Adroddiad thematig |

Maint ysgolion ac effeithiolrwydd addysgol - Rhagfyr 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/12/2013

pdf, 1.05 MB Added 01/12/2013

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn ar gyfer 2012-2013 gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Yn flaenorol, mae Estyn wedi adrodd i Lywodraeth Cymru ar ysgolion cynradd bach, mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2006. Mae’r adroddiad hwn yn diweddaru canfyddiadau’r adroddiad hwnnw ac mae iddo gwmpas ehangach.

Mae’r adroddiad yn edrych ar effeithiolrwydd addysgol ysgolion bach, canolig a mawr ar sail canfyddiadau arolygiadau o’r cylch cyfredol o arolygiadau (2010-2013) ac ar ganlyniadau arholiadau ac asesiadau. Mae’n edrych ar ddeilliannau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ysgolion o feintiau gwahanol ac yn canolbwyntio ar ddangosyddion ansawdd arolygiadau yn ymwneud â safonau, lles, profiadau dysgu, addysgu, arweinyddiaeth a gwella ansawdd.

Gall sawl ffactor ddylanwadu ar berfformiad ysgol, yn ogystal â’i maint. Mae amddifadedd yn un ffactor pwysig sy’n gallu effeithio ar berfformiad ysgol ac rydym yn ystyried ei effaith yn yr adroddiad hwn.

Bwriedir i’r adroddiad fod yn bapur trafod ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phenaethiaid a staff mewn ysgolion.