Adroddiad thematig |

Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3: Adroddiad interim - Ionawr 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 02/01/2015

pdf, 582.1 KB Added 02/01/2015

Yr adroddiad hwn yw’r ail mewn cyfres a gyhoeddwyd i ymateb i gais am gyngor yn adroddiad cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. Mae’n edrych ar safonau mewn llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 a’r modd y mae detholiad o ysgolion uwchradd wrthi’n datblygu medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm, gyda chyfeiriad penodol at roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRhC) ar waith ac effaith ei elfen lythrennedd.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • roi dull trawsgwricwlaidd dilyniannol a chydlynus ar waith o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion, yn unol â disgwyliadau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd;
  • olrhain a monitro’r dilyniant ym medrau llythrennedd disgyblion yn erbyn disgwyliadau diwedd blwyddyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd;
  • annog arbenigwyr pwnc Cymraeg a Saesneg i arwain mewn gwella cysylltiadau rhwng pynciau i gefnogi dull cyson a dilyniannol o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion;
  • darparu cyfleoedd a chymorth da ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion wella eu hysgrifennu, gan gynnwys ei gywirdeb technegol; a
  • monitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella medrau llythrennedd disgyblion.

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:

  • egluro rolau awdurdodau lleol, consortia a’r partneriaid cymorth cenedlaethol ar gyfer hyfforddi a chynorthwyo ysgolion i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar waith; a
  • gwella’r defnydd o gyfarfodydd clwstwr pontio i sefydlu dull cyson o addysgu medrau llythrennedd.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • drefnu bod deunyddiau cymorth i ysgolion ar gael cyn datblygu’r fframwaith ymhellach;
  • gwneud yn siŵr bod pob ysgol yn gallu manteisio ar ddeunyddiau cymorth yn hawdd; a
  • rhoi arweiniad clir i ysgolion ar asesu a chynnig enghreifftiau o safonau llythrennedd disgwyliedig ar draws pob pwnc.

Astudiaethau achos o arfer orau

  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili
  • Elfed High School. Sir y Fflint
  • Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Bro Morgannwg

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol