Dros y blynyddoedd, mae’r ysgol wedi meithrin a datblygu perthynas dryloyw, onest a hygyrch gyda’i theuluoedd. O ganlyniad i hyn, mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo a’u hannog yn dda i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ddysgu a bywyd ysgol eu plant.
Mae’r ysgol yn annog rhieni i fod yn rhan weithredol o ddysgu eu plentyn. Caiff rhieni eu hysbysu’n dda iawn trwy blatfformau dysgu ar-lein. Mae cyfathrebu’n digwydd dwy ffordd, a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i deuluoedd yn rheolaidd am weithgareddau’r ysgol a datblygiad eu plentyn. Mewn gwirionedd, mae Pupil Press yn anfon cylchlythyrau wythnosol at rieni am waith pob ystafell ddosbarth unigol a gweithgareddau ysgol gyfan. Ymgynghorir â rhieni’n rheolaidd tra’n datblygu a chynllunio’r cwricwlwm newydd. Mae ymgysylltu â nhw yn ofalus yn y broses hon yn dylanwadu’n uniongyrchol ar gynllunio’r ysgol wrth greu profiadau dysgu dilys ar gyfer disgyblion, a sut orau y gall gefnogi eu dysgu gartref.
Cefnogi teuluoedd yw prif nod yr ysgol, ac mae sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn gallu cymryd rhan yn yr holl weithgareddau yn holl bwysig. Ar y platfform dysgu ar-lein, rhennir targedau pob un o’r disgyblion gyda rhieni, sy’n cael eu hannog i ymarfer y camau dysgu hanfodol hyn gartref. Mae’r ysgol hefyd yn gwahodd teuluoedd i’r ysgol ar gyfer gweithdai i fodelu ymagweddau effeithiol at wella dysgu eu plant, ac yn cefnogi’r sesiynau hyn â thaflenni gwybodaeth sy’n cynnig awgrymiadau a chynghorion. Mae’r rhain bob amser yn cael eu croesawu’n dda ac yn helpu datblygu’r diwylliant o agosatrwydd ac ymrwymiad ar y cyd i ennyn diddordeb disgyblion yn eu dysgu.
Mae’r CydADY yn gweithio’n effeithiol gyda staff i sicrhau bod cymorth priodol ac effeithiol yn cael ei gynnig i bob plentyn. Mae’r ysgol yn gweithio ochr yn ochr â rhieni i greu proffiliau un dudalen ar gyfer pob plentyn, sy’n cael eu trafod a’u haddasu bob tymor. Mae’r ysgol yn sicrhau ei bod yn cyfeirio rhieni tuag at asiantaethau eraill sy’n gallu cynnig cymorth, ac mae ganddi berthynas ragorol â’i gweithiwr cyswllt â theuluoedd. Mae’r ysgol wedi sefydlu cysylltiadau â gwahanol elusennau ac asiantaethau i sicrhau bod ei theuluoedd yn gallu fforddio gwibdeithiau ysgol ac anrhegion Nadolig i helpu lliniaru yn erbyn costau argyfwng byw a gwella profiadau ei phlant gartref ac yn yr ysgol.