Arfer Effeithiol |

Addysgu mewn amgylchedd heriol

Share this page

Nifer y disgyblion
60
Ystod oedran
15-19
Dyddiad arolygiad

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae oedran y bobl ifanc yn yr uned troseddwyr ifanc yng Ngharchar y Parc yn amrywio o 15 i 17 oed. Mae lle yn yr uned ar gyfer hyd at 60 o bobl ifanc a dyma’r unig un yng Nghymru. Daw’r bobl ifanc o Gymru yn bennaf, y de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr. Mae hyd eu dedfrydau yn amrywio ond mae gan nifer sylweddol o bobl ifanc yn yr uned ddedfrydau hir, sy’n hwy na’u hoedran presennol, mewn ychydig achosion. Hefyd, mae pobl ifanc yn cael eu cadw yn y ddalfa yn yr uned, yn aros am ddedfryd. Mae llawer ohonynt wedi bod i mewn ac allan o ofal neu leoliadau troseddwyr ifanc am lawer o’u bywyd. Nid yw bron pob un o’r bobl ifanc wedi mynychu’r ysgol yn rheolaidd, os o gwbl, ers pan oeddent yn ifanc iawn, neu mae eu profiad o addysg ffurfiol wedi bod yn wael iawn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Y weledigaeth ar gyfer y ganolfan dysgu a medrau yw ‘gwella dyfodol pob person ifanc a newid bywydau’. Mae arweinwyr a staff yn hybu cyfle cyfartal ac yn rhoi pwys ar amrywiaeth. Rhoddant bwyslais cryf ar helpu’r bobl ifanc i wella’u hunan-barch a’u parch tuag at eraill, ynghyd â datblygu’u hyder. Eu nod yw bod pobl ifanc yn gadael y carchar gyda medrau a fydd yn caniatáu iddynt roi eu hymddygiad troseddol y tu ôl iddynt ac ymgymryd â rolau defnyddiol mewn cymdeithas.

Mae’r ganolfan yn darparu addysg amser llawn (25 awr yr wythnos) i ddysgwyr mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Mae disgyblaeth gaeth y carchar ar waith yn holl ardaloedd cymunedol yr uned ac mae cosbau clir i’r rheini sy’n torri’r rheolau. Mae staff diogelwch, arweinwyr addysg ac athrawon yn cydweithio’n dda i sicrhau amgylchedd diogel. Mae athrawon a phobl ifanc yn cydweithio mewn ystafelloedd dosbarth dan glo ac maent yn cael eu harchwilio wrth fynd i mewn i’r ystafell ddosbarth ac wrth ei gadael. Er gofyniad y carchar am ddiogelwch, mae athrawon yn cynnal awyrgylch dymunol, cefnogol a phwrpasol yn yr ystafelloedd dosbarth. Mae waliau ac, weithiau, y nenfydau a’r lloriau, wedi’u haddurno â gwybodaeth a phosteri defnyddiol, sy’n benodol i’r pwnc.

Mae cyflenwad rheolaidd o ddŵr, ffrwythau a byrbrydau iach ar gael i’r dysgwyr yn ystod y dydd. Mae gan y ganolfan lyfrgell dda a llyfrgellydd preswyl. Mae ystafell gerddoriaeth a chanddi offer da, gyda thechnoleg electronig gyfredol. Hefyd, mae cegin hyfforddi a ffreutur. Mae dysgwyr yn symud i rannau eraill o’r carchar i ddefnyddio gweithdai crefft, lle maent yn dysgu medrau gwaith ymarferol. Hefyd, mae campfa ac ystafell ffitrwydd ar gael i ddysgwyr, lle y maent yn gwella’u ffitrwydd ac yn dysgu am ffyrdd iach o fyw.

Cynhelir asesiad o lefelau medrau sylfaenol pobl ifanc o fewn tridiau o gyrraedd yr uned a chânt eu neilltuo i ‘lwybr’ dysgu sy’n fwyaf addas i’w hanghenion a’u diddordebau, er enghraifft arlwyo gyda mathemateg, Saesneg a TGCh. Mae staff yn nodi’r bobl ifanc hynny ag anghenion dysgu ychwanegol a rhoddant raglenni dysgu a chymorth priodol ar waith. Mae staff yn rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr ag ADY.

Mae’r cwricwlwm presennol yn adlewyrchu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a pholisi Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, sef Ymestyn Hawliau. Gall dysgwyr gael at raglenni ychwanegol y tu hwnt i’r amserlen arferol, i gynorthwyo ymhellach â’u hailintegreiddio i gymdeithas adeg eu rhyddhau.

Mae gan lawer o’r bobl ifanc anghenion cymhleth ac amrywiol. Mae athrawon yn defnyddio dull amlddisgyblaeth, dysgwr-ganolog, i weithio gyda nhw. Mae gan yr athrawon ymrwymiad cryf i gefnogi dysgwyr a gwneud y mwyaf o’u potensial yn ystod eu dedfryd a thuag at ailsefydlu. Mae athrawon yn hyrwyddo parch ac yn dangos amynedd diddiwedd. Gall y bobl ifanc yn yr uned fod yn heriol ac ymddwyn yn afreolus ac yn danllyd weithiau. Fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf o bobl ifanc barch gwirioneddol tuag at y staff addysgu ac maent yn gwerthfawrogi’r addysgu a’r cymorth a roddir iddynt. Mae staff yn modelu ymddygiad parchus trwy ysgwyd llaw â phob dysgwr a’i gyfarch gyda’i enw ar ddechrau ac ar ddiwedd pob gwers, beth bynnag sydd wedi digwydd yn ystod y sesiwn. Mae hyn yn hyrwyddo ymdeimlad o urddas a hunan-werth yn y dysgwyr ac mae’n pwysleisio y gall pob sesiwn fod yn ddechrau newydd. Er gwaethaf yr amgylchiadau, mae staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yr amgylchedd dysgu yn ddymunol ac yn gefnogol. 

Gall galluoedd dysgwyr amrywio o lefel mynediad 3 i TGAU. Mae athrawon yn gyfarwydd â lefelau dysgwyr newydd ac maent yn defnyddio gweithgareddau wedi’u gwahaniaethu yn dda i sicrhau bod pawb yn gallu elwa o’r dysgu. Caiff addysgu ei gynllunio i ddarparu cymaint â phosibl ar gyfer anghenion unigol dysgwyr. Mae hyn yn aml yn heriol pan fydd hyd dedfrydau yn amrywio a chaiff dysgwyr eu symud o gwmpas y system carchardai ar fyr rybudd, weithiau. Fodd bynnag, mae athrawon yn paratoi gwersi sydd wedi’u cynllunio’n dda, gan ddefnyddio deunyddiau sy’n ysgogi ac yn diddori’r dysgwyr. Ni chaniateir mynediad i’r bobl ifanc at y rhyngrwyd felly mae llawer o’r deunydd yn cael ei ddylunio a’i gynhyrchu gan yr athrawon, ar sail eu gwybodaeth am anghenion ac arddulliau dysgu’r dysgwyr. Mae’r addysgu o safon uchel iawn ac mae’n ysbrydoledig yn aml.

Mae arweinwyr a staff yn dîm agos ac yn cefnogi’i gilydd yn dda. Maent yn cynnal cyfarfodydd wythnosol lle maent yn monitro cynnydd dysgwyr drwy gynlluniau dysgu unigol. Rhoddant waith unigol i ddysgwyr sydd wedi’u cyfyngu i’w celloedd. Anaml y mae troseddwyr yn gwrthod mynychu addysg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ennill medrau a gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn eu helpu yn eu bywyd a’u perthnasoedd yn y dyfodol, ac a fydd yn eu helpu i gael gwaith ac osgoi ymddygiad troseddol yn y dyfodol. Yn ystod eu cyfnod yn yr uned, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwella ddau lefel cyflawniad neu fwy. Mae llawer o bobl ifanc yn llwyddo i ennill cymwysterau sy’n eu helpu i fynd ymlaen i ddysgu pellach neu i addysg ffurfiol y tu hwnt i ddrysau’r carchar. Mae llawer ohonynt yn cynhyrchu gwaith ymarferol, fel cypyrddau llyfrau neu gadeiriau i’w teulu a’u brodyr/chwiorydd, a hynny o safon uchel iawn. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt ac mae’n gwneud eu teuluoedd yn falch. Mae llawer o bobl ifanc yn cyrraedd y carchar gyda lefelau llythrennedd a rhifedd isel iawn. Mae llawer ohonynt yn gwella’u llythrennedd a’u rhifedd yn ystod eu cyfnod yn y carchar, sy’n cynyddu cyflogadwyedd pobl ifanc. Fodd bynnag, effaith bwysicaf yr addysgu yw’r gwelliant yn hunan-barch pobl ifanc, gan hybu ymdeimlad o urddas a gobaith am well cyfleoedd mewn bywyd y tu hwnt i ddrysau’r carchar.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol