Adroddiad thematig |

Ymweliadau addysgol mewn colegau addysg bellach - mewnwelediadau hydref 2022

Share this page

Adroddiad thematig | 15/02/2023

pdf, 397.79 KB Added 15/02/2023

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o ymweliadau ymgysylltu arolygwyr cyswllt a galwadau a wnaed i golegau addysg bellach rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022 gyda ffocws ar ymweliadau addysgol. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd ar-lein gydag uwch arweinwyr, arweinwyr canol, arweinwyr ymweld, athrawon, a staff cymorth. Y ffocws ar gyfer trafodaethau oedd y darlun presennol o ran ymweliadau addysgol, gan gynnwys ystyried sut mae colegau wedi ymateb i’r argymhellion a ddaeth yn sgil adolygiad thematig Estyn, Adolygiad o bolisïau ymweliadau addysgol yn y sector addysg bellach (Estyn, 2015). Gofynnwyd i golegau am effaith ymweliadau addysgol ar gyfer dysgwyr hefyd, a gofynnwyd iddynt rannu unrhyw heriau neu ystyriaethau pellach hefyd.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol