Mae gweithredu proses glir a strwythuredig ar gyfer disgyblion SIY pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol wedi bod yn werthfawr i godi safonau llafaredd ysgol gyfan. Mae hyn, ynghyd â rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff, sy’n canolbwyntio ar gaffael a datblygu iaith, wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r holl ddisgyblion ar draws yr ysgol.
Mae cyfarfod â rhieni cyn dyddiad dechrau eu plentyn wedi sicrhau bod yr ysgol a’r cartref yn gweithio gyda’i gilydd i nodi anghenion iaith, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol disgyblion, er enghraifft nodi plant sydd wedi cyrraedd y wlad gyda pherthynas, nid eu rhiant; deall anghenion disgyblion sy’n ffoaduriaid; a nodi disgyblion nad oes ganddynt iaith gyntaf gadarn.
Mae disgyblion sy’n cymryd rhan yn y cynllun ‘Cyfieithwyr Ifanc’ wedi datblygu dealltwriaeth well o gynhwysiant ac wedi gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o anghenion disgyblion SIY ymhlith eu cyfoedion. Wrth gyflwyno’r cynllun trwy weithgareddau chwarae, yn amgylchedd y Cyfnod Sylfaen a thrwy sesiynau Mentoriaid Cyfoedion yng nghyfnod allweddol 2, llwyddwyd i feithrin perthnasoedd a chyfeillgarwch newydd a dealltwriaeth ddiwylliannol. Mae arolwg lles disgyblion yr ysgol wedi dangos cynnydd yn hunan-barch yr holl ddisgyblion â SIY. Mae hyn wedi esblygu i ddechrau o chwarae dieiriau i ddisgyblion yn magu hyder i dreialu a defnyddio iaith achlysurol mewn cyd-chwarae. Mae gweithredu’r Rhaglen SIY fel ymyrraeth wedi darparu fframwaith ar gyfer cynorthwyo staff i alluogi cynnydd effeithiol.
Mae prosesau ar gyfer deall anghenion dysgwyr SIY o’r dechrau wedi bod yn werthfawr wrth helpu plant i ymgynefino’n gyflym yn yr amgylchedd dysgu newydd. O ganlyniad i ddiwylliant lles ac ethos teuluol cryf yr ysgol, mae pob un o’r staff wedi cymryd perchnogaeth o’u rolau mewn datblygu hyder disgyblion i greu amgylchedd sy’n annog iaith newydd i lifo.