Adroddiad thematig |

Strategaethau effeithiol i ddysgwyr ennill medrau allweddol mewn fframweithiau cymhwyster - Mehefin 2008

Share this page

Er Mai 2006, mae gwelliant sylweddol wedi bod yn nifer y dysgwyr sy’n cwblhau cymwysterau medrau allweddol. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, mae gofynion medrau allweddol ar gyfer fframweithiau cymwysterau wedi newid fel nad ydynt mor feichus ag yr oeddent yn y gorffennol. At hynny, mae darparwyr wedi rhoi strategaethau effeithiol ar waith i wella ansawdd, cyflwyno ac ennill medrau allweddol a fframweithiau cymhwyster. Mae ffactorau eraill, er enghraifft y ffordd y caiff tystiolaeth ategol ei chasglu, wedi cyfrannu at y cynnydd hwn mewn cyrhaeddiad.Mae pob darparwr wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi i wella eu dealltwriaeth a’u harbenigedd mewn medrau allweddol. Mae’r hyfforddiant hwn wedi helpu rhannu arfer dda hefyd.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • wneud yn siŵr bod trefniadau cytundebol ar waith gyda darparwyr dysgu yn y gwaith i sicrhau ennill fframweithiau cymhwyster;
  • parhau i ddarparu cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer medrau allweddol ar lefel genedlaethol i helpu darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ansawdd eu hyfforddiant a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n cyflawni’r fframweithiau cymhwyster; a
  • gwella’r ffordd y caiff data ei gasglu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i alluogi darparwyr dysgu yn y gwaith i feincnodi eu perfformiad yn gywir a nodi meysydd o’u gwaith y mae angen eu gwella.

Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:

  • ddatblygu strategaethau ymhellach i gynyddu cyrhaeddiad dysgwyr mewn medrau allweddol a fframweithiau cymhwyster; a
  • gwneud yn siŵr bod hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, yn cynnwys medrau allweddol, yn rhan orfodol o raglenni dysgu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol