Arfer Effeithiol |

Creu’r Amodau i Ffynnu - Creu Diwylliant o Ddysgu Proffesiynol

Share this page

Mae'r ysgol wedi darparu deunydd ysgrifenedig.

Yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî, rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant o ddysgu ers i’r ysgol agor ym mis Medi 2017. Yn fy mhrofiad i, mae arweinwyr yn sbarduno ymddygiad ac mae ymddygiad yn creu diwylliant. Mae ein diwylliant yn un o allbynnau ein hymddygiad. I sefydlu diwylliant o ddysgu proffesiynol, rydym wedi canolbwyntio ar y cysyniad o ‘broses yn hytrach na chynnyrch’. Datblygu prosesau i alluogi’r holl staff i ddysgu a chydweithio, wedi’u tanategu gan ein datganiad o genhadaeth, sef ‘Ysbrydoli, Annog a Dathlu Llwyddiant’. Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ffocws ar ein datganiad o genhadaeth, mae gennym dair egwyddor gweledigaeth sy’n llywio ein penderfyniadau ac yn ffurfio sylfaen ar gyfer ein diben strategol.

Rydym yn ymrwymo i:

Sbarduno awch i ddysgu
Creu’r amodau i ffynnu
Tyfu gyda’n gilydd gyda’r gymuned

Mae egwyddorion ein gweledigaeth, dylunio’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol i gyd yn triongli i gefnogi ein datblygiad fel sefydliad sy’n dysgu. Mae pob un o’r elfennau’n cyd‑ddibynnu ar ei gilydd ac yn ymateb yn hyblyg i anghenion ein cymuned a pholisi cenedlaethol. Ni allwn ganolbwyntio ar un agwedd yn unig, er enghraifft datblygu’r cwricwlwm, heb ystyried sut mae hyn yn cysylltu ag egwyddorion ein gweledigaeth a dysgu proffesiynol.

Sut mae eich dull o gynllunio’r cwricwlwm a dysgu a datblygiad proffesiynol yn triongli â’ch gweledigaeth?

Wrth ystyried polisi cenedlaethol ac ymateb iddo, mae’n bwysig i ni beidio â cholli golwg ar y diben moesol a’n ‘pam?’. Mae’r disgwyliad ar y proffesiwn addysgu yn uchel, ac yn fwy nag erioed yn yr hinsawdd bresennol o ddiwygio addysgol mawr yng Nghymru. Yn ystod cyfnod newid o’r fath, mae’n hanfodol, fel arweinwyr ysgol, ein bod yn parhau â ffocws ar egwyddorion ein gweledigaeth ac yn datblygu perthnasoedd cydweithio cryf. Mae hinsawdd gadarnhaol ar gyfer dysgu yn mynnu cyfathrebu clir, agored a gonest ac ymrwymiad i’n proffesiwn. Canlyniad hynny yw ymddiriedaeth, sy’n elfen hanfodol o gydweithio.

Dechreuom drwy weithio gyda’r holl staff i archwilio ein gallu proffesiynol a gofyn ‘beth mae’n ei olygu i fod yn aelod o staff yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî?’ Arweiniodd y myfyrio hwn at siarter a ddatblygwyd ar y cyd ar gyfer yr holl staff, ac ymrwymiad ar y cyd i ddysgu, ymholi a chymryd cyfrifoldeb am ein dysgu proffesiynol.

Beth mae'n ei olygu i fod yn aelod o staff yn eich ysgol?

Er mwyn i staff ysgwyddo cyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol eu hunain, mae gofyn am hinsawdd a diwylliant o ymddiriedaeth. Mae arweinwyr ysgol yn creu diwylliant o’r fath drwy roi ystyriaeth ofalus i systemau a strwythurau sy’n canolbwyntio ar ddysgu. Mae ein strwythur yn sicrhau bod gan bob arweinydd gyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol. Yn fy mhrofiad a’m barn i, nid gwaith un arweinydd yn unig yw hynny. Mae arweinyddiaeth gydweithredol o’r fath yn sicrhau eglurder, cydlyniant ac ymrwymiad i ddysgu proffesiynol o’r cychwyn cyntaf, a chefnogir hynny ymhellach gan lwybrau penodol. Mae ein llwybrau dysgu a datblygiad proffesiynol yn gwerthfawrogi’r dewisiadau y mae staff unigol yn eu gwneud yn ein hysgol; boed hynny’n rôl arwain, bod yn athro neu gynorthwyydd addysgu, neu arbenigo mewn maes penodol. Mae pob llwybr yn cynnwys cyfleoedd sydd ar gael i’r holl staff yn yr ysgol, ac maent yn rhoi hawl i gael dilyn pob llwybr dysgu unigol.

Pa systemau a strwythurau sydd ar waith yn eich ysgol? A ydynt yn canolbwyntio ar ddysgu ac a ydynt yn hyrwyddo cydweithredu? A ydynt yn darparu llwybrau dysgu unigol a hawl iddynt?

Nid yw llwybrau dysgu unigol yn golygu bod yr holl staff yn gweithio mewn seilos a bod eu gweithredoedd yn gwahaniaethu ar draws yr ysgol. I’r gwrthwyneb, mae’r holl ddysgu proffesiynol yn canolbwyntio ar egwyddorion ein gweledigaeth a gwella’r ysgol. Mae wedi’i gynllunio’n dda fel ei fod yn cynnwys cyfuniad o ymagweddau, ac yn canolbwyntio ar ein hiaith ddysgu gyffredin.

Mae ein hiaith ddysgu yn cefnogi dealltwriaeth gyfunol o’r Cwricwlwm i Gymru, ffocws ar arfer fyfyriol a thwf proffesiynol. Rydym yn gwneud dewisiadau ynglŷn â’n defnydd o iaith; er enghraifft, nid ydym yn cael ‘cyfarfodydd staff’;  yn lle hynny, cawn ‘sesiynau dysgu a datblygu proffesiynol’. Gall newid mor fach â hynny gael effaith fawr ar draws yr ysgol. Mynychir ein sesiynau wythnosol gan athrawon a chynorthwywyr addysgu, a chânt eu cynllunio ymlaen llaw bob tymor. Arweinir y sesiynau gan staff yn ein hysgol, gan werthfawrogi’u harbenigedd a sicrhau bod cynnwys sesiynau yn bwrpasol i’n hysgol. Gwnawn y gorau o’r amser sydd ar gael drwy sicrhau bod sesiynau yn cynnwys ffocws a’u bod yn darparu amser i staff siarad, myfyrio a chydweithio.

Beth yw eich iaith dysgu?

O brofiad, mae darparu amser i staff siarad a chydweithio yn hanfodol. Darparwn amser i’n hathrawon a chynorthwywyr addysgu wneud ymchwil sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’n gwaith gwella’r ysgol. Bob pythefnos, rhoddir amser darllen ac ymchwilio pwrpasol i athrawon sydd wedi bod yn hanfodol i ddatblygu ein cwricwlwm ac arfer fyfyriol. Yn ogystal, mae’r holl staff yn gwneud gwaith ymholi proffesiynol unigol trwy gydol y flwyddyn, ac eto, rhoddir amser i staff ymdrwytho’n llwyr yn y gwaith hwn.

Caiff yr holl staff eu cefnogi i fod yn ymarferwyr myfyriol. Maent yn cadw dyddiadur dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar eu cynnydd a’u heffaith. Maent hefyd yn mapio cynllun proffesiynol pum mlynedd.  Rydym wedi canfod fod symud i ffwrdd oddi wrth feddwl am gynnydd mewn blynyddoedd academaidd ac annog twf tymor hwy wedi galluogi staff i ystyried yr effaith y maent yn ei chael ym meysydd y safonau proffesiynol a beth sydd angen iddynt barhau i’w wneud er mwyn ffynnu fel gweithiwr proffesiynol.

 Sut ydych chi'n cefnogi'ch staff i ddod yn ymarferwyr myfyriol?

Mae creu’r amodau i’n hymarferwyr ffynnu yn cael ei alluogi drwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Yn ein hysgol, anogir galluogedd athrawon, disgwylir galluogedd cydweithio a darperir amser pwrpasol i’r holl staff ymchwilio, cydweithio a threialu syniadau newydd. Ceir diben cyfunol, ac mae hyn, law yn llaw ag ymddiriedaeth, o fudd i staff a phlant yn y pen draw. Rydym yn gwybod bod plant yn dysgu o bopeth sydd o’u hamgylch - pobl, yr amgylchedd, atmosffer, trefn arferol a phrofiadau. Fel pennaeth, rwy’n credu y dylai ysgolion roi ffocws diwyro ar ddysgu. Er mwyn i hyn fod yn realiti, mynnir diwylliant o ddysgu, perthnasoedd effeithiol ac ymddiriedaeth, fel y rhoddir y cyfle i’r holl ymarferwyr a phlant i ffynnu.

Sut ydych chi’n meithrin gallu eich cymuned ddysgu er mwyn i’r holl staff ffynnu?

Catherine Place

Pennaeth
Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî, Casnewydd, De Cymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Llywodraethwyr Ysgol - Gweithredu fel ffrindiau beirniadol ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022-2023. ...Read more