Adroddiad thematig |

Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? Mai 2012

Share this page

Mae’r adroddiad yn nodi ac yn esbonio materion sy’n ymwneud â lleoedd dros ben mewn ysgolion, yn cynnwys dulliau ar gyfer arfarnu’r costau cysylltiedig ac effaith dileu lleoedd dros ben.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried mabwysiadu dull safonol i’w ddefnyddio ar lefel genedlaethol ar draws pob ysgol er mwyn nodi cost gyfartalog lleoedd dros ben ac ysgolion dros ben;
  • hyrwyddo gostwng lleoedd dros ben yn dystiolaeth o reoli adnoddau yn well a’r effaith ar wella ysgolion yn hytrach na fel diben ynddo’i hun;
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu a hyrwyddo arfer dda wrth arfarnu effaith cynlluniau ad-drefnu ysgolion;
  • gofyn i awdurdodau lleol gynnal asesiadau effaith ar gynlluniau ad-drefnu ysgolion lle defnyddir arian Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gweithredu; a
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r strategaethau trefnu ysgolion a rheoli asedau hynny sy’n cyfrannu yn y modd mwyaf cadarnhaol at ddeilliannau ar gyfer dysgwyr a hyrwyddo eu defnydd ar draws yr holl gonsortia awdurdodau lleol.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod arweinwyr strategol yn blaenoriaethu trefnu ysgolion a rheoli asedau, gan ystyried yr effaith ar effeithiolrwydd ysgolion;
  • ennyn yr holl aelodau etholedig, swyddogion a phenaethiaid yn yr ymdrech i ryddhau adnoddau er mwyn buddsoddi mewn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr;
  • monitro ac arfarnu’r holl brosiectau ad-drefnu ysgolion yn ofalus er mwyn nodi adnoddau a ryddhawyd a’u heffaith ar wella deilliannau ar gyfer dysgwyr;
  • gwella defnydd swyddogion o’r holl ddata sydd ar gael i ysgogi datblygiadau strategol ac arfarnu eu heffaith, gan ddefnyddio her o drefniadau craffu’r awdurdod; a
  • chydweithio o fewn y consortia i hyrwyddo arfer dda, yn enwedig mewn perthynas â nodi a gweithredu i fynd i’r afael â thanberfformio.