Rhoddwyd nifer o strategaethau a gweithgareddau ar waith gan ddefnyddio grantiau’r blynyddoedd cynnar a oedd ar gael ar y pryd. Adolygwyd y polisi cyn-ysgol iach i ddechrau gan fod y lleoliad o’r farn bod rhaid iddo gyfleu neges am fwyta’n iach i rieni ynghylch bocsys bwyd. Roedd y strategaethau a roddwyd ar waith yn cynnwys sticeri ‘bwytäwr iach’, syniadau am focsys bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig ciniawau poeth i’r rhai sydd eu hangen, ymweliadau â’r man rhannu bwyd lleol, a gweithgareddau coginio syml gyda’r plant. Defnyddiwyd grantiau i ddarparu aelod ychwanegol o staff i alluogi llawer o blant i aros am ddwy awr yn ychwanegol a chael cinio yn y lleoliad.
Roedd y lleoliad yn rhoi pecyn amser gartref i bob plentyn ei gadw, a oedd yn cynnwys syniadau am weithgareddau, ryseitiau, arwyddion Makaton, cynghorion darllen a gweithgareddau ioga, yn ogystal â set o Numicon a llyfr heb eiriau. Cynhaliodd y lleoliad ddiwrnodau agored ar gyfer rhieni a neiniau a theidiau, a threfnwyd tripiau gyda phlant a theuluoedd.
Cafodd pob plentyn adroddiad personoledig ar ddiwedd ei chwe wythnos gychwynnol yn y lleoliad, i roi gwybod i rieni am yr hyn yr oedd eu plentyn wedi’i gyflawni a sut gallai rhieni helpu ymhellach ar yr aelwyd. Defnyddir ap defnyddiol hefyd, a rhennir ffotograffau pob plentyn gyda’r cartref bob wythnos, yn cynnwys syniadau am sut gall rhieni gefnogi dysgu eu plentyn.
Mae iechyd meddwl gwael hefyd yn cynyddu yn yr ardal, ac mae niferoedd cynyddol o deuluoedd yn cael trafferthion ag arferion o ddydd i ddydd ac yn darparu’r sefydlogrwydd a’r drefn sydd eu hangen ar eu plentyn. Mae Derw Bach yn cydnabod y trafferthion a wynebir ac yn darparu ar gyfer pob angen unigol, p’un a yw hyn yn syml trwy ddarparu lle am sgwrs neu gynnig ymgysylltiad a chymorth i ddod â’u plant i mewn yn rheolaidd. Mae Derw Bach yn aml yn anfon negeseuon at rieni nad ydynt yn dod i’r lleoliad ac yn cynnig amseroedd hyblyg i gyrraedd a gadael. Mae croeso bob amser i rieni “aros a chwarae” os oes angen iddynt setlo plant. Mae Derw Bach yn cynnig oriau ychwanegol i blant er mwyn galluogi rhieni i fynychu apwyntiadau ysbyty neu yn ystod cyfnodau heriol. Mae hefyd yn cynnig llyfrau, llaeth a chinio am ddim.
Yn ystod diwrnodau pontio i’r ysgol, mae’r lleoliad yn cynorthwyo rhieni i anfon plant. Bydd staff yn mynd â rhai plant i’r ysgol pan mae rhieni’n gweithio, a bydd staff yn cyfarfod â phlant eraill wrth ddrws yr ysgol er mwyn cynorthwyo rhieni trwy’r cyfnod anodd ac emosiynol hwn.