Yn amgylchedd y dosbarth meithrin, mae ymarferwyr yn rhoi cyfleoedd i blant ddefnyddio adnoddau o fywyd go iawn i wneud dewisiadau annibynnol ac i ddatrys problemau. Yn lle teganau plastig mewn lliwiau llachar, mae adnoddau pen agored o fywyd go iawn a ‘rhannau rhydd’. Bydd ymarferwyr ond yn ymyrryd yn chwarae’r plant pan fyddant yn teimlo bod cyfle da i ehangu ar eu dysgu a’u dealltwriaeth.
Mae gan staff ddisgwyliadau uchel ar gyfer yr holl blant ac maent yn dathlu meddylfryd twf. Mae ymarferwyr yn chwarae rhan allweddol wrth fodelu a meithrin medrau annibynnol. Mae hyn i’w weld yn narpariaeth byrbrydau dyddiol y dosbarth meithrin. Mae bron pob un o’r disgyblion yn arllwys eu diod eu hun, yn defnyddio cyllyll, plicwyr ac offer arall yn ddiogel, ac yn golchi eu cwpan a’u plât eu hunain. Mae ymarferwyr hefyd yn defnyddio’r amser hwn i ddatblygu defnydd a dealltwriaeth y disgyblion o’r Gymraeg.
Mae sesiwn y dosbarth meithrin yn dilyn ‘rhythm’ y plentyn ac nid oes tarfu ar eu dysgu i gynnal gweithgareddau â ffocws. Yn ystod y sesiwn dwy awr a hanner, nod ymarferwyr yw sicrhau cydbwysedd, lle y caiff plant gyfle i ddatblygu medrau bywyd pwysig ond, hefyd, dilyn eu diddordebau a phethau maen nhw’n angerddol amdanynt. Pan mae disgybl yn gwneud darganfyddiad neu pan mae’n gofyn cwestiwn, mae’r ymarferwyr yn dilyn ei arweiniad ac yn rhoi amser, lle a chymorth i ymchwilio i’w feddyliau a’i syniadau ymhellach, a’u harchwilio. Mae’r dull hwn yn cyfeirio dysgu’r holl ddisgyblion.
Lle y nododd yr ysgol bod ysgrifennu yn weithred ysgol gyfan yng nghynllun gwella’r ysgol, dechreuodd yr ymarferwyr meithrin ymchwilio i’r medrau cyn ysgrifennu yr oedd eu hangen ar blant er mwyn ysgrifennu. Nod yr holl ddysgu yn y dosbarth meithrin yw adeiladu’r sylfeini y mae eu hangen yn barod i ysgrifennu, fel datblygu cyhyrau craidd plant trwy chwarae yn yr awyr agored, a chyfleoedd i ddatblygu cydsymud trwy baentio ar raddfa fawr ar wahanol uchderau ac onglau.