Mae’r ysgol yn mabwysiadu ymagwedd systematig a dilys at hunanwerthuso. Mae’r holl weithgarwch hunanwerthuso yn bwrpasol, wedi’i gynllunio’n ymwybodol, ac wedi’i gysylltu’n annatod â chynllunio gwelliant yn effeithiol. Mae awydd clir a diffuant gan bob un o’r staff i ddarparu’r profiadau dysgu a’r deilliannau gorau posibl ar gyfer disgyblion yn ganolog iddo. Ni wneir unrhyw waith hunanwerthuso i fodloni cynulleidfaoedd allanol, ond ei unig ddiben yw darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar yr ysgol i roi gwelliant parhaus ar waith, tra’n cynnal cydbwysedd ystyriol â buddiannau baich gwaith a lles staff.
Mae gan yr ysgol ‘gylch ansawdd’ blynyddol clir, sy’n amlinellu sut a phryd y bydd arweinwyr yn gwerthuso’u gwaith trwy gydol y flwyddyn. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae rolau a disgwyliadau arweinwyr yn glir ac mae arweinwyr yn gosod meini prawf llwyddiant buddiol o gychwyn y gwaith hwn. Mae calendr yr ysgol, sy’n cael ei lunio trwy ymgynghori â grŵp ffocws staff, yn cynnwys dyddiadau ar gyfer gweithgarwch sicrhau ansawdd, fel bod staff wedi’u harfogi i gyfrannu’n gynhyrchiol. Er enghraifft, ceir ymagwedd systematig at deithiau dysgu a chraffu ar waith disgyblion, sy’n cael eu cofnodi ar y calendr flwyddyn ymlaen llaw, ac yn cael eu cynnal ar lefel adrannol yn ystod hanner cyntaf y tymor, wedi’i ddilyn gan ffocws ysgol gyfan yn yr hanner tymor dilynol. Mae arweinwyr yn llunio adroddiadau gwerthuso clir a chryno, sy’n canolbwyntio’n fanwl ar gynnydd a dysgu disgyblion ac effaith addysgu a’r cwricwlwm ar ddysgu’r disgyblion. Caiff y canfyddiadau hyn eu hadolygu a’u rhannu gyda phob un o’r staff i nodi agweddau clir a manwl gywir ar gyfer gwella. Mae rhan hanfodol o’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am gynnydd disgyblion mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Yn ychwanegol, mae’r adroddiad yn dangos yn glir y cynnydd a wnaed o ran meysydd i’w datblygu a nodwyd yn ystod y cylch gwerthuso blaenorol. Mae hyn yn helpu’r ysgol i gynllunio’n fanwl gywir ac yn effeithiol ar gyfer gwella. Trafodir yr adroddiadau hyn i ddechrau yn ystod cyfarfodydd yr uwch dîm arweinyddiaeth, ac wedyn mae uwch arweinwyr yn adolygu canfyddiadau mewn cyfarfodydd cyswllt gyda’u harweinwyr canol dynodedig. Caiff calendr yr ysgol ei gynllunio fel bod cyfarfodydd adrannol yn cael eu trefnu cyn gynted ag y bo modd ar ôl wythnosau craffu ar waith disgyblion, fel y gellir ystyried dadansoddi canfyddiadau sicrhau ansawdd a chynllunio camau ymatebol.
Ceir ymagwedd gydlynus at ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn ystod hunanwerthuso. Mae pob aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi’i gysylltu ag aelod o’r tîm arweinyddiaeth ganol. Mae arweinwyr yn cyfarfod yn rheolaidd (tuag unwaith bob pythefnos) yn y parau dynodedig hyn i gefnogi a gwerthuso gwaith y tîm perthnasol. Caiff yr holl adroddiadau gwerthuso sy’n deillio oweithgarwch fel teithiau dysgu a chraffu ar waith disgyblion eu trafod yn y cyfarfodydd hyn â rheolwyr llinell, ac wedyn mewn cyfarfodydd adrannol lle rhennir y canlyniadau gyda’r staff perthnasol. Mae hyn yn helpu sicrhau parhad negeseuon a disgwyliad ar draws yr ysgol. Hefyd, caiff yr adroddiadau eu cyflwyno a’u trafod yng nghyfarfodydd is-bwyllgor perthnasol y corff llywodraethol, ac mae’r uwch arweinydd a/neu’r arweinydd canol perthnasol yn mynychu’r cyfarfod i gyflwyno’u gwerthusiadau i lywodraethwyr, ac ymateb i gwestiynau dilynol ganddynt.
Mae’r ysgol wedi datblygu ymagwedd gref at sicrhau bod llais y disgybl yn llywio prosesau gwerthuso a gwella yn dda. Mae ei strwythur Senedd ar gyfer grwpiau arweinyddiaeth disgyblion yn sicrhau bod disgyblion yn gallu darparu adborth sicrhau ansawdd yn ffurfiol o amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys y Cyngor Ysgol, y clwb Eco a’r grŵp LHDTC+, a thrafodir yr adborth hwn yng nghyfarfodydd yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r corff llywodraethol. Caiff yr adborth hwn ei ddadansoddi a’i rannu â staff yn ystod sesiynau briffio’r bore; mae arweinwyr canol yn trafod camau ymatebol gyda’u timau cymorth i ddisgyblion mewn sesiynau briffio ar fore dydd Gwener. Er enghraifft, wrth ymateb i adborth disgyblion yn ystod cyfnod sicrhau ansawdd darpariaeth ABCh yr ysgol, cyflwynodd yr ysgol Wythnosau Lles unwaith bob hanner tymor. Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn adolygu’r canfyddiadau a’r cynlluniau ac yn rhoi camau ymatebol ar waith, gan goladu adroddiad deilliannau Dywedoch chi, gwnaethom ni yn ddiweddarach ar gyfer disgyblion. Caiff yr adroddiad Dywedoch chi, gwnaethom ni hwn ei rannu a’i drafod â disgyblion yn y gwasanaeth ac yn ystod amser cofrestru, ac fe’i rhennir gyda rhieni a gofalwyr hefyd trwy Fforwm Rhieni / Gofalwyr yr ysgol.