Dros y blynyddoedd diwethaf, fe wnaeth yr ysgol feithrin ac annog perthnasoedd cefnogol a gofalgar â theuluoedd, gan ychwanegu ymhellach at y perthnasoedd hyn yn ystod COVID. Cydnabu’r ysgol fod adnabod teuluoedd yn fanwl yn allweddol nid yn unig i ddatblygu perthnasoedd cryf ond hefyd i wella canlyniadau i ddisgyblion.
Buddsoddodd arweinwyr a staff yn sylweddol mewn dod i adnabod y disgyblion a bodloni eu hanghenion lles yn effeithiol. Er enghraifft, yn y sesiynau lles ar ddechrau pob dydd, mae disgyblion yn dewis eu gweithgareddau eu hunain i’w helpu i dawelu a pharatoi at ddysgu. Mae’r sesiynau hyn yn galluogi staff i arsylwi disgyblion a chefnogi’r disgyblion y gwelant fod angen cymorth emosiynol, meddyliol a chorfforol arnynt. I wella hyn ymhellach, defnyddiodd y tîm arwain rywfaint o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol i ariannu a hyfforddi aelodau staff i gyflwyno darpariaeth anogaeth yn y ‘Nyth’. Ers agor ym Medi 2022 a hyd at Fawrth 2023, cefnogodd y cyfleuster un o bob pump o ddisgyblion yr ysgol trwy grwpiau bach a sesiynau unigol wedi’u cynllunio’n ofalus, a system hunanatgyfeirio lwyddiannus. Sefydlwyd y system hon i roi cyfle i ddisgyblion siarad ag aelod hyfforddedig o staff am unrhyw anawsterau, neu bryderon yr oeddent am eu rhannu. Yn wreiddiol, cynigiodd yr ysgol hyn i ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6, ond oherwydd ei llwyddiant, fe wnaethant ei gyflwyno i ddisgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4, hefyd. Mae disgyblion yn gofyn am slot unigol yn ystod amser cinio, y mae eu hathro dosbarth yn ei drefnu ar system archebu ganolog. Mae’r rhain yn sesiynau anffurfiol, un i un, lle mae’r disgyblion yn chwarae gemau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol tra’n siarad am eu pryderon neu eu hanawsterau. Mae staff yn cadw slotiau i unrhyw ddisgyblion sydd angen apwyntiad mwy brys, yn eu barn nhw. Mae staff yn cofnodi manylion y sesiynau hyn ac yn eu defnyddio i ennill dealltwriaeth fwy cyfannol o’r disgybl. Lle y bo’n briodol, mae’r ymarferwyr lles yn rhannu’r wybodaeth hon gydag athro dosbarth y plentyn ac yn trafod a oes angen cymorth ar y plentyn yn y dosbarth.
Mae staff yn rhoi cyfle i ddisgyblion sy’n troi at y system hunanatgyfeirio yn rheolaidd fod yn rhan o grŵp sy’n cymryd rhan mewn sesiynau cymorth lles emosiynol mwy dwys. Cynhelir y sesiynau hyn yn ddyddiol ac maent yn para hanner tymor. Mae ffocws y sesiynau yn bwrpasol i anghenion y disgyblion sydd wedi amlygu eu hunain trwy’r system atgyfeirio. Mae hyn yn caniatáu i staff weld y disgyblion hynny na fyddent o reidrwydd yn gwybod bod angen cymorth emosiynol ychwanegol arnynt.