Arfer Effeithiol |

Cryfhau llais y disgybl

Share this page

Nifer y disgyblion
78
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Pant Pastynog yn gwasanaethu pentrefi Prion, Peniel, Saron, Nantglyn a’r ardal wledig gyfagos yn awdurdod lleol Sir Ddinbych.  Mae’r ysgol o dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru.

Cymraeg yw prif gyfrwng iaith a bywyd yr ysgol, ac fe gyflwynir Saesneg yng nghyfnod allweddol 2.  Mae 78 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 8 oed meithrin, rhan-amser.

Mae cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf tua 4%.  Mae hyn yn sylweddol is na’r gyfartaledd cenedlaethol o 18%.  Mae tua 80% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 13% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 21%.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae ‘Parchu Pawb a Phopeth’ yn ymgorffori meddylfryd Ysgol Pant Pastynog.  Mae’r ethos cryf a chynaledig yma yn greiddiol i holl waith yr ysgol ac yn sicrhau fod pob disgybl yn cael lleisio barn a chwarae rhan flaenllaw yng nghyfeiriad a dyfodol yr ysgol.

Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion hŷn dderbyn cyfrifoldebau amrywiol er enghraifft wrth fod yn aelodau o’r cyngor ysgol, cyngor eco ac fel arweinwyr digidol.  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, datblygwyd y cyfrifoldebau yma i gynnwys llawer mwy o ddysgwyr yn ogystal â chryfhau ‘llais y plentyn’.  Erbyn hyn, mae’r ysgol wedi datblygu nifer o gyfleoedd eraill er mwyn i ddisgyblion ysgwyddo cyfrifoldebau yn cynnwys aelodaeth mewn pwyllgor Eglwys, fel llysgenhadon chwaraeon a llysgenhadon gwych, llysgenhadon y siarter iaith ac fel swyddogion diogelwch y ffordd.  Mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwych i lywio cyfeiriad yr ysgol gan osod gweledigaeth a strategaeth glir i’r dyfodol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Bu i’r staff gynorthwyo’r disgyblion er mwyn iddynt allu cynnal cyfarfodydd yn annibynnol a cyd-drafod o fewn cyfarfodydd aml-bwyllgor er mwyn hwyluso prosiectau a chael gwell parhad a chysondeb yng ngwaith yr ysgol.

Penderfynwyd fod angen i ddisgyblion hynaf yr ysgol ddal ati yn ei ‘swydd’ am ddwy flynedd gan barhau mewn rôl ‘mentor’ o’i swydd flaenorol.  Mae’r ffaith fod disgyblion yn gallu aros yn eu ‘swyddi’ am ddwy flynedd gan fentora'r aelodau newydd, yn golygu fod cysondeb, dilyniant a datblygiad yn cael effaith hynod o gadarnhaol.  Drwy waith yr amryw bwyllgorau, mae llais disgyblion Ysgol Pant Pastynog yn graidd i benderfyniadau yn yr ysgol ac yn ganolog i brofiadau ac addysg pob disgybl.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae effaith amlwg ar fedrau gweithio a meddwl yn annibynnol disgyblion.  Wrth baratoi at y cwricwlwm newydd, mae disgyblion Ysgol Pant Pastynog yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol gan wneud penderfyniadau ei hunain am drywydd y gwersi, y profiadau yr hoffent gael, a sut i fynd ati i ddysgu.  Mae llawer mwy o berchnogaeth gan y disgyblion ar ein cynlluniau gwaith, ac o ganlyniad, mae’r brwdfrydedd a’r awydd i ddysgu yn arwyddocaol.  Amlygir hyn wrth i asiantaethau allanol gynnal gweithdai yn yr ysgol a sylwi pa mor fedrus a hyderus mae’r disgyblion wrth ddatrys problemau yn annibynnol.  Gwelwyd hefyd fod hunanhyder y disgyblion wedi datblygu ac mae disgyblion o bob gallu yn fwy parod i fentro a rhoi cynnig ar dasgau mwy heriol.

Wrth fod ar ‘bwyllgor’, mae disgyblion yn cael ystod eang o brofiadau gan gynnwys cwrdd a’r lywodraethwyr, rhieni, cynghorwyr, swyddogion ac aelodau eraill o’r gymuned.  Golyga hyn fod sgiliau cyfathrebu’r disgyblion wedi gwella yn effeithiol ac maent yn llawer mwy hyderus i drafod, gwrando a datblygu syniadau newydd.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Bob tro mae ymwelwyr newydd yn dod i’r ysgol, mae pwyllgor penodol o ddisgyblion yn eu tywys o amgylch yr adeilad.  Mae’r dewis o ‘bwyllgor’ yn ddibynnol ar bwrpas yr ymwelydd, gan fod arbenigedd y disgyblion yn bwysig i’r hyn sydd yn cael ei drafod.  Mae’r arfer yma hefyd yn cael ei rhannu gyda’r llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned ehangach drwy sesiynau gwybodaeth a chyfarfodydd penodol.  Mae’r ysgol hefyd yn cyd-weithio gyda phwyllgorau a chynghorau o ysgolion eraill er enghraifft, y prosiect ailgylchu cyngor cymuned Llanrhaeadr a phrosiect Ffynnon Dyfnog.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol