyn, tynnwyd yr elfen atebolrwydd lefel uchel oddi ar y staff gan roi perchnogaeth iddynt dros y safonau a’r ddarpariaeth.
Yr ail gam oedd paru athrawon gyda’i gilydd i graffu ar lyfrau a chynlluniau yn fisol mewn awyrgylch gadarnhaol a diogel. Roedd hyn wedi gweithio’n well na’r disgwyl wrth i staff sylweddoli fod angen cysoni rhai agweddau a thynnu allan rhai eraill er mwyn gweithio’n fwy effeithiol. Roedd hyn yn lleihau baich staff. Wrth i hyn ddatblygu, rhannodd y pennaeth hyfforddiant ar sut i ysgrifennu’n werthusol. Roedd hyn yn ddatblygiad proffesiynol i bob aelod o staff ac yn sicrhau fod y gwerthusiadau yn fwy miniog a phwrpasol.
Aethom ymlaen i ehangu'r bartneriaeth yma i adrannau er mwyn canolbwyntio ar safonau yn y llyfrau, yn ein cynlluniau a’r ddarpariaeth. Roedd staff yn gallu defnyddio technoleg syml i rannu arsylwadau gwersi gyda’i gilydd a derbyn adborth positif gydag ambell sylw ar le i ‘ystyried i’r dyfodol’ er mwyn gwella – eto’n atgyfnerthu’r ethos di-fygythiad. Roedd yr uwch dîm rheoli yn dilysu’r darganfyddiadau hyn i sicrhau cywirdeb a’r safon ddisgwyliedig. Roedd hefyd yn gyfle i gwestiynu ymhellach rhai agweddau o addysgu, er enghraifft y defnydd o ddulliau asesu ar gyfer dysgu.
Ymhen ychydig iawn o amser, daeth staff yn fwy hyderus i herio a chwestiynu ei gilydd yn bwrpasol ar effaith yr hyn rydym yn eu gwneud ar safonau disgyblion. Arweiniodd hyn at sawl gwelliant, er enghraifft, cyflwyno gweithgareddau yn fyrrach a chwestiynu mwy pwrpasol.
Y cam olaf yn y broses oedd hyfforddi llywodraethwyr i fod yn fwy gwerthusol yn eu prosesau hunan wella. Cwblhaodd aelodau’r corff llywodraethol holiadur ar eu heffeithiolrwydd fel ‘ffrind beirniadol’, er enghraifft, wrth herio’r pennaeth ar strategaeth bwyta ac yfed yn iach. Bellach mae’r llywodraethwyr yn defnyddio technoleg yn syml i recordio cyfarfodydd ac yna hunan fyfyrio os ydynt yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ yn y modd mwyaf effeithiol.
Canlyniad hyn oll yw bod bob rhan o’r ysgol yn gwella’n barhaus, heb fewnbwn cyson gan yr uwch dîm rheoli neu asiantaethau allanol. Mae’r prosesau hyn yn galluogi staff i wneud newidiadau bach ac ymateb i bryderon yn gyflym, er enghraifft, yr angen am fwy o dystiolaeth o ysgrifennu estynedig neu wella llawysgrifen disgyblion. Mae’r meddylfryd a’r ethos wedi newid ble bellach mae pawb yn gweld methiant fel cyfle i wella. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn safonau disgyblion, yn enwedig medrau llythrennedd, rhifedd a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.