Adroddiad thematig |

Lleoliadau awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion arbennig annibynol - Hydref 2008

Share this page

Nid yw cynllunio awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi bod yn ddigonol. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion ag anghenion dysgu cymhleth yn aml yn cael eu lleoli y tu allan i’w hardal leol.Yn yr ysgolion y gwnaethom arolwg ohonynt, canfuwyd nad yw anghenion cymhleth y mwyafrif o ddisgyblion yn cael eu bodloni. Nid yw awdurdodau lleol ac ysgolion annibynnol bob amser yn ystyried yr ystod lawn o anghenion disgyblion pan fyddant yn asesu ymddygiad y disgyblion.Mae’r gweithdrefnau monitro mwyaf effeithiol wedi digwydd o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth yn dda. Fodd bynnag, nid yw’r trefniadau ar gyfer cydweithio wedi datblygu digon ar y cyfan.

Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol:

  • gynllunio gwasanaethau yn strategol mewn partneriaeth â phobl eraill i ddarparu cymorth effeithiol nad yw’n addysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig cymhleth a’u teuluoedd;
  • gwneud yn siŵr bod ysgolion arbennig annibynnol sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig yn gallu bodloni ystod o anghenion cymhleth disgyblion unigol cyn eu lleoli; a
  • sicrhau bod gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal yn cael ei rhoi i’r ysgol cyn lleoli’r disgyblion.

Dylai ysgolion arbennig preswyl sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig:

  • sicrhau eu bod yn derbyn disgyblion y mae ganddynt arbenigedd i’w haddysgu yn unig; a
  • pheidio â derbyn disgyblion nes eu bod wedi cael gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal gan yr awdurdod lleoli.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol