Mae arweinwyr yn cynllunio’n ofalus i ddefnyddio’u cyllid GDD mewn ffordd fanwl gywir a thargedig. Maent yn alinio’r cynllunio hwn yn agos â’u blaenoriaethau ar gyfer gwella ac yn sicrhau bod y dulliau hyn yn cael eu llywio gan ymchwil ac arfer orau, gan gynnwys o fewn systemau addysg eraill.
Mae’r ysgol yn cyflogi pump o Gynorthwywyr Cymorth i Ddisgyblion a Theuluoedd, y mae pob un ohonynt ynghlwm â grŵp blwyddyn ac yn gweithio’n agos gyda disgyblion bregus a’u teuluoedd. Eu prif ffocws yw nodi a helpu dileu rhwystrau rhag lles a dysgu disgyblion. Mae’r Cynorthwywyr Cymorth i Ddisgyblion a Theuluoedd yn datblygu perthnasoedd cryf â disgyblion targedig. Mae ganddynt ddealltwriaeth gynhwysfawr o bwysigrwydd ymagwedd aml-haenog at gymorth i ddisgyblion, ac yn gweithio’n dda yn unol â gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol, gan feithrin cysylltiadau cryf ag ystod eang o bartneriaid allanol a rhieni a gofalwyr. Yn ogystal â chyfarfodydd rheolaidd yn yr ysgol a ffonio bob dydd i rannu gwybodaeth bwysig a diweddariadau am gynnydd, mae Cynorthwywyr Cymorth i Ddisgyblion a Theuluoedd yn ymweld â’r cartref a chynhelir cyfarfodydd dros Teams, gan fod y dull hwn yn diwallu anghenion rhai teuluoedd yn well. Pan fo’n briodol, ac yn enwedig lle mae presenoldeb yn yr ysgol yn peri pryder, bydd y Cynorthwyydd Cymorth i Ddisgyblion a Theuluoedd yn cyfarfod â disgyblion a’u rhieni mewn lleoliadau mwy ‘niwtral’, fel parc neu siop goffi leol, er mwyn meithrin ymddiriedaeth ac ennyn ymgysylltiad.
Mae’r Cynorthwyydd Cymorth i Ddisgyblion a Theuluoedd yn gweithio’n agos â disgyblion a rhieni i nodi rhwystrau rhag dysgu, ac yn datblygu cynllun gweithredu clir a ffocysedig i ddisgyblion unigol gyda’r uwch dîm arweinyddiaeth. Caiff y cynllun ei adolygu’n rheolaidd, ochr yn ochr â’r disgybl a’i riant neu’i ofalwr. Mae strategaethau cymorth sy’n cael eu gweithredu yn amrywiol, ac wedi’u teilwra i’r disgybl unigol, ac yn gallu cynnwys darparu cymorth hanfodol, a ariennir gan y GDD, i alluogi’r disgybl i ymgysylltu’n effeithiol â bywyd ysgol. Er enghraifft, mae’r ysgol yn prynu eitemau gwisg ysgol yn rheolaidd, yn cynnwys cit addysg gorfforol, i gynorthwyo disgyblion ar adeg benodol pan fyddant yn tyfu’n sydyn a phan fydd y grant Mynediad GDD eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan rieni ar ddechrau’r flwyddyn ysgol. Yn ychwanegol, gallai’r disgybl gael ei gynorthwyo gan y Gweithiwr Ieuenctid yn yr Ysgol, naill ai trwy fentora un i un neu drwy raglenni ymgysylltu grwpiau. Mae’r Swyddog Ymddygiad a Lles hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn gweithio gyda disgyblion bregus i chwalu rhwystrau rhag cymryd rhan a gwneud cynnydd yn yr ysgol, gan gyflwyno rhaglenni hunanfyfyrio a rheoli dicter.
Mae’r ysgol yn defnyddio cyllid y GDD i gyflogi Swyddog Ymyrraeth Llythrennedd a Swyddog Ymyrraeth Rhifedd. Mae’r unigolion hynod fedrus hyn yn darparu ystod o ymyriadau academaidd ar gyfer disgyblion bregus, gan weithio gyda nhw i wella’u medrau sylfaenol a mireinio’u techneg arholiadau. Mae’r cymorth hwn yn digwydd mewn nifer o ffurfiau, gan gynnwys grŵp bach a gwersi un i un. Rhoddir blaenoriaeth uchel i ymyrraeth gynnar, gyda’r mwyafrif o’r gwaith yn canolbwyntio ar ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 3. O ystyried y diffygion mewn darllen sy’n wynebu lleiafrif sylweddol o ddisgyblion, mae’r ysgol hefyd wedi cyflogi dau gynorthwyydd addysgu ychwanegol i weithio ochr yn ochr â’r Swyddog Ymyrraeth Llythrennedd i gyflwyno rhaglen ymyrraeth darllen.
I wella cymorth â lles yn y cyfnod pontio i Flwyddyn 7, mae’r ysgol wedi sefydlu canolfan anogaeth yn ddiweddar, sef Cyfle. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynorthwyo disgyblion y nodwyd trwy brosesau pontio cryf eu bod yn debygol o gael trafferth ag addysg brif ffrwd amser llawn ar ddechrau Blwyddyn 7. Trwy ddefnyddio cyllid GDD, mae’r ysgol wedi cyflogi athro i arwain y ddarpariaeth hon, gyda chymorth gan ddau gynorthwyydd addysgu arbenigol. Mae disgyblion yn derbyn darpariaeth gyfun, sydd wedi’i theilwra i angen unigol, sy’n ymgorffori cyfran o wersi prif ffrwd gydag ymyriadau arbenigol yn Cyfle, fel rhaglen i wella medrau cymdeithasol ac emosiynol. Nod y strategaeth hon yw sicrhau bod disgyblion wedi’u hymarfogi’n well i ymgysylltu ag addysg brif ffrwd amser llawn cyn gynted ag y bo modd.
Ar ôl nodi nad oes gan ychydig o ddisgyblion y medrau hunanreoli i ymgysylltu’n gadarnhaol ag amseroedd anstrwythuredig yn ystod y diwrnod ysgol, yn enwedig amser cinio, mae’r ysgol wedi cyflogi goruchwyliwr amser cinio ychwanegol. O ganlyniad, darperir gweithgareddau â ffocws ar gyfer disgyblion, fel clwb gemau a phosau a sesiynau ymarfer corff, i ymgysylltu â nhw yn bwrpasol, i’w cynorthwyo i ddatblygu cyfeillgarwch cadarnhaol a’u paratoi’n well ar gyfer y sesiwn ddysgu yn y prynhawn.